Gohebu ar y llywodraeth a gwleidyddiaeth yn y DU
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â gohebu ar system wleidyddol y DU.
Mae'n ymwneud â deall cwmpas a chymhlethdod system wleidyddol y DU – yr amryw sefydliadau a chyrff gweinyddol yn gysylltiedig gyda'r llywodraeth a gwleidyddiaeth, llunio polisïau a chynnig gwasanaethau cyhoeddus.
Mae'n ymwneud â bod yn ymwybodol o'ch hawliau cyfreithiol yn nhermau mynediad i unigolion a gwybodaeth a chydnabod a dysgu sut i ymdrin â'r arbenigwyr cysylltiadau cyhoeddus a chynghorwyr cyfathrebu sy'n eirioli rhan sylweddol o'r berthynas rhwng gwleidyddion a'r cyhoedd, a rhwng gwleidyddion a newyddiadurwyr.
Mae'r safon hon yn berthnasol i unrhyw un sy'n gohebu ar y Llywodraeth a gwleidyddiaeth yn y DU.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymchwilio gwybodaeth am waith system gwleidyddol y DU y gallwch chi ei ddefnyddio i hysbysu eich cynulleidfa
- defnyddio gwybodaeth gywir i ddisgrifio agweddau o system wleidyddol y DU i'ch cynulleidfa
- cynhyrchu adroddiadau cywir o gyfarfodydd ar bob lefel y llywodraeth yn ogystal â chyfarfodydd cyrff cyhoeddus perthnasol eraill
- defnyddio adnoddau archif a chyfoes i ymchwilio a gwirio adroddiadau am weithgareddau pob lefel y llywodraeth a gweithgareddau'r cyrff cyhoeddus perthnasol
- meithrin cysylltiadau dibynadwy o adran gweinyddu'r llywodraeth a mudiadau perthnasol eraill, fel ffynonellau o wybodaeth a barnau defnyddiol
- defnyddio termau addas ar gyfer amhriodoli deunydd pan fo hyn yn ofynnol gan y ffynhonnell
- gwirio eich ffynonellau a gwybodaeth y ffynonellau dwywaith er mwyn gofalu eu bod yn berthnasol ac yn ddibynadwy, yn enwedig pan fo'r wybodaeth yn sensitif yn wleidyddol neu'n ddadleuol.
- gofalu caiff cyfweliadau eu cynnal gyda'r ystod fwyaf eang ag sy'n hanfodol o ffynonellau perthnasol er mwyn osgoi cyhuddiadau o ragfarnu.
- cynnal cyfweliadau ymhen yr amser sydd ar gael
- galw ar hawliau newyddiadurwyr er mwyn manteisio ar a dosbarthu gwybodaeth yn deillio o, neu am, systemau gwleidyddol y DU a'i staff ar bob lefel pan fo'n briodol
- cyflwyno'r ffeithiau a dadleuon sy'n berthnasol i achos neu ddadl wleidyddol neu weinyddol
- gwirio bod unrhyw ddadansoddiadau yn eich cynnwys yn deillio o dystiolaeth gadarn a diogel, yn trafod dadl gytbwys ac sydd ddim yn torri gofynion cydymffurfio rheoleiddiol neu fewnol
- cadw nodiadau cywir a chynhwysol o ddeunydd cyfweliadau ar gyfer y cyfnod penodol yn unol â chanllawiau cyfundrefnol
- cydymffurfio gyda chyfyngiadau cyfreithiol cyfredol o ran gohebu gweithgareddau'r system wleidyddol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- egwyddorion gwahanu grymoedd ac egwyddorion cymryd rhan democrataidd ac atebolrwydd cyhoeddus yn Llywodraeth y DU
- gweithrediadau cyfansoddiad y DU, gan gynnwys rôl y Frenhiniaeth a Thŷ'r Arglwyddi a'r Tŷ Cyffredin
- hierarchaeth Senedd y DU, ei drefniant, gweithrediad a dyletswyddau a chyfrifoldebau ynghlwm gan gynnwys dyletswyddau a chyfrifoldebau'r Aelodau Seneddol
- dyletswydd a gweithrediad y Gwasanaeth Sifil, ei arbenigedd ac arbenigaethau a'i berthynas gydag Aelodau Seneddol ac i adrannau'r llywodraeth
- adrannau sylweddol y llywodraeth, eu hawdurdod a chyfrifoldeb ar lefelau canolog a lleol, pan fo'n berthnasol
- rheolaeth ariannol a chyllidol y DU: y Trysorlys a Banc Lloegr a sut caiff y llywodraeth ei hariannu ar bob lefel
- strwythur a threfniant gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU
- strwythurau cyfreithiol a gwleidyddol y gweinyddiaethau wedi'u datganoli yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, eu cyfrifoldebau amrywiol a dyletswydd a chyfrifoldeb gwleidyddion etholedig wedi'u datganoli
- strwythur cyfreithiol a gwleidyddol yr Undeb Ewropeaidd, ei brosesau gwneud penderfyniadau, ei berthynas gyda pholisïau cenedlaethol a'r effaith ar y DU
- gwahanol ffurfiau cyfundrefnol llywodraethau lleol a rhanbarthol a chwmpas eu gwahanol rymoedd a chyfrifoldebau
- dyletswydd meiri lleol wedi'u hethol pan fo'n berthnasol, Swyddogion y Cyngor, eu grymoedd, atebolrwydd a'u perthynas gyda'i gilydd
- yr amryw gyrff gaiff eu hariannu gan y llywodraeth ond sy'n gweithredu'n annibynnol fel mudiadau allanol hyd braich a chyrff cyhoeddus anadrannol
- systemau etholiadol y DU, gan gynnwys trefniant ac arwyddocâd wardiau, bwrdeistrefi ac etholaethau
- pleidiau gwleidyddol y DU, eu harweinwyr a maniffestos, eu trefniant mewnol, eu ffynonellau cyllid a'u gweithgareddau ymgyrchu a lobïo
- cyfraith etholiadol a'i oblygiadau ar gyfer gohebu ymgyrchoedd etholiadau a gweithgareddau ymgeiswyr gwleidyddol
- rôl technegau cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu, gan gynnwys cysyniad, a thechnegau er mwyn sicrhau tryloywder o ran y llywodraeth leol a chanolog
- hawliau a chyfrifoldebau newyddiadurwyr pan maen nhw'n gohebu ar ddigwyddiadau a gweithwyr y llywodraethau canolog a lleol ynghyd ag ymgyrchoedd yr etholiadau ac ymgeiswyr
- prif ffynonellau gwybodaeth sy'n berthnasol i lywodraeth y DU a chyrff cyhoeddus perthnasol
- sut gall deunydd gwleidyddol sensitif, eich ffynonellau a nodiadau fod o dan archwiliad cyfreithiol neu archwiliad gan yr heddlu