Ysgrifennu deunydd hyrwyddo ar gyfer cynnwys golygyddol

URN: SKSJ20
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud ag ysgrifennu deunydd hyrwyddo er mwyn darbwyllo pobl i brynu neu ddarllen cyhoeddiadau cyfredol neu yn y dyfodol, neu wrando ar neu wylio rhaglenni darlledu.

Gall deunydd hyrwyddo fod mewn amrywiaeth o ffurfiau ar wahanol lwyfannau. Gall sawl mudiad cyfryngau sy'n cyhoeddi ar fwy nag un llwyfan fanteisio i'r eithaf ar y dichonolrwydd i hyrwyddo eu cynnwys golygyddol ar aml-lwyfannau.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n llunio deunydd hyrwyddo ar gyfer cynnwys golygyddol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod yr holl lwyfannau sydd ar gael i hyrwyddo cynnwys golygyddol  
  2. adnabod y llwyfannau gorau a mwyaf priodol o ran deunydd hyrwyddo ar gyfer y gynulleidfa targed
  3. cadarnhau gyda chydweithwyr perthnasol y deunydd hyrwyddo i'w gynhyrchu
  4. dewis y cynnwys a thriniaeth briodol i gyfrwng y deunydd hyrwyddo
  5. cynhyrchu deunydd hyrwyddo a fydd yn denu sylw, ennyn diddordeb y gynulleidfa targed ac yn adlewyrchu pwnc, triniaeth a diben y cynnwys golygyddol
  6. ysgrifennu deunydd hyrwyddo gan gydymffurfio ag arddull y mudiad neu frand a'r safonau gofynnol o ran gramadeg, sillafu ac atalnodi
  7. cynhyrchu deunydd erbyn y dyddiad cau neu roi gwybod i bobl berthnasol ar unwaith am unrhyw oedi neu drafferthion
  8. cynhyrchu deunydd ar y ffurf ofynnol
  9. rhoi gwybod i gydweithwyr perthnasol o adrannau masnachol am y deunydd hyrwyddo a'i oblygiadau dichonol o ran eu gwaith
  10. adnabod unrhyw broblemau cyfreithiol a moesegol all godi a gofalu eich bod yn llunio deunydd hyrwyddo ar gyfer cynnwys golygyddol sy'n gadarn yn gyfreithiol ac sy'n cydymffurfio gyda rheoliadau a chodau ymarfer y diwydiant

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr holl lwyfannau sydd ar gael i'ch mudiad i ddosbarthu'r deunydd hyrwyddo
  2. gofynion y mudiad o ran cynnwys, triniaeth a ffurf
  3. y gynulleidfa targed a'u priodweddau a disgwyliadau
  4. gwahanol fathau o ddeunydd hyrwyddo a'u defnyddiau, gwahaniaethau, buddion ac anfanteision
  5. pryd dylid defnyddio gwahanol fathau o ddeunydd hyrwyddo
  6. sut i gyflwyno syniadau ar gyfer deunydd hyrwyddo er mwyn derbyn cymeradwyaeth eich cydweithwyr  
  7. sut dylid cynhyrchu deunydd o ran y gramadeg, sillafu, atalnodi, geirfa, ffurf, arddull a strwythur y stori
  8. sut i ddefnyddio lluniau, sain, fideos a graffeg i ategu testun hyrwyddo pan fo'n ofynnol
  9. sut i lunio trêls sain neu fideo hyrwyddo pan fo’n ofynnol 
  10. ffurf ofynnol y deunydd a'r dyddiad cau ar gyfer eu cyflwyno
  11. lle'n berthnasol, y berthynas rhwng adran olygu'r mudiad a'i adrannau masnachol neu farchnata

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSJ20

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC

2471

Geiriau Allweddol

Deunydd Hyrwyddo, Llwyfannau, Cynnwys, Copi, Newyddiaduriaeth