Ymchwilio a dadansoddi cynulleidfaoedd yn ymwneud â newyddiaduriaeth
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â defnyddio ymchwil a dadansoddi cynulleidfaoedd i ddenu aelodau cynulleidfaoedd i'r gwaith newyddiaduriaeth rydych ynghlwm ag o.
Mae'n ymwneud â deall ffigyrau cynulleidfaoedd ac ymchwil marchnad ynghyd â lle i ddod o hyd i wybodaeth o'r fath a sut i'w dehongli, gan gynnwys defnyddio technegau dadansoddeg data ac optimeiddio peiriant chwilio (SEO).
Mae hefyd yn ymwneud ag adnabod gwahanol frandiau ac arddulliau o newyddiaduriaeth ac adnabod y gynulleidfa briodol ar gyfer cynnwys golygyddol penodol ac amlgyfrwng perthnasol - a deall dichonolrwydd gwahanol lwyfannau dosbarthu.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i'r holl bobl hynny sy'n gorfod mynd ati i ddefnyddio ymchwil cynulleidfaoedd fel rhan o'u gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ystyried gofynion eich cynulleidfa yn ystod holl gamau'r broses llunio cynnwys
- defnyddio ffynonellau data cynulleidfaoedd a dadansoddeg data perthnasol a dibynadwy yn eich gwaith
- cynnal gwaith dadansoddi a dehongli sylfaenol sy'n dwyn i ystyriaeth cryfderau a chyfyngiadau ffigyrau cynulleidfaoedd a data ymchwil
- defnyddio data ymchwil cynulleidfaoedd gan ffynonellau dibynadwy i adnabod cynulleidfaoedd targed ar gyfer brandiau, sianeli neu gynnwys penodol
- disgrifio priodweddau eich cynulleidfa darged mewn arddulliau priodol
- datblygu, brandiau, arddull, cynnwys golygyddol a dewisiadau o lwyfannau dosbarthu sy'n defnyddio gwybodaeth ymchwil ar gynulleidfaoedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- egwyddorion, cryfderau a chyfyngiadau technegau ymchwil defnyddwyr a chynulleidfaoedd
- sut mae modd defnyddio dadansoddeg data i adnabod tueddiadau ac ymgysylltu â'r gynulleidfa
- egwyddorion sylfaenol demograffig a segmentu'r farchnad, gan gynnwys adnabod grwpiau cynulleidfaoedd neu ddefnyddwyr penodol gyda phriodweddau ar y cyd
- y systemau metrig i fesur ymgysylltu â'r gynulleidfa gan gynnwys cyfaint, cyflymder ac amrywiaeth
- y gynulleidfa darged bresennol neu ddichonol ar gyfer y farchnad benodol rydych yn gweithio ynddi
- cymhelliant, agweddau ac ymddygiadau eich cynulleidfa targed
- sut a pham fod cynnwys golygyddol penodol a'i fodd dosbarthu wedi'u bwriadu i apelio at wahanol gynulleidfaoedd targed
- sut caiff gwybodaeth defnyddwyr a chynulleidfaoedd ei chasglu a sut i'w dehongli a'i defnyddio yn eich gwaith
- ffynonellau allweddol gwybodaeth am ddefnyddwyr a chynulleidfaoedd wrth gasglu data
- ffynonellau gwybodaeth mewnol ac allanol ynghylch farchnadoedd, cynulleidfaoedd, digwyddiadau a thueddiadau
- lle daw traffig chwilio a thechnegau optimeiddio peiriant chwilio (SEO)