Llunio sgriptiau naratif ar gyfer gemau neu gynnyrch cyfryngau rhyngweithiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu profiad atyniadol i ddefnyddwyr drwy lunio sgriptiau naratif ar gyfer prosiectau cyfryngau rhyngweithiol. Dydy'r safon hon ddim yn ymwneud gyda chopi ond yn hytrach y naratif tanategol y mae defnyddwyr yn ei brofi drwy gyfarwyddiadau, awgrymiadau, anogiadau a negeseuon drwy ddyluniad naratif cymeriadau, sain a gwrthrychau amgylcheddol.
Gallai'r safon hon fod yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.
Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Mae'r safon hon yn berthnasol i unrhyw un sy'n dylunio gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- caffael a dadansoddi gwybodaeth am y prosiect er mwyn pennu'r paramedrau creadigol a thechnegol sy'n effeithio ar y naratifau
- diffinio bydoedd a chymeriadau'r stori i'r safon ofynnol o ran manylder er mwyn llunio'r naratif
- llunio naratifau sy'n atyniadol ar gyfer y cynulleidfaoedd targed, sy'n osgoi stereoteipiau ac sy'n briodol ar gyfer deallusrwydd emosiynol y cynulleidfaoedd targed
- llunio naratifau sy'n briodol ar gyfer y llwyfannau targed a'r technolegau gaiff eu defnyddio
- llunio naratifau sy'n dwyn i ystyriaeth effaith agweddau rhyngweithiol ac aflinol prosiectau ar brofiad y defnyddiwr
- llunio naratifau sy'n gyson ac sy'n cyd-fynd gyda'r byd stori a chefndiroedd, agendâu, personoliaethau a galluoedd y cymeriadau
- trefnu llif y naratif fel ei fod yn cyd-fynd gyda'r stori
- cynnig cyfarwyddiadau eglur i'r rhaglenwyr a'r dylunwyr ynghylch sut a phryd y dylai rhyngweithiadau'r defnyddwyr neu ddigwyddiadau eraill effeithio ar y naratifau
- cyfathrebu gyda dylunwyr a datblygwyr i sicrhau bod y naratifau'n briodol ac yn addas i'r diben
- ymateb mewn ffordd gadarnhaol ac adeiladol i geisiadau am newidiadau i naratifau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben, naws, cynulleidfa targed, paramedrau a chyfyngiadau'r prosiectau gan gynnwys y llwyfannau targed a'u galluoedd i gyflawni asedau
- y gwahanol fathau o strwythurau naratif rhyngweithiol gan gynnwys cyfarwyddiadau, awgrymiadau, anogiadau a negeseuon a sut i greu profiadau priodol ac atyniadol i gynulleidfaoedd targed
- y technegau i ddatblygu naratif drwy ddylunio'r naratif gan gynnwys dylunio lefel/cymeriad, sain a gwrthrychau amgylcheddol
- nodweddion ac apêl gwahanol genres straeon gan gynnwys damcaniaethau perthnasol yn ymwneud ag effaith ddiwylliannol ehangach
- egwyddorion dyluniad rhyngweithio ac animeiddiad amser real yn ogystal â'r cyfyngiadau technegol eang sy'n berthnasol i gyfuno naratif gyda rhyngweithredu
- y mathau o ryngweithio a fyddai ar gael i ddefnyddwyr ac a allai ddylanwadu ar strwythur neu arddull eich naratif
- unrhyw ofynion ar gyfer y stori, digwyddiadau, safbwyntiau neu agweddau eraill o'r naratif i'w newid mewn ymateb i ddigwyddiadau neu ryngweithiadau'r defnyddwyr
- effaith amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, moeseg, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad ar brosiectau a sut i lunio testun sy'n briodol ar gyfer y gynulleidfa targed ac sy'n rhwydd iddyn nhw fanteisio arno
- y goblygiadau o ran adnoddau ac amser ynghlwm â defnyddio gwahanol fathau o strwythurau naratif rhyngweithiol
- pwy sydd angen ichi gyfathrebu gyda nhw o feysydd arbenigedd eraill i sicrhau y byddai'r naratifau'n addas ar gyfer prosiectau rhyngweithiol
- natur anochel newidiadau i sgriptiau a chynnyrch dros amser