Defnyddio a datblygu’r llais ar gyfer cyflwyno a gohebu
URN: SKSJ23
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â defnyddio a datblygu'r llais fel adnodd allweddol cyflwynwyr sain a gweledol.
Mae'n ymwneud â deall sut mae'r llais dynol yn gweithio, sut i ofalu amdano a sut i'w ddefnyddio'n effeithiol er dibenion sain a gweledol.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n cyflwyno neu ohebu ar gyfer radio, rhaglenni sain neu deledu, gan gynnwys y rheiny sy'n cyflawni gwaith cynhyrchu ac yn cynhyrchu cyflwynwyr neu ohebwyr a gweithwyr lle mae disgwyl iddyn nhw gyflwyno neu ohebu eu hunain o bryd i'w gilydd fel rhan o'u dyletswydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- rheoli anadl wrth gyflwyno fel eich bod yn anadlu ar adegau priodol, bod eich anadl yn anymwthgar a bod eich llais yn llifo'n rhydd
- mabwysiadu ystum rhwydd, cytbwys a diogel ar gyfer darllen a siarad
- mabwysiadu tôn llais ac arddull cyflwyno sy'n briodol i'r pwnc dan sylw, ffurf y rhaglen, amser o'r dydd a chynulleidfa targed ar gyfer y cyflwyniad radio, sain neu deledu
- ynganu geiriau yn eglur a chryf gan amrywio'r cyflymder, traw, uchder, pŵer a thymer wrth gyflwyno'r bwriad i'r gwrandawyr
- darllen yn uchel gyda sicrwydd ac eglurder
- addasu'r cyflwyniad i gyd-fynd gyda'r amgylchedd acwstig, y math o ddarllediad a chyfarpar recordio rydych yn eu defnyddio
- cwblhau tasgau yn brydlon gan fodloni gofynion cynhyrchu eraill hefyd
- gofalu, pan fyddwch yn cyflwyno o flaen camera, nad ydych chi'n symud eich corff mewn ffordd ymwthiol, ac eich bod yn wynebu'r camera'n briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ofalu bod eich ystum yn rhwydd, cytbwys a diogel a'r buddion ynghlwm â hynny
- y berthynas rhwng anadlu a chynhyrchu'r llais
- sut i reoli eich anadl yn effeithiol wrth siarad ar gyfer cyflwyniadau radio a sain
- sut i ddatblygu deheurwydd lleisiol, fel rheoli cyflymder, cymryd saib, geiriad, goslef, tôn a thymer, i ddal sylw
- effeithiau gwahanol donau ac arddull cyflwyno a'u heffaith ar wrandawyr cyflwyniadau radio a sain
- sut i ofalu am y llais a gofalu ei fod yn iach. Sut i gydnabod yr arwyddion yn eich rhybuddio bod problemau neu ddifrod a sut i'w rheoli
- arwyddocâd arddull a chyflwyniad y llais yn gysylltiedig â'r broses recordio ac yn ymwneud â meicroffonau, yr amgylchedd acwstig a lleoliad
- sut i addasu'r llais ar gyfer gwahanol amgylcheddau acwstig a'r gwahanol fathau o ddarlledu a chyfarpar recordio ar gyfer rhaglenni radio a sain
- amseru a gofynion cynhyrchu eraill yn ymwneud â'r darllediad penodol
- yr effaith ar y gynulleidfa a defnydd priodol o iaith y corff a'ch ystum wrth gyflwyno o flaen camera
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSJ23
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
2471
Geiriau Allweddol
Gweledol, Cyflwyno, Stiwdio