Ysgrifennu sgriptiau ar gyfer cynnwys sain neu fideo
URN: SKSJ14
Sectorau Busnes (Cyfresi): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag ysgrifennu sgriptiau ar gyfer defnydd sain neu fideo – i'w darllen gan ohebydd, cyflwynydd neu berfformiwr.
Mae angen defnyddio iaith, cynnwys ac arddull sy'n addas i'r math, ffurf a chynulleidfaoedd targed.
Mae'n ymwneud ag adnabod a ydy'r deunydd ysgrifennu yn naratif adrodd stori greadigol neu'n sgript weithredol gyda chiwiau, cyflwyniadau a chyhoeddiadau.
Mae'n ymwneud â chadarnhau a gweithio tuag at ddyddiadau cau gan ofalu eich bod yn cydymffurfio gyda chyfreithiau, rheoliadau a chanllawiau cyfundrefnol perthnasol.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n ysgrifennu sgriptiau ar gyfer defnydd aml-lwyfan.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ysgrifennu mewn arddull eglur, sgyrsiol a darllenadwy gan osgoi iaith dechnegol ac ystrydeb
- defnyddio atalnodi, gramadeg a sillafu disgwyliedig gan gynnig seineg pan fo'i angen er mwyn ynganu geiriau penodol
- amrywio'r iaith, cynnwys a dull er mwyn bodloni gofynion y dull, ffurf a chynulleidfaoedd targed neu arddull cyflwynydd y mae'r sgriptiau wedi'u cynhyrchu ar eu cyfer
- gwirio bod gwybodaeth y sgript yn gywir
- defnyddio'r cynllun a nodiadau perthnasol ar gyfer y dull a'r diben
- ysgrifennu cyflwyniadau, ciwiau, 'outro' neu gyhoeddiadau cefn, gan osgoi dyblygu rhwng y ciw a'r sgript
- gofalu fod cynnwys y sgript sain neu weledol yn cydymffurfio gyda chyfreithiau, rheoliadau a chanllawiau cyfundrefnol perthnasol
- rhoi gwybod i gydweithwyr perthnasol ar unwaith pan fo trafferthion yn codi ynghylch cynhyrchu sgriptiau
- cyflwyno sgriptiau o hyd wedi'i gytuno ac erbyn y dyddiadau cau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd amrywio iaith, cynnwys ac arddull er mwyn gofalu ei fod yn gweddu i'r dull, ffurf, gorsafoedd gwahanol, cynnwys rhaglen neu arddull cyflwynydd, er mwyn ymwneud gyda chynulleidfaoedd targed
- egwyddorion gramadeg, atalnodi, sillafu a seineg ynghyd â'r adnoddau a dulliau i wirio'r rhain
- diben a defnydd bwriadedig sgriptiau aml-lwyfan neu ddeunydd ysgrifenedig a sut i ddefnyddio cynlluniau neu nodiadau perthnasol
- sut i adrodd stori, cyflwyno dadleuon, crynhoi gwybodaeth gymhleth ac adnabod a chyflwyno pwyntiau allweddol drwy ysgrifennu wedi'i strwythuro'n effeithiol
- y gwahaniaeth rhwng ffeithiau a sylwadau
- pryd i ychwanegu sgript i sŵn naturiol er mwyn ychwanegu at y broses adrodd straeon
- sut i ysgrifennu sgriptiau sy'n addas i ddull lleisiol cyflwynydd neu berfformiwr
- cyfraith, rheoliadau diwydiant a chanllawiau cyfundrefnol perthnasol
- y graddfeydd amser, dyddiadau cau a hyd sgriptiau aml-lwyfan gofynnol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSJ14
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
2471
Geiriau Allweddol
Sgriptiau, Aml-lwyfan, Cynulleidfa, Darllenydd, Newyddiaduriaeth