Ysgrifennu penawdau ar gyfer cynnwys golygyddol

URN: SKSJ15
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â llunio penawdau, llinell clawr a theitlau eraill caiff eu defnyddio er mwyn denu sylw darllenwyr at gynnwys golygyddol mewn papurau newydd, cylchgronau a gwefannau. Hefyd er mwyn helpu darllenwyr i ddarllen y deunydd a dod o hyd i'r rhannau maen nhw'n dymuno eu darllen.

Mae'r Safon hon yn ymwneud ag adnabod pryd ddylid defnyddio penawdau gwahanol a beth ddylen nhw ei gynnwys, sut fydden nhw'n ymddangos yn dibynnu ar y llwyfan neu ddyfais caiff eu defnyddio i'w ddarllen, gan ofalu eu bod ar ffurf neu arddull sy'n gweddu i'r mudiad neu frand y cân nhw eu cynhyrchu ar eu cyfer a bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol neu foesegol.

Mae'r Safon hon yn berthnasol ar gyfer pawb sy'n ysgrifennu penawdau ar gyfer cynnwys golygyddol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod pa benawdau, llinellau clawr, penawdau cymdeithasol, is-benawdau, cyflwyniadau ac is-deitlau sydd fwyaf priodol ar gyfer y cynulleidfaoedd, brand, arddull a chynnwys eich deunydd 
  2. ysgrifennu penawdau sy'n adlewyrchu triniaeth y deunydd ategol, gan gyfleu'r prif bwyntiau yn eglur a chywir
  3. ysgrifennu penawdau sy'n ymwneud mwy gyda'r cynulleidfaoedd
  4. gwirio bod penawdau yn hyd, siâp a maint addas ar gyfer y cyfrwng maen nhw'n ymddangos ynddo
  5. cydymffurfio gydag arddull y mudiad neu frand a'r safonau o ran gramadeg, sillafu ac atalnodi sy'n ofynnol gan eich mudiad
  6. asesu effaith eich penawdau ar straeon a lluniau cyfagos ar adegau priodol 
  7. cydymffurfio gyda chyfreithiau, rheoliadau a chodau ymarfer perthnasol wrth ysgrifennu penawdau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion y mudiad o ran cynnwys, triniaeth a ffurf
  2. y gynulleidfa a'u priodweddau a disgwyliadau
  3. ffurfiau, defnyddiau, gwahaniaethau, buddion ac anfanteision y gwahanol fathau o deitlau fel penawdau, llinellau clawr, penawdau cymdeithasol, is-benawdau, cyflwyniadau ac is-deitlau
  4. arddull y mudiad neu frand o ran cynhyrchu deunydd, gan gynnwys gramadeg, sillafu, atalnodi, geirfa, ffurf, arddull a llunio stori.
  5. sut fydd y dudalen derfynol neu gynllun darllen yn ymddangos yn ôl y sianel, llwyfan neu ddyfais rydych yn ei ddefnyddio i fwrw golwg arno 
  6. y deunydd ysgrifenedig fydd y penawdau'n cyd-fynd gydag o
  7. y defnydd o eiriau allweddol ac optimeiddio peiriant chwilio
  8. egwyddorion cyhoeddi, dylunio brand a theipograffeg
  9. y gofynion cyfreithiol a chodau diwydiant sy'n berthnasol i ysgrifennu penawdau a chyhoeddi deunydd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSJ15

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC

2471

Geiriau Allweddol

Penawdau, Llinellau Clawr, Newyddiaduriaeth