Paratoi a gohebu o leoliadau eraill
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â gohebu o leoliadau ar draws lwyfannau.
Mae'n ymwneud â chynllunio tua'r dyfodol i sicrhau pan fyddwch chi ar leoliad eich bod yn ymwybodol o'r cyfleusterau sydd ar gael ichi i olygu, ffrydio neu ddarlledu eich gwaith.
Mae'n ofynnol eich bod yn ymwybodol o'r lleoliad y byddwch yn gohebu ohono, a gofynion y cynhyrchiad, gan gynnwys dyddiadau terfyn, graddfeydd amser, ciwiau a dolenni.
Mae'n ymwneud â gofalu bod trefniadau logistaidd mewn lle a, cyn ichi deithio i'r lleoliad y byddwch yn gohebu ohono, eich bod yn ymwybodol o'r cyfleusterau gallwch fanteisio arnyn nhw er mwyn ichi ohebu'n ôl i'ch stiwdio.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n gohebu o leoliadau eraill y tu hwnt i'r stiwdio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cydlynu trefniadau ar gyfer darllediadau allanol, yn unol â gofynion gohebu neu gynhyrchu
- rhoi manylion am y lleoliadau sydd i’w defnyddio i’r gweithwyr perthnasol
- cadarnhau bod yr holl drefniadau ar gyfer gohebu yn bodloni'r gofynion yswiriant a rheoliadau iechyd a diogelwch statudol perthnasol
- gwirio a chadarnhau bod y cyfathrebiadau gyda'ch stiwdio yn weithredol ac eglur
- gwirio a chadarnhau bod cyfranwyr ar gael ar yr amser ac yn y lleoliad gofynnol
- gwirio a chadarnhau y bydd trefniadau wrth gefn yn ymdrin â thrafferthion yn cysylltu gyda phobl yn ystod rhaglenni
- gwirio bod cynlluniau wrthgefn mewn lle pan fo methiannau technegol
- `gwirio a chadarnhau bod trefniadau digonol mewn lle er mwyn cynnal diogelwch gweithwyr gohebu a'r cyhoedd
- gofalu fod arwyddion a hysbysiadau yn egluro a rhagnodi gofynion a chyfyngiadau mynediad yn glir, wedi'u diweddaru ac mewn lle a fydd yn tynnu sylw pobl
- cadw cofnodion cywir a diweddar o awdurdodiadau, gofynion mynediad a chyfyngiadau yn ogystal â symudiadau'r bobl ar y safle
- dewis cynnwys sy'n cynnig y cyfle gorau ar gyfer bodloni gofynion y cynhyrchiad neu raglen o ran amser, ffurf, cyllideb a chyfyngiadau cyfreithiol pob cynhyrchiad
- cynnig gwybodaeth eglur a chryno i gyfranwyr am eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau yn ymwneud â'r cynhyrchiad neu'r rhaglen
- egluro newidiadau i drefn, amser a chynnwys y cynhyrchiad mewn digon o amser er mwyn i unigolion fedru addasu i'r newid
- cynnig ciwiau sy'n eglur, manwl-gywir ac ar amser
- cytuno ar fanylion trosglwyddo rhwng y stiwdio a'r cyflwynwyr ymlaen llaw, gan gofnodi'r manylion pan fo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- cynnwys a strwythur y cynhyrchiad neu raglen gan gynnwys ei ddiben a deilliannau bwriadedig
- gofynion iechyd a diogelwch ac yswiriant ar leoliad
- priodweddau'r lleoliadau i'w defnyddio a sut i asesu eu dichonolrwydd
- y cyfleusterau wrth gefn sydd ar gael
- amodau tywydd ac amodau tebygol eraill allai effeithio ar ddiogelwch a'r angen am drefniadau modd segur
- pa ofynion cyfreithiol perthnasol ac ystyriaethau moesegol sy'n effeithio ar y defnydd o wybodaeth mewn cynyrchiadau a rhaglenni sain neu weledol
- y gweithdrefnau ar gyfer trafod mynediad gyda'r heddlu, cwmnïau diogelwch preifat ac asiantaethau eraill
- dyletswydd bwriadedig pob cyfrannwr
dyddiad, amser a lleoliad cyfranogiad pob cyfrannwr
cynnwys trefn y darllediad gan gynnwys ciwiau, dolenni ac amseriadau cysylltiedig
- y cyfathrebiadau angenrheidiol gyda'r stiwdio