Dylunio allbynnau prosiectau cyfryngau rhyngweithiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dylunio cynnyrch a gwasanaethau cyfryngau rhyngweithiol yn nodweddiadol mewn ymateb i gysyniad safon uchel. Dydy'r safon hon ddim yn berthnasol i ddylunio gemau gan fod Safon arall yn ymdrin â hynny. Bydd angen ichi fanteisio ar eich creadigrwydd a'ch syniadau arloesol er mwyn 'amlygu'r manylion' fel bod modd i eraill, fel artistiaid, modelwyr a rhaglenwyr, lunio eich dyluniadau.
Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein. Gallai prosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Dydy sgiliau celf fel sgiliau tynnu lluniau a modelu 3D yn ogystal â sgiliau rhaglennu a sgriptio ddim yn hanfodol ond fe allan nhw fod yn ddymunol ar gyfer rolau dylunio.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â dylunio cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol ac eithrio gemau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dadansoddi gwybodaeth y prosiect er mwyn pennu'r paramedrau dylunio perthnasol
- dylunio cynnyrch a gwasanaethau cyfryngau rhyngweithiol sy'n sicrhau'r hygyrchedd a'r profiad gorau posib i'r defnyddwyr
- cynhyrchu ac ailadrodd dyluniadau sy'n manteisio i'r eithaf ar lwyfannau targed a'r technolegau sydd ar gael sydd ar gyfer y diben arfaethedig a'r gynulleidfa targed
- llunio dyluniadau sy'n fodd i gyfryngau rhyngweithiol atynnu defnyddwyr targed
- dogfennu manylebau a dyluniadau eglur a chryno ar ffurfiau priodol
- cyfathrebu gyda chydweithwyr sydd ynghlwm â'r prosesau marchnata, creadigol, datblygu a sicrhau ansawdd er mwyn sicrhau bod modd cynhyrchu'r dyluniadau
- llunio prototeip o syniadau dylunio a datblygu proflenni cysyniad sy'n cynnig darlun manwl gywir o'r cynnyrch a'r gwasanaethau cyfryngau rhyngweithiol
- cynnig arweiniad ar gyfer profion defnyddwyr a'r profion gwallau sy'n ddealladwy i'r rheiny sydd ynghlwm
- defnyddio canlyniadau'r profion defnyddwyr a data perthnasol eraill i lywio penderfyniadau'n ymwneud â dylunio
- sicrhau bod y gofynion, disgwyliadau a'r adborth gan gomisiynwyr, cydweithwyr, defnyddwyr a'r rheoleiddwyr yn gytbwys
- cyflwyno gwybodaeth ddigonol am y cynnyrch a'r gwasanaethau i randdeiliaid mewnol ac allanol priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gaffael gwybodaeth am amcanion, paramedrau a chyfyngiadau'r prosiect gan gynnwys y gynulleidfa targed, y safle arfaethedig yn y farchnad a llwyfannau targed, eu galluoedd a'r hen arferion sy'n gysylltiedig â'u defnydd
- effaith paramedrau technegol y llwyfannau targed ar ddylunio gan gynnwys pŵer prosesu, cof, lled band, maint sgrin, eglurdeb, dyfnder lliw a'r rhyngwyneb defnyddiwr materol
- galluoedd, cyfleoedd a chyfyngiadau'r technolegau a'r dulliau gan gynnwys cymhwyster animeiddiad amser real a chywirdeb, ystod a graddfeydd y rhyddid a'r dulliau mewnbynnu ar gyfer technoleg olrhain
- y technegau ar gyfer deall y gynulleidfa targed a'u disgwyliadau a'u dewisiadau gan gynnwys deallusrwydd emosiynol, cynnwys priodol ar gyfer gwahanol grwpiau oedran, materion diwylliannol a synwyrusrwydd lleol
- effaith amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, moeseg a seicoleg ymddygiad ar ddyluniadau
- cysyniadau rhyngwyneb dylunio sy'n gysylltiedig â rhyngwynebau defnyddwyr graffigol a materol a thechnegau ar gyfer dysgu defnyddwyr sut i ddefnyddio cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol
- yr egwyddorion a'r fethodoleg berthnasol sydd ynghlwm â pheirianneg meddalwedd
- ffurfiau ar gyfer dogfennu manylebau a dyluniadau gan gynnwys testun, lluniau, byrddau stori, mapiau neu ddiagramau
- y lefel o fanylder sy'n ofynnol i bobl eraill allu rhoi'r manylebau ar waith
- beth sydd ynghlwm â phrofion defnyddwyr a phrofion gwallau a sut i'w arsylwi
- sut i gasglu, gwerthuso a defnyddio canlyniadau'r profion defnyddwyr, adborth gan eraill a'r wybodaeth am y disgwyliadau a'r gofynion
- gwasanaethau trydydd parti ar-lein y gellir eu hymgorffori neu eu defnyddio fel rhan o'r gemau neu i'w ategu nhw
- materion eiddo deallusol a'r deddfwriaethau perthnasol eraill ynghyd â sut allan nhw amrywio rhwng gwahanol wledydd
- sut i gaffael y wybodaeth ddiweddaraf am nodweddion datblygu, llwyfannau, modelau masnachol a dulliau cyflawni