Adnabod, paratoi a chynnal cyfweliadau
URN: SKSJ10
Sectorau Busnes (Cyfresi): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â pharatoi ar gyfer a chynnal cyfweliadau. Mae'n ymwneud â deall natur a diben amryw fathau o gyfweliadau y mae newyddiadurwyr yn eu cynnal a'r gwaith paratoi sydd ynghlwm cyn pob cyfweliad.
Mae'n ymdrin ag adnabod cyfweledigion priodol, gwirio'u manylion a ffeithiau cefndirol.
Mae'n ymwneud â chynllunio cwestiynau a chyfarwyddo cyfweledigion yn gywir.
Mae'r Safon hon hefyd yn ymwneud â chynnal amryw fathau o gyfweliadau o dan wahanol amodau, gan ddefnyddio arddulliau cyfweld addas ac ymateb yn briodol i ymateb y rheiny caiff eu cyfweld.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n adnabod, paratoi a chyfweld ar gyfer cynnwys golygyddol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i adnabod diben a chanolbwynt pob eitem neu gynhyrchiad rydych yn gweithio arnyn nhw
- adnabod a chysylltu gyda phobl briodol i'w cyfweld, gan ddwyn i ystyriaeth yr angen am gydbwysedd a chymysgedd o safbwyntiau lle'n briodol
- gwirio ffeithiau cefndirol a manylion personol er mwyn cadarnhau perthnasedd ac awdurdod cyfweledigion cyn cychwyn y cyfweliadau
- cynnig gwybodaeth eglur a chywir i gyfweledigion ynghylch y cwestiynu dichonol a'r cyfraniad disgwyliedig ganddyn nhw
- mabwysiadu arddull cyfweliad sy'n ymddangos yn ddigymell, sy'n addas i'ch amcanion ac yn annog yr ymatebion angenrheidiol gan bob person rydych yn eu cyfweld
- gwrando ar ymatebion cyfweledigion a chynnig cwestiynau priodol wedi derbyn eu hatebion
- cynnig eglurhad i gynulleidfaoedd ar adegau priodol ynghylch gwybodaeth dybiedig gan gyfweledigion ac ynghylch unrhyw dermau neu ymadroddion arbenigol gaiff eu defnyddio
- dod â chyfweliadau i ben pan fo angen gydag effaith golygyddol priodol
- cyflwyno cyfweledigion i gynulleidfaoedd ar adegau priodol a gofalu caiff safbwyntiau cyfweledigion eu hadlewyrchu mewn ffordd deg a chywir pan gaiff cyfweliadau eu golygu cyn eu darlledu
- gofalu caiff unrhyw ffurflenni rhyddhau a chaniatâd eu llofnodi gan bobl berthnasol
- cyfarwyddo aelodau perthnasol o dimau cynhyrchu a thechnegol gyda'r wybodaeth mae ei hangen arnyn nhw bob amser
- gweithio gan gadw at y cyfyngiadau o ran adnoddau a'r gyllideb
- derbyn caniatâd gan gyfweledigion ddefnyddio'r cynnwys ar draws aml-lwyfannau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben y cyfweliad
- y gwahanol ofynion ar gyfer y gwahanol fathau o gyfweliadau gan gynnwys cyfweliadau byw, wedi'u recordio, mewn stiwdio neu mewn lleoliad arall
- y cyfarwyddyd sydd wedi'i gytuno'n eglur ar gyfer pob cyfweliad, a'r cynulleidfaoedd targed
- sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau ac adnabod cyfweledigion
- y terfyn amser ar gyfer cyfweliadau wedi'u recordio a'r hiciau ar yr awyr ar gyfer cyfweliadau wedi'u cwblhau a'u golygu
- hunaniaethau a lleoliadau cyfweledigion unigol
- y cyllidebau ac adnoddau sydd ar gael ar gyfer pob cyfweliad
- pryd i ddefnyddio ffurflenni rhyddhau a chaniatâd priodol, pwy sydd eu hangen nhw a phryd a pham ddylid gwarchod hunaniaeth pobl rydych yn eu cyfweld
- y gwahaniaethau rhwng cynnal cyfweliadau wedi'u cynllunio a rhai digymell
- yr arddull cyfweld cywir ar gyfer y gwahanol fathau o gyfweliadau a gwahanol ofynion eitemau, gorsafoedd, rhaglenni a chynyrchiadau
- sut i baratoi cwestiynau sy'n annog atebion rhesymegol, dadlennol, croyw neu ddifyr a defnydd cwestiynau agored a chaeedig
- sut i wirio bod cyfweledigion yn deall yr hynny rydych yn ei ddisgwyl ganddyn nhw
- pwysigrwydd cynnal cyswllt llygaid a defnyddio iaith y corff priodol wrth gynnal cyfweliadau wyneb-yn-wyneb
- y codau gwisg perthnasol ar gyfer gwahanol achlysuron a lleoliadau
- sut i ddod â chyfweliadau i ben yn naturiol a thaclus
- gweithdrefnau ar gyfer derbyn caniatâd gan gyfweledigion i ddefnyddio'r cynnwys ar aml-lwyfannau
- sut i ymdrin ag asiantaethau a chynrychiolwyr Cysylltiadau Cyhoeddus
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSJ10
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
2471
Geiriau Allweddol
Cyfweliadau, Cyfweledigion, Cwestiynu, Newyddiaduriaeth