Ysgrifennu nodiadau llaw-fer ar gyfer trawsgrifiadau
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â defnyddio llaw-fer a sut i lunio trawsgrifiadau detholus ynghyd â thrawsgrifiadau gair am air.
Mae sawl cyflogwr, yn enwedig yn y sector argraffu, yn ystyried y gallu i lunio a thrawsgrifio nodiadau llaw-fer yn hanfodol – yn enwedig mewn llysoedd, cyfarfodydd, areithiau, cyfweliadau, cynadleddau i'r wasg, digwyddiadau lansio cynnyrch, neu seremonïau gwobrwyo.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n llunio ac yn defnyddio nodiadau llaw-fer.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- llunio nodiadau llaw-fer cywir a darllenadwy o'r holl wybodaeth angenrheidiol
- llunio'r nodiadau ar y cyflymder angenrheidiol er mwyn dal i fyny gyda'r lleferydd gaiff ei gofnodi ac er mwyn bodloni gofynion cyfundrefnol
- gwirio sillafu enwau priod ar adegau priodol
- labelu nodiadau gyda manylion eglur a chywir o'r digwyddiadau a gweithrediadau rydych yn eu cofnodi
- llunio trawsgrifiad cywir o'r deunydd angenrheidiol
cydnabod unrhyw broblemau cyfreithiol a moesegol sy'n debygol o godi o'r nodiadau a'r trawsgrifiad ohonynt
cytuno gyda chydweithwyr perthnasol ar sut i fynd i'r afael â nodiadau sy'n achosi problemau cyfreithiol neu foesegol
- cynnwys deunydd wedi'i drawsgrifio yn eich darnau ysgrifenedig eich hun neu ddarnau eich cydweithwyr mewn mannau priodol
- dyddio a chadw nodiadau llaw-fer yn unol â gofynion eich mudiad
- cyflwyno llyfrau nodiadau llaw-fer heb oedi pan fo angen dangos cywirdeb cofnodion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion golygyddol y mudiad neu frand cyfryngau, yn nhermau cynnwys a thriniaeth a pherthnasedd hyn ar gyfer llunio nodiadau
- sut i benderfynu pa ddeunydd i'w gofnodi mewn llaw-fer
- sut i farnu gwerth golygyddol nodiadau a'u gallu i fodloni gofynion y gynulleidfa targed
- rheolau sillafu, gramadeg ac atalnodi a defnydd eglur o'r iaith
lle i wirio geirfa rydych yn anghyfarwydd â hi
yr eirfa, arddull a ffurf y stori sy'n briodol i arddull y mudiad a'r gynulleidfa targed
- damcaniaeth ac ymarfer system nodiadau llaw-fer gaiff ei gydnabod yn genedlaethol
y problemau cyfreithiol a moesegol sy'n debygol o godi o ddilyn yr wybodaeth gaiff ei chasglu, neu gyhoeddi deunydd sy’n seiliedig arno
y problemau diogelu data ynghlwm â chadw gwybodaeth