Cynnal ymarfer proffesiynol yn y maes newyddiaduraeth

URN: SKSJ1
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â gweithio mewn ffordd broffesiynol fel newyddiadurwr a rheoli eich cyfraniad fel bod effaith cadarnhaol ar y rheiny rydych yn cydweithio gyda nhw. Mae'n ymwneud â meddu ar deimlad o frwdfrydedd tuag at newyddiaduraeth a'i bosibiliadau ynghyd â'i le mewn byd cyfryngau cydgyfeiriol.

Mae'n ymwneud â meddu ar y gallu i feddwl yn greadigol a pharodrwydd i weithio fel rhan o dîm. Mae'n ymwneud â gofalu eich bod yn diweddaru eich sgiliau a'ch gwybodaeth ac yn addasu i dechnolegau ac ymarferion gwaith newidiol i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd maen nhw'n eu cynnig.

Mae angen ichi feddu ar lefel dda o gymhwysedd technegol a sgiliau Technoleg Gwybodaeth gyffredinol, ynghyd â'ch bod yn gyfarwydd gyda safonau, cyfarpar a meddalwedd cyfredol y diwydiant. Bydd hefyd angen ichi ddeall y diwydiant cyfryngau ehangach, ei is-sectorau, modelau busnes, ffynonellau cyllid, prif randdeiliaid a dyletswyddau swyddi ac effaith technolegau a chydgyfeiriad cyfryngau newidiol fel y defnydd o gynnwys aml-gyfrwng.

Dylai'r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy'n gweithio yn y maes newyddiaduraeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyflwyno syniadau ar gyfer cynnwys golygyddol a chynnwys aml-gyfrwng cysylltiedig i bobl berthnasol
  2. dewis y llwyfan cyflwyno mwyaf addas ar gyfer y cynnwys rydych yn ei lunio
  3. defnyddio cynnwys golygyddol i adrodd stori sy'n briodol ar gyfer y llwyfan gaiff ei ddefnyddio
  4. defnyddio ffynonellau dibynadwy o wybodaeth i fanteisio ar y diweddaraf o ran datblygiadau'r diwydiant a'r farchnad, technolegau newydd, syniadau a thechnolegau creadigol ac arfer gorau  
  5. cydweithio gyda chydweithwyr ar adegau priodol
  6. trafod a threfnu gwaith gydag eraill er mwyn cyflawni cynnyrch ar y cyd
  7. cynhyrchu gwaith i'r safon ofynnol yn unol ag anghenion creadigol a chyfyngiadau cyllidebol
  8. llunio a gweithredu cynlluniau wrthgefn er mwyn cyflawni'ch gwaith yn brydlon
  9. ymateb i adborth am eich gwaith mewn ffordd adeiladol gan addasu eich gwaith neu ymddygiad fel sy'n briodol
  10. rheoli eich datblygiad proffesiynol parhaus yn barhaol
  11. defnyddio cyfarpar a meddalwedd o safon diwydiant er mwyn bodloni gofynion
  12. defnyddio'r safonau priodol ar gyfer enwi a chadw data digidol fel bod modd ichi neu eraill adnabod a manteisio ar y data

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. strwythur cyfryngau'r DU, ei is-sectorau a rôl newyddiaduraeth ymhob sector
  2. prif randdeiliaid yn y diwydiant a'u dyletswyddau gan gynnwys rheoleiddwyr a chyrff cynrychioliadol
  3. effaith technolegau digidol a sut mae cydgyfeiriad cyfryngau yn effeithio ar newyddiaduraeth
  4. y gwahanol lwyfannau cyflwyno ar gyfer cynnwys golygyddol – eu buddion a'u hanfanteision
  5. goblygiadau dosbarthu cynnwys golygyddol ar aml-lwyfannau
  6. yr angen am aml-sgilio a'r ystod o weithrediadau a dyletswyddau mewn amgylchedd newyddiaduraeth aml-sgiliau
  7. sut gellir defnyddio cynnwys aml-gyfrwng a delweddu i hyrwyddo cynnwys golygyddol ac ymwneud mwy gyda'r gynulleidfa
  8. sut mae eich dyletswydd yn berthnasol i ddyletswyddau eraill a sut i gydweithio
  9. sut i gyflwyno syniadau i gydweithwyr ac ennill eu cefnogaeth
  10. sut i gynnal trafodaethau mewn dull proffesiynol sy'n hyrwyddo cydweithio
  11. sut i wneud y defnydd mwyaf effeithlon o'r adnoddau sydd ar gael
  12. sut mae'n bosib y bydd angen i eraill ddefnyddio'r gwaith rydych yn ei gynhyrchu
  13. y problemau cyffredin all ymddangos yn eich gwaith a sut i ddefnyddio cynlluniau wrthgefn er mwyn lleihau eu heffaith
  14. sut i annog pobl i gynnig adborth am eich perfformiad personol a sut i ymateb yn gadarnhaol i'r adborth
  15. ffynonellau gwybodaeth perthnasol i ofalu eich bod yn meddu ar y sgiliau a gwybodaeth ddiweddaraf
  16. sut i ddefnyddio cyfarpar neu feddalwedd perthnasol yn effeithiol ac yn effeithlon
  17. nodau, gwerthoedd, cyfeiriad a blaenoriaethau eich mudiad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSJ5

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC

2471

Geiriau Allweddol

Newyddiaduriaeth, Cyfryngau, Aml-gyfryngau, Cynnwys