Gweithio ar brosiectau sy’n ymwneud â thechnoleg drochol

URN: SKSIM34
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio ar brosiectau technoleg drochol. Mae'n berthnasol i unrhyw un o gefndir cyfryngau traddodiadol a allai fod â phrofiad o weithio gyda thechnoleg drochol neu beidio. Mae'n bosib y byddai'n ddefnyddiol ar gyfer, ond nid ydyw wedi'i gyfyngu i bobl yn y sectorau Effeithiau Gweledol, animeiddio, gemau a chyfryngau rhyngweithiol.  

Mae'r safon hon yn disgrifio beth sydd angen ichi ei wneud a'i wybod i weithio ar gynnyrch neu brosiect sy'n ymwneud â thechnoleg drochol. Gallai technoleg drochol ymwneud gyda ond nid ydyw wedi'i gyfyngu i Realiti Estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti Cymysg (MR). Gallai'r safon fod yn berthnasol i brototeipiau neu gynnyrch terfynol.

Mae'r safon hon yn berthnasol i unrhyw un sydd ynghlwm â gweithio ar gynnyrch neu brosiect sy'n ymwneud â thechnoleg drochol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​caffael gwybodaeth gan ffynonellau dibynadwy am ofynion a chyfyngiadau'r technoleg drochol ar y prosiectau rydych yn gweithio arnyn nhw
  2. cynllunio'ch gwaith fel caiff anghenion technolegau trochol eu cynnwys yn eich gwaith o'r cychwyn cyntaf
  3. defnyddio technolegau, ieithoedd ac adnoddau sy'n briodol ar gyfer y technolegau trochol rydych chi'n ymwneud gyda nhw
  4. caffael gwybodaeth ychwanegol gan y bobl briodol pan fyddwch chi'n ansicr ynghylch agweddau o'ch gwaith sy'n ymwneud â thechnolegau trochol
  5. cyfathrebu gyda rheiny sydd ynghlwm â'r prosiect trochol ar adegau priodol yn ystod eich gwaith
  6. ymateb mewn ffordd gadarnhaol i newidiadau y gofynnwyd amdanyn nhw pan nad ydy deilliannau eich gwaith yn addas i'w defnyddio mewn cynnyrch trochol
  7. sicrhau caiff eich gwaith ei gyflawni gan gydymffurfio gyda'r paramedrau gofynnol ar gyfer technolegau trochol
  8. cwblhau eich gwaith yn unol â gofynion cyffredinol y prosiect
  9. cynnig gwybodaeth am eich gwaith ar ffurfiau priodol i sicrhau bod modd i eraill sydd ynghlwm â datblygu cynnyrch trochol ei defnyddio'n rhwydd ac yn effeithlon
  10. sicrhau eich bod yn caffael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau'n ymwneud â thechnolegau trochol gan ddefnyddio gwybodaeth ac arweiniad gan ffynonellau dibynadwy

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y gwahanol dechnolegau trochol a'u galluoedd gan gynnwys, ond sydd heb ei gyfyngu i, Realiti Estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR), Realiti Cymysg (MR) a ffilmio panoramig
  2. y safonau, y cyfyngiadau a'r canllawiau perthnasol gan gynnwys y canllawiau a'r ymarfer gorau er cyfforddusrwydd y defnyddiwr ac ansawdd y profiad 
  3. y llwyfan(nau) caledwedd a meddalwedd targed, y ffurfiau ffeil y gallan nhw ymwneud gyda nhw ac unrhyw gyfyngiadau technegol eraill ynghlwm â nhw
  4. y technolegau, ieithoedd, adnoddau a'r ymarfer gorau cyfredol sy'n berthnasol i ddatblygu deilliannau trochol ac sydd ar gael ar gyfer y prosiect rydych chi'n gweithio arno
  5. y rhyngwynebau defnyddwyr, sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio gyda thechnoleg drochol ynghyd â'r cyfyngiadau a'r cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio gyda'r defnyddwyr
  6. effaith amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, moeseg, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad ar brosiectau
  7. y gwahaniaethau gofynnol ar gyfer datblygu prototeipiau neu gynnyrch terfynol
  8. y ffurfiau y gallwch chi drosi asedau a'u ffeiliau ffynhonnell iddyn nhw ar gyfer y technolegau trochol rydych yn gweithio gyda nhw a phryd maen nhw'n briodol 
  9. cyfraniad eich gwaith tuag at gynhyrchu cynnyrch trosol a'r gwahaniaethau rhwng eich gwaith chi gyda chyfryngau traddodiadol a'ch gwaith chi gan ddefnyddio technoleg drochol
  10. y paramedrau ar gyfer eich gwaith fel bod modd ei ddefnyddio gyda thechnoleg drochol gan gynnwys unrhyw ofynion ar gyfer lleoleiddio
  11. lefel eich dealltwriaeth chi a'r bobl rydych chi'n cydweithio gyda nhw am dechnoleg drochol a'r angen i weithio'n effeithiol ar gynnyrch trochol
  12. y ffynonellau gwybodaeth a'r arweiniad am y technolegau diweddaraf, gweithdrefnau, ymarfer gorau a'r tueddiadau cyfredol o ran y defnydd o dechnoleg drochol a phrofiad y defnyddiwr

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIMT8

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

cyfryngau rhyngweithiol; gemau; chwarae gemau; gwefannau, rhaglenni; marchnata ar-lein; AR/VR; 360; technoleg drochol; realiti cymysg; realiti estynedig; defnyddiwr terfynol; aml-lwyfan; aml-sianel; cynnyrch; prototeipiau; prosiect; datblygu gwybodaeth;