Recordio deunydd sain a fideo er defnydd newyddiadurol
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â recordio deunydd sain a fideo effeithiol, mewn stiwdio neu ar leoliad i'w ddefnyddio ar wahanol lwyfannau.
Gall y cynnyrch terfynol amrywio o fod yn ddeunydd hyrwyddo a marchnata i newyddiaduriaeth fideo.
Mae hyn yn ymwneud â pharatoi ar gyfer recordiad a dewis a defnyddio'r cyfarpar a'r technegau recordio cywir, i recordio sain a fideo o amrywiaeth o ffynonellau, ar y ffurf gywir ac i'r ansawdd a safon ofynnol.
Mae'n ymwneud ag adnabod diffygion a methiannau mewn cyfarpar a delio â nhw.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n creu deunydd sain a fideo.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwirio eich bod wedi derbyn cyfarwyddyd cyflawn ynghylch y dasg neu stori ynghyd ag unrhyw ofynion o ran recordio
- asesu lleoliad o ran ei addasrwydd a mynd ati i drefnu lleihau'r problemau yn ymwneud â synau ymwthiol ac annisgwyl neu ymyriadau gweledol fel sy'n briodol
- gwirio cyfarpar i ofalu ei fod yn gweithio'n ddigonol
- dewis meicroffonau priodol ar gyfer yr amodau penodol, neu ganiatáu priodweddau penodol meicroffonau unigol wrth recordio
- gwirio lefelau recordio a monitro mewnbynnau er mwyn gofalu fod uchder y sain yn briodol
- gwirio gosodiadau'r camera, cynnal gwiriad 'cydbwysedd gwyn' cyn mynd ati i recordio a monitro lefelau sain
- recordio deunydd ar y cyfrwng a ffurf briodol
- adnabod, a delio â, methiannnau a diffygion mewn cyfarpar yn ddi-oed
- dewis yn ofalus beth fyddwch chi’n ei recordio gan ystyried faint o’r deunydd gwreiddiol y byddwch yn ei recordio gaiff ei ddefnyddio yn y cynnyrch terfynol
- sicrhau eich bod yn meddu ar y deunydd priodol a fydd yn gwneud y broses olygu mor rhwydd â phosibl, gan ystyried unrhyw broblemau all godi yn ystod y broses recordio
- cywiro neu gofnodi unrhyw ddiffygion yn y sain, ansawdd y llun neu fethiannau yn y system neu drafferthion mecanyddol heb unrhyw oedi
- rhoi enw ar, labelu, cadw a storio deunyddiau sain a gweledol yn unol â'r protocolau priodol
- gofalu nad ydy eich gweithrediadau ddim yn achosi unrhyw beryglon diogelwch i eraill
cwblhau'r gwaith recordio deunydd ymhen y graddfeydd amser penodol
ffeilio eich deunydd o'r lleoliad yn unol â'r gofynion ar gyfer y llwyfannau y mae wedi'i fwriadu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- arddull yr asiant comisiynu, rhaglen neu sianel a'r chynulleidfaoedd targed ar gyfer y deunydd
- y cyfarwyddyd golygyddol ar gyfer y recordiad, manylion hanfodol y stori ac amser a hyd bwriadedig y darllediad
- egwyddorion sylfaenol sain, llun, goleuadau ac acwsteg
- y prif gyfyngiadau wrth recordio deunydd sain a gweledol
priodweddau gweithredu recordwyr cludadwy a chyfarpar recordio'r stiwdio, a cyfyngiadau'r cyfarpar sydd ar gael i chi
y gwahaniaeth rhwng rheoli lefel yn awtomatig ac â llaw a'u goblygiadau mewn gwahanol sefyllfaoedd
- sut i brofi a gwirio cyfarpar
- sut i adnabod problemau gyda chyfarpar recordio a beth i'w wneud i'w cywiro
- priodweddau acwstig unrhyw stiwdio neu leoliad byddwch chi'n ei ddefnyddio
- y problemau ynghlwm â lefelau golau, sŵn gwynt, synau annisgwyl a sŵn amgylchol ar leoliad
- goblygiadau recordio deunydd i'w olygu neu recordio ar gyfer ei ddarlledu fel ei fod yn fyw
- y math ac amrywiaeth o ddeunydd sydd angen ichi ei recordio er mwyn hwyluso'r broses olygu
- y protocolau perthnasol ar gyfer rhoi enw ar, labelu a chadw deunydd sain a gweledol
- sut i ffeilio'ch deunydd o'r lleoliad yn ôl i'ch stiwdio, gan gynnwys anfon sain a llun byw a gofynion y llwyfannau rydych yn ffeilio ar eu cyfer