Rheoli’r Hawliau Eiddo Deallusol
URN: SKSIM4
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli hawliau eiddo deallusol. Mae'n ymwneud â gwarchod a manteisio ar eich hawliau eiddo deallusol chi neu'r mudiad a derbyn caniatâd i fanteisio'n gyfreithiol ar eiddo deallusol wedi'i greu gan eraill.
Gallai hyn fod yn berthnasol i hawliau o ran asedau cydrannau unigol neu hawliau o ran cynnyrch cyflawn ac fe allai ymwneud â hawlfraint, hawliau dosbarthu, defnyddio breintlythyrau, nodau masnach neu hawliau eiddo deallusol eraill.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â rheoli hawliau eiddo deallusol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dilyn prosesau ffurfiol er mwyn mynnu hawliau eiddo deallusol ar eich rhan chi neu ar ran eich mudiad
- datblygu a chytuno ar strategaethau manteisio ar hawliau sy'n sicrhau'r mwyaf o gyllid â phosib i'ch mudiad
- cytuno ar strategaethau a safleoedd trin a thrafod gyda'ch cydweithwyr
- trin a thrafod gydag eraill i drwyddedu'ch eiddo deallusol iddyn nhw a chynnal cofnodion ysgrifenedig manwl gywir o gytundebau
- adnabod eiddo deallusol sy'n addas i fanteisio arno gan gynnwys dewisiadau amgen pan fo hi'n rhy anodd manteisio ar y dewisiadau gwreiddiol neu pan fo nhw'n ddrud
- trin a thrafod gydag eraill i gaffael trwyddedau i ddefnyddio'u heiddo deallusol a chaffael cytundebau ysgrifenedig
- cyfrifo gwerth marchnad teg am hawliau eiddo deallusol rydych chi'n dymuno eu trwyddedu gan neu i eraill
- cyfathrebu gyda chydweithwyr neu arbenigwyr allanol er mwyn sicrhau bod y cytundebau'n cydymffurfio gyda'r fframweithiau cyfreithiol a moesegol a'u bod o werth masnachol i'ch mudiad
- cytuno ar berchnogaeth, naws a graddau'r holl hawliau o ran y cynnyrch gyda phartïon eraill sydd â diddordeb ynddyn nhw
- sicrhau bod holl agweddau'r hawliau eiddo deallusol wedi'u datrys cyn bwrw iddi gyda'r gwaith
- sicrhau bod yr asedau rydych chi wedi caffael trwyddedau i'w defnyddio nhw wedi'u caffael ar ffurf briodol
- sicrhau y caiff yr eiddo deallusol ei fanteisio arno yn unol â'r goblygiadau cyfreithiol a statudol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gwahanol fathau o hawliau eiddo deallusol a sut mae modd eu diogelu gan gynnwys hawlfraint, hawliau dosbarthu, defnydd o freintlythyrau, nodau masnach neu hawliau eiddo deallusol eraill
- y costau a'r telerau cyfyngiadau ar gyfer y gwahanol fathau o eiddo deallusol gan gynnwys y rheiny sy'n gysylltiedig gyda thaliadau parhaus
- pryd a sut i fynnu hawliau eiddo deallusol
- agweddau allweddol o gyfraith eiddo deallusol y
Deyrnas Gyfunol ac yn rhyngwladol - lle gallwch chi ganfod gwybodaeth am ddiogelu hawliau eiddo deallusol mewn awdurdodaethau penodol y tu hwnt i’r Deyrnas Gyfunol
- y trwyddedau safon diwydiant 'oddi ar y silff', sut i fanteisio arnyn nhw a phryd mae hi'n briodol i'w defnyddio nhw
- pryd fydd angen caniatâd i ddefnyddio neu fanteisio ar ddeunydd wedi'i greu gan eraill
- y cyfyngiadau cyfreithiol gyda deunydd wedi'i greu gan eraill cyn bod angen caniatâd arnoch chi
- sut i adnabod a chysylltu gyda pherchnogion hawliau eiddo deallusol
- goblygiadau peidio â derbyn caniatâd i ddefnyddio eiddo deallusol pobl eraill cyn cychwyn ar y gwaith
- y gwahaniaethau allweddol rhwng deddf eiddo deallusol Prydain a deddfau gwledydd neu ranbarthau eraill
- yr adnoddau arbenigol a ffynonellau arbenigedd i gynorthwyo gyda mynnu hawliau eiddo deallusol
- y dewisiadau sydd ar gael i wrthweithio neu unioni torri hawliau eiddo deallusol
- y ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am y farchnad er mwyn cyfrifo gwerth hawliau eiddo deallusol yn ymwneud â chaffael, storio a defnyddio data
- gwahanol gydrannau cynnyrch unigol a allai feddu ar hawliau cysylltiedig ac unigol
- datblygiadau parhaus yn y maes rheoli hawliau digidol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSIM28
Galwedigaethau Perthnasol
Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Rheolwyr Cynhyrchu, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Galwedigaethau Gweinyddol ac Ysgrifenyddol, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol, Masnachau Cerbydau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Cyfryngau rhyngweithiol; gemau; gwefannau, rhaglenni; marchnata ar-lein; immersive; realiti cymysg; realiti estynedig; eiddo deallusol; diogelu; caniatâd; hawlfraint; dosbarthu; breintlythyrau; nodau masnach