Llunio cynnwys aml-lwyfan er defnydd golygyddol
URN: SKSJ21
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â llunio cynnwys i'w ddefnyddio ar aml-lwyfannau.
Mae'n ymwneud â dylunio a chreu cynnwys, gan gyfuno testun a sain gydag asedau digidol eraill fel fideo, lluniau ffeithluniau data neu raffeg er mwyn denu sylw cynulleidfaoedd ar draws holl lwyfannau a dyfeisiau - er mwyn cyfannu, cefnogi a hyrwyddo cynnwys golygyddol.
Mae'n ymwneud ag adnabod cynulleidfaoedd targed – a'r llwyfannau a dyfeisiau y dylid gwylio'r cynnwys arnyn nhw.
Mae'n ymwneud â rhagnodi adnoddau a chyflawni gwaith gan ystyried y cyllidebau a therfynau amser sydd wedi'u cytuno.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n cynhyrchu cynnwys aml-lwyfan.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio gwybodaeth cynulleidfa berthnasol er mwyn adnabod pwysigrwydd perthynol llwyfannau a dyfeisiau sydd ar gael er mwyn cyflwyno cynnwys aml-gyfrwng
- adnabod priodweddau, ymddygiad a disgwyliadau cynulleidfaoedd targed o wybodaeth olygyddol berthnasol
- rhagnodi adnoddau digonol i gynnal y cynnwys aml-gyfrwng hyd y diwedd
- gweithio gan gadw at y cyllidebau a therfynau amser wedi'u cytuno
- cynnig cynnwys ar gyfer y we, cyfryngau cymdeithasol a defnyddiau eraill ar ffurf hawdd ei ddeall ac sy'n bodloni gofynion cynulleidfaoedd targed
- defnyddio meddalwedd priodol i baratoi cynnwys sain a gweledol ar gyfer y we a defnyddiau llwyfannau cyfryngau eraill
- uwch lwytho cynnwys golygyddol a gofalu ei fod ar gael i bobl berthnasol
- meddiannu, dewis neu gomisiynu deunydd gweledol perthnasol er mwyn cefnogi cynnwys ar-lein
- paratoi lluniau a fideo fel eu bod yn barod i'w defnyddio ar-lein
- monitro gwaith eraill er mwyn gofalu bod unrhyw gynnwys aml-gyfrwng sydd wedi'i gynhyrchu yn bodloni gofynion y cynhyrchiad
- gwirio bod y deunydd yn ddilys, cywir ac yn addas i'w bwrpas
- cadarnhau eich bod wedi holi am a derbyn y rhyddhad a chaniatâd gofynnol
- cofnodi awdurdodiad am ddefnyddio'r deunydd ar draws aml-lwyfannau mewn systemau cyfundrefnol
- cadw deunydd yn unol â gweithdrefnau cyfundrefnol
- cadw cofnodion cywir o'r deunydd a ddefnyddiwyd, gan gynnwys manylion am olygu deunydd a hawlfraint
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y dechnoleg berthnasol sydd ar gael, ei ddefnyddiau ymarferol a dichonolrwydd creadigol
- cyd-destun a diben y cynnwys aml-gyfrwng er defnydd aml-lwyfan
- sut i wirio a gwerthuso gwahanol gynulleidfaoedd ar gyfer cynnwys aml-gyfrwng a'u disgwyliadau
- sut i ysgrifennu cynnwys i'w ddefnyddio ar-lein
- sut i ddefnyddio meddalwedd codio sain a gweledol ac uwch lwytho cynnwys sain a fideo
- yr asedau ychwanegol all ffurfio rhan o'r cynnwys gan gynnwys clipiau sain a fideo, lluniau, ffeithluniau, data neu raffeg i ategu testun
- sut i feddu ar gynnwys, pe bydd angen addasu cynnwys presennol neu lunio cynnwys newydd
- pa drwyddedau, gorchmynion a chaniatâd sydd eu hangen, a sut i'w derbyn
- rheoliadau, canllawiau a chodau ymddygiad yn ymwneud â chyfryngau gan gynnwys rheoliadau, canllawiau a chodau ymddygiad yn ymwneud â diogelu data
- pam ei fod yn bwysig dosbarthu a chofnodi symud deunydd
- y lefelau mynediad a defnydd priodol i'r cynnwys sydd wedi'i gadw gan gynnwys cyfyngiadau masnachol, cyfreithiol a llywodraethol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSJ21
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
2471
Geiriau Allweddol
Aml-lwyfan, Cynnwys, Asedau, Newyddiaduriaeth