Golygu copi

URN: SKSJ19
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â golygu copi i sicrhau ei fod yn eglur a chywir, a'i fod yn bodloni gofynion eich mudiad a'r gynulleidfa darged.

Mae'n ymwneud â chywiro ac ail-ysgrifennu'r copi, gwirio ffeithiau a phenderfynu pa ddeunydd dylid rhoi pwyslais arno.

Mae'n ymwneud ag adnabod ac ymdrin ag unrhyw broblemau cyfreithiol a moesegol ac oedi posib a datrys materion heb eu datrys gyda'r bobl berthnasol.

Mae'r Safon hon ar gyfer y rheiny sy'n golygu copïau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwirio gyda'r bobl berthnasol ynghylch unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am ddiben, cynnwys a thriniaeth y deunydd
  2. pennu'r adolygiadau sydd angen ichi eu cynnal, gan gynnwys pa ddeunydd ddylech chi bwysleisio yn unol â gofynion golygyddol
  3. gwirio unrhyw ffeithiau rydych yn ansicr yn eu cylch gan ddefnyddio gwybodaeth o ffnonellau priodol

  4. gwirio unrhyw faterion cyfreithiol a moesegol rydych yn ansicr yn eu cylch gyda phobl berthnasol

  5. golygu deunydd fel caiff cynnwys hanfodol ei gadw, ei fod yn briodol ar gyfer y gynulleidfa targed ac yn bodloni gofynion eich mudiad o ran yr arddull, cyfrwng, hyd a ffurf
  6. gofalu bod y straeon yn deg, cytbwys a chywir
  7. cyflwyno deunydd wedi'i olygu ar amser, neu roi gwybod i bobl berthnasol am unrhyw oedi
  8. trafod gyda phobl berthnasol pa ddeunydd sy'n hanfodol a pha ddeunydd gallwch ei waredu
  9. adnabod syniadau ar gyfer straeon dilynol dichonol a rhoi gwybod i gydweithwyr perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion y mudiad o ran cynnwys, triniaeth a ffurf
  2. y gynulleidfa targed a'u priodweddau a disgwyliadau
  3. sut i farnu gwerth golygyddol deunydd, a'i allu i ddiwallu anghenion y gynulleidfa targed
  4. gofynion golygyddol ac amserlen cynhyrchu'r mudiad a'r berthynas rhwng yr adran olygu ac unrhyw adrannau masnachol

  5. sut dylid cynhyrchu deunydd o ran gramadeg, sillafu, atalnodi, geirfa, ffurf, arddull a strwythur stori

  6. y mathau o bwysleisiau all ofalu bod deunydd wedi'i gyhoeddi yn fwy effeithiol, fel dyfyniadau a phwyntiau bwled a sut gallwch eu defnyddio
  7. sut i ddefnyddio ffynonellau dogfennol ar gyfer gwirio ffeithiau
  8. y problemau cyfreithiol a moesegol sy'n debygol o godi o'r cynnwys golygyddol  
  9. sut i drin a thrafod y newidiadau angenrheidiol gyda chydweithwyr pan fo angen

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSJ19

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC

2471

Geiriau Allweddol

Golygu, Cynnwys, Copi, Newyddiaduriaeth