Rheoli stiwdio radio neu deledu
URN: SKSJ22
Sectorau Busnes (Cyfresi): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â defnyddio stiwdios hunanweithredol a thechnegol weithredol a bod yn ymwybodol o'u hystod o gyfarpar a thechnegau cynhyrchu.
Dydy'r safon ddim yn ymwneud â medru defnyddio darnau unigol o gyfarpar ond hefyd medru cydlynu eu defnydd o dan bwysau.
Mae gofyn ichi ddeall egwyddorion sylfaenol rheoli stiwdios a'r gallu i addasu ar gyfer gwahanol gyfluniadau, ffurfiau a chyfuniadau o gyfarpar.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n rheoli stiwdio yn y diwydiannau radio a theledu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis ffynonellau sain a gweithredu cyfarpar stiwdio i fodloni gofynion rhaglenni radio neu sain, gweithredu rheoliadau stiwdio, y ddesg gymysgu a system chwarae ddigidol yn gyfamserol,
- cydweithio gydag eraill yn nhîm cynhyrchu'r stiwdio er mwyn bodloni gofynion rhaglenni radio neu sain
- datblygu cynlluniau wrthgefn dichonol er mwyn lleihau risgiau o ran gweithredu'n effeithiol
- ymdrin â gwybodaeth neu gyfarwyddyd drwy glustffonau a meiciau cyswllt heb ymyrryd ar lif darllediad byw
- defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i ganfod y ffynhonnell debygol o broblemau trosglwyddo technegol neu gyfarpar yn methu yn ystod y broses darlledu
- cywiro cyfarpar sy'n methu neu broblemau trosglwyddo technegol sydd o fewn eich maes arbenigedd
- gofyn am gymorth gan bobl berthnasol pan fo problemau trosglwyddo technegol tu hwnt i'ch arbenigedd chi
- cydymffurfio gyda gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol er mwyn lleihau'r risg ichi ac eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gwahaniaeth rhwng stiwdios hunanweithredol a thechnegol weithredol
- dyletswyddau a chyfrifoldebau a hierarchaeth timau cynhyrchu stiwdios
- y gwahaniaethau rhwng gweithrediadau stiwdio ar gyfer rhaglenni radio neu deledu wedi'u recordio
- y gwahanol ffurfiau technegol a thechnolegau a ddefnyddir i gysylltu gyda stiwdios eraill
- egwyddorion sylfaenol gweithredu desg gymysgu, ei gyfarpar, caledwedd a meddalwedd perifferol
- yr ystod o ffynonellau sain o bell dichonol
- priodweddau a chyfyngiadau gwahanol systemau chwarae a sut i'w defnyddio
- defnydd cywir a diogel o glustffonau a meiciau cyswllt, safleoedd meicroffonau a llinell golwg
- y cynllun, cyfarpar a thechnoleg sydd ar gael a chyfluniad unrhyw stiwdio benodol i'w ddefnyddio
- pwysigrwydd disgyblaeth dda yn y stiwdio
- camau amrywiol y broses darlledu radio a theledu er mwyn adnabod pryd yn ystod y broses mae'n bosib y bu problem dechnegol
- sut i fynd i'r afael â phroblemau yn ystod darllediadau byw heb dynnu sylw'r gynulleidfa
- pwy ddylid cysylltu gyda nhw am help gyda phroblemau technegol sydd du hwnt i'ch arbenigedd chi
- y rheoliadau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol o ran defnyddio holl gyfarpar y stiwdio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSJ22
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
2471
Geiriau Allweddol
Radio, Teledu, Stiwdio, Newyddiaduriaeth