Gwerthuso llwyddiant cynnwys golygyddol
URN: SKSJ24
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â gwerthuso llwyddiant cynnwys golygyddol a chyfrannu tuag at adolygiadau prosiect a chynnig a derbyn adborth adeiladol.
Mae'n ymwneud â deall y meini prawf ar gyfer llwyddiant gaiff eu defnyddio i farnu cynnwys golygyddol, a dysgu o'r broses adolygu.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n gwerthuso llwyddiant cynnwys golygyddol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwerthuso cynnwys golygyddol yn erbyn meini prawf sefydlog ar gyfer llwyddiant
- gofalu bod y rhesymau dros eich barnau yn eglur a chyfiawnadwy
- defnyddio data mesurol ac ansoddol er mwyn helpu gyda'r broses adolygu
- trefnu adolygu cynnwys golygyddol i'w gyflawni yn defnyddio dulliau sy'n annog trafodaeth blaen ac agored
- cyfrannu tuag at adolygiadau ar adegau priodol
- cynnig adborth i eraill ynghylch eu cyfraniad sy'n briodol i'r cyd-destun ac sy'n cynnal eu cymhelliad i gyfrannu tuag at gynnyrch y mudiad
- sefydlu a chymryd rhan mewn prosesau adolygu ar gyfer cynnwys golygyddol sy'n cynnig gwybodaeth gellir ei ddefnyddio ar gyfer gwella yn y dyfodol
- defnyddio gwybodaeth rydych wedi ei dysgu o adolygiadau sy'n gwella perfformiad ac yn osgoi ail-adrodd camgymeriadau mewn gwaith yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gynulleidfa a'r gofynion golygyddol y dylid eu hystyried wrth asesu unrhyw gynnwys golygyddol
- sut i ddatblygu meini prawf er mwyn barnu llwyddiant cynnwys golygyddol
- dulliau cynnig adborth – a sut i gynnig a derbyn adborth adeiladol
- sut i adnabod data mesurol perthnasol ynghylch cynulleidfaoedd, marchnata a gwerthiannau
- technegau ar gyfer trefnu trafodaeth ar adborth sy'n annog mynegi barn yn blaen ac yn agored
- pryd mae hi'n briodol i gyfrannu a sut i fynegi barn mewn ffordd adeiladol heb bechu neu ddigalonni eraill
- ffynonellau o adborth ansoddol gan gynulleidfaoedd, hysbysebwyr neu rhanddeiliaid allweddol eraill sy'n berthnasol i'r cynnwys golygyddol
- sut i fanteisio ar a dosbarthu gwybodaeth a gafwyd o adolygiadau ar gynnwys golygyddol
- cyfreithiau, rheoliadau diwydiant a chanllawiau golygyddol cyfundrefnol perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSJ24
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
2471
Geiriau Allweddol
Cynnwys, Gwerthuso, Adolygiadau, Newyddiaduriaeth