Caffael deunydd cynnwys ar gyfer defnydd golygyddol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dewis cynnwys ar gyfer ei gyhoeddi ar unrhyw lwyfan, er mwyn bodloni meini prawf penodol. Mae'n ymwneud â chaffael dogfennau a lluniau, sain a fideo gan ffynonellau fel llyfrgelloedd ac archifau mewnol ac allanol, asiantaethau'r wasg a mudiadau eraill, ynghyd â'r defnydd o gynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr (UGC).
Mae hefyd yn ymwneud â derbyn caniatâd i ddefnyddio deunydd a gofalu caiff ei olygu pan fo angen, ei recordio a'i gadw'n gywir yn unol â gweithdrefnau archifo cyfundrefnol.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n dod i feddiant cynnwys ar gyfer defnydd golygyddol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis deunydd i fodloni cyfarwyddyd y cynnwys ac o fewn y cyfyngiadau o ran amser a chyllideb
- gwirio bod y deunydd rydych yn ei dderbyn yn cydymffurfio gyda gofynion y mudiad a'i lwyfannau dosbarthu
- adnabod costau, cyfyngiadau, hawlfraint ac unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol eraill ynghylch defnyddio'r deunydd a derbyn caniatâd i'w ddefnyddio pan fo'n briodol
- rhoi gwybod i wneuthurwyr penderfyniadau am gostau, cyfyngiadau ac unrhyw orfodaethau cyfreithiol ar ddeunydd penodol
cadarnhau unrhyw gytundebau trwyddedu yn ysgrifenedig yn unol â gweithdrefnau cymeradwy
paratoi gwaith papur ategol cywir gyda manylion llawn yr holl ddeunydd i'w drosglwyddo
- cydnabod ffynonellau yn unol â pholisi golygyddol
- trafod gyda thechnegwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau perthnasol er mwyn datrys unrhyw broblemau fydd yn codi
- asesu ansawdd y cynnwys rydych yn ei dderbyn gan ystyried y gofynion golygyddol
- golygu neu adolygu'r deunydd yn unol â gweithdrefnau eich mudiad, gan ofalu caiff uniondeb y cynnwys ei gynnal
- gwirio nad ydy'r cynnwys yn torri cyfreithiau a chanllawiau cyfredol cyn ei ddefnyddio neu ei archifo
- gwirio bod y deunydd yn ddilys, cywir ac yn addas i'w bwrpas
- cadarnhau eich bod wedi holi am ac wedi derbyn rhyddhad a chaniatâd pan fo'i angen
- cofnodi awdurdod dros ddefnyddio'r deunydd ar draws aml-lwyfannau yn unol â'r gweithdrefnau cyfundrefnol
- cadw'r deunydd yn unol â'r gweithdrefnau cyfundrefnol
- cadw cofnodion cywir o'r deunydd rydych wedi ei ddefnyddio, ynghyd â manylion am olygu'r deunydd a hawlfraint.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr ystyriaethau cyfreithiol a moesegol sy'n effeithio ar y deunydd o ddeunydd cynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr (UGC) ar yr holl lwyfannau
- rheoliadau, canllawiau a chodau ymddygiad o ran y Cyfryngau gan gynnwys y rheiny sy'n berthnasol i ddiogelu data
- protocolau a systemau cyfundrefnol yn berthnasol i anfon a derbyn deunydd gall gael ei ystyried yn ddadleuol neu gyfrinachol
- y prosesau i'w rhoi ar waith wrth recordio a lawr lwytho cynnwys o ddyfais recordio
- hawliau masnachol a mathau o gyfraith hawlfraint yn ymwneud â defnyddio deunydd, yn y DU a gweddill y byd, yn dibynnu ar ble mae'r person sy'n meddu ar yr hawliau'n byw
- gweithdrefnau ar gyfer trwyddedu a gofalu eich bod yn meddu ar ganiatâd ynghyd â beth ddylid ymdrin ag o yn yr amodau a'r telerau
sut gall defnyddio deunydd o ac mewn gwahanol wledydd gael ei effeithio gan reoliadau hawlfraint a chyfreithiau cyfrinachedd
- y polisi golygyddol ar gydnabod ffynonellau a thaliadau
- pwysigrwydd cyflwyno metadata technegol a disgrifiadol cywir, gan gynnwys gwybodaeth am bwy ddylid eu cydnabod am y cynnwys
- systemau a gweithdrefnau eich mudiad ar gyfer archifo cynnwys, o ran metadata technegol, catalogio a geiriad allweddol
- sut gaiff y cynnwys wedi'i archifo ei ddiogelu a'i gadw, yn unol â'r cyfrwng a ffurf, ac sy'n bodloni gofynion archifol y busnes neu fudiad
- pam ei fod yn bwysig dosbarthu a chofnodi symud deunydd
- y lefelau mynediad at a’r defnydd sy’n briodol i’r cynnwys ar gadw, gan gynnwys cyfyngiadau masnachol, cyfreithiol a llywodraethol