Dylunio gemau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dylunio gemau, yn nodweddiadol mewn ymateb i gysyniad safon uchel. Dydy'r safon hon ddim yn berthnasol i ddylunio cynnyrch, gwasanaethau a chynnwys cyfryngau rhyngweithiol eraill gan fod Safon arall yn ymdrin â'r rheiny. Bydd angen ichi fanteisio ar eich creadigrwydd a'ch syniadau arloesol er mwyn 'amlygu'r manylion' fel bod modd i eraill, fel artistiaid, modelwyr a rhaglenwyr, lunio eich dyluniadau.
Gallai'r gemau fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Dydy sgiliau celf fel sgiliau tynnu lluniau a modelu 3D yn ogystal â sgiliau rhaglennu a sgriptio ddim yn hanfodol ond fe allan nhw fod yn ddymunol ar gyfer rolau dylunio.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â dylunio gemau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- llunio ac ailadrodd dyluniadau sy'n manteisio i'r eithaf ar lwyfannau targed a'r technolegau sydd ar gael
- llunio dyluniadau sy'n bodloni'r gofynion masnachol ac sy'n ategu safle arfaethedig y gemau yn y farchnad
- dadansoddi gwybodaeth y prosiect er mwyn pennu'r paramedrau dylunio perthnasol
- dylunio gemau sy'n sicrhau'r hygyrchedd a'r profiad gorau posib i'r defnyddwyr
- dylunio gemau sy'n bodloni gofynion y gynulleidfa targed
- creu dyluniadau sy'n deg, sy'n gytbwys o ran yr her a mwynhad ac sy'n cynnal llif y gêm i gynnal diddordeb y defnyddwyr targed
- cofnodi manylebau a dyluniadau eglur a chryno ar y ffurfiau priodol
- cyfathrebu gyda'r cydweithwyr sydd ynghlwm â'r prosesau creadigol, datblygu, rhaglennu a sicrhau ansawdd i ofalu caiff y dyluniadau eu llunio
- llunio syniadau dylunio yn ogystal â datblygu proflenni cysyniad sy'n cynnig darlun manwl gywir o'r gemau
- cynnig arweiniad ar gyfer profion defnyddwyr a phrofion gwallau sy'n ddealladwy i'r rheiny sydd ynghlwm
- defnyddio canlyniadau'r profion defnyddwyr a data perthnasol eraill i lywio penderfyniadau'n ymwneud â dylunio
- sicrhau bod y gofynion, disgwyliadau, amserlenni a'r adnoddau yn gytbwys ynghyd â'r adborth gan gomisiynwyr, cydweithwyr, defnyddwyr a rheoleiddwyr
- cyflwyno gwybodaeth ddigonol am y gemau i'r rhanddeiliaid mewnol ac allanol priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- hanes a threftadaeth, arddulliau a genres y gemau a'r mathau o gynulleidfa maen nhw'n apelio iddyn nhw ynghyd â sut gallai dealltwriaeth o'r byd y tu hwnt i'r gemau wella dyluniad y gêm
- damcaniaethau, cysyniadau a chymwysiadau dyluniad y gemau, mecaneg y gemau ac economeg y gemau gan gynnwys datblygiad, anhawster a chynnydd y gêm yn ogystal â'r systemau gwobrwyo
- seicoleg y chwaraewr a beth sy'n sicrhau bod y gemau'n ddengar ac yn gymhellol
- sut i gaffael gwybodaeth am amcanion, paramedrau a chyfyngiadau'r prosiectau gan gynnwys y gynulleidfa targed, gofynion masnachol, y safle arfaethedig yn y farchnad a llwyfannau targed, eu galluoedd a hen arferion yn gysylltiedig â'u defnydd
- effaith paramedrau technegol llwyfannau targed ar ddylunio gan gynnwys pŵer prosesu, cof, lled band, maint sgrin, eglurdeb, dyfnder lliw a rhyngwyneb defnyddiwr materol
- galluoedd, cyfleoedd a chyfyngiadau'r technolegau a'r dulliau gan gynnwys cymhwyster animeiddiad amser real a chywirdeb, ystod a graddfeydd y rhyddid a'r dulliau mewnbynnu ar gyfer technoleg olrhain
- y technegau ar gyfer deall y gynulleidfa targed a'u disgwyliadau a'u dewisiadau gan gynnwys deallusrwydd emosiynol, cynnwys priodol ar gyfer grwpiau gwahanol oedran, materion diwylliannol a synwyrusrwydd lleol
- effaith amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, moeseg a seicoleg ymddygiad ar ddyluniadau
- y cysyniadau rhyngwyneb dylunio sy'n berthnasol i ryngwynebau defnyddwyr graffigol a materol a thechnegau ar gyfer dysgu defnyddwyr sut i chwarae'r gemau
- yr egwyddorion a'r fethodoleg berthnasol sydd ynghlwm â pheirianneg meddalwedd
- y ffurfiau ar gyfer dogfennu manylebau a'r dyluniadau gan gynnwys testun, lluniau, byrddau stori, mapiau neu ddiagramau
- y lefel o fanylder sy'n ofynnol i bobl eraill allu rhoi'r manylebau ar waith
- beth sydd ynghlwm â'r profion defnyddwyr a'r profion gwallau a sut i'w arsylwi
- sut i gasglu, gwerthuso a defnyddio canlyniadau'r profion defnyddwyr, adborth gan eraill a gwybodaeth am y disgwyliadau a'r gofynion
- y gwasanaethau trydydd parti ar-lein y gellid eu hymgorffori neu eu defnyddio fel rhan o'r gemau neu i'w ategu nhw
- y materion eiddo deallusol a'r deddfwriaethau perthnasol eraill ynghyd â sut allan nhw amrywio rhwng gwahanol wledydd
- sut i gaffael y wybodaeth ddiweddaraf am nodweddion technolegau cyfredol, technolegau sydd wrthi'n cael eu datblygu, llwyfannau, modelau masnachol a'r dulliau cyflawni