Cysyniad dylunio ac ymarferoldeb ar gyfer gemau a chyfryngau rhyngweithiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dylunio'r cysyniad a'r ymarferoldeb cyffredinol ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol. Mae'n ymwneud gyda dehongli gofynion safon uchel, dylunio cynnwys, strwythurau ac ymarferoldeb a phennu hyn fel bod modd ei ddefnyddio fel cynllun datblygu ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.
Gallai'r safon hon fod yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.
Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n dylunio gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol .
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio gwybodaeth gan ffynonellau dibynadwy i adnabod y disgwyliadau a'r gofynion ar gyfer y gwaith
- datblygu paramedrau dylunio sy'n bodloni'r gofynion ymarfer busnes a masnachol yn ogystal â gofynion y cleient a'r defnyddwyr
- dylunio strwythurau cynnwys, dyfeisiau mordwyaeth a gweithrediadau rhyngwyneb sy'n briodol i'r defnyddwyr targed a diben y cynnyrch
- llunio arferion enwi, codio neu fapio priodol er mwyn dogfennu strwythurau'r cynnyrch
- pennu'r ymarferoldeb sy'n bodloni disgwyliadau a gofynion y prosiect
- llunio dyluniadau sy'n manteisio i'r eithaf ar lwyfannau targed a'r technolegau perthnasol sydd ar gael
- gwirio gyda'r cydweithwyr priodol bod y saernïaeth a'r rhyngwyneb defnyddiwr yn addas ar gyfer y diben a'r gynulleidfa
- pennu'r cysyniad a'r ymarferoldeb mewn manylder digonol i allu datblygu manylebau technegol
- cofnodi manylebau a'r dyluniadau ar ffurfiau cyfundrefnol sydd wedi'u cymeradwyo
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y ffynonellau gwybodaeth ynghylch gofynion a disgwyliadau i gleientiaid, defnyddwyr targed ac unrhyw ffactorau masnachol gan gynnwys natur busnes y cleient a'r cyd-destun gofynnol ar gyfer y gwaith
sut i gysoni'r gofynion ymarfer busnes a masnachol yn ogystal â gofynion y cleient a'r defnyddiwr
- y cydberthynas rhwng y cynnwys, y dyluniad a'r dechnoleg gan gynnwys unrhyw ofynion o ran y lleoliad
- y gwahaniaethau gofynnol ar gyfer datblygu prototeipiau neu gynnyrch terfynol
- paramedrau technegol llwyfannau targed gan gynnwys pŵer prosesu, cof, lled band, maint sgrin, eglurdeb, dyfnder lliw a rhyngwyneb defnyddiwr materol
- galluoedd, cyfleoedd a chyfyngiadau'r technolegau a'r dulliau sydd ar gael gan gynnwys cymhwysedd animeiddiad amser real a chywirdeb, ystod a graddfeydd y rhyddid a'r dulliau mewnbynnu ar gyfer technoleg olrhain
- y safonau, arferion a'r canllawiau perthnasol gan gynnwys canllawiau a'r ymarfer gorau i sicrhau bod y defnyddwyr yn gyfforddus a bod y profiad yn un o safon
- effaith amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, moeseg, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad ar brosiectau
- egwyddorion dylunio rhyngweithio gan gynnwys defnyddioldeb, hygyrchedd, a'r effeithiau ar y defnyddwyr
- sut i lunio rhyngwyneb defnyddiwr a nodweddion defnyddwyr terfynol eraill gan gynnwys dyfeisiau mordwyaeth ac ymarferol
- sut i ddefnyddio canlyniadau profion y defnyddwyr neu ddadansoddiadau data eraill i lywio penderfyniadau'n ymwneud â dylunio
- sut i lunio cynnwys mewn modd rhesymegol a chyson
- sut i gofnodi manylebau a dyluniadau gan ddefnyddio testun, lluniau, fframiau gwifrau, byrddau stori, mapiau neu ddiagramau.
- cydweithwyr sydd ynghlwm â'r prosesau marchnata, creadigol, datblygu a sicrhau ansawdd a sut a phryd i gyfathrebu gyda nhw