Casglu, dadansoddi a defnyddio data i lywio gwelliannau i gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chasglu, rheoli a dadansoddi data a'i ddefnyddio i lywio gwelliannau ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol. Gallai hyn fod wedi ichi eu rhyddhau i'r farchnad, yn ystod dolen adborth barhaus neu'n ystod datblygiad ymlaen llaw.
Gallai'r dadansoddiadau data a'r gwelliannau ymwneud â phenderfyniadau dylunio, busnes neu farchnata ar gyfer unrhyw fath o gêm neu brosiect cyfryngau rhyngweithiol.
Gallai'r safon hon fod yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.
Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol fod er defnydd aml-lwyfan aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gwerthuso ac yn gwella gemau neu gynnyrch cyfryngau rhyngweithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod pa fetrigau sy'n ofynnol er mwyn llywio penderfyniadau
- penderfynu pa ddata sydd ei angen arnoch, a sut i'w gaffael, er mwyn darparu'r metrigau gofynnol
- sicrhau y caiff y systemau eu cyflunio er mwyn caffael y data gofynnol
- pennu'r polisïau ar gyfer rheoli'r data rydych chi wedi'i gasglu sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a chyfundrefnol
- pennu sut i gyflwyno'r data rydych chi wedi'i gasglu fel bod modd ichi ac eraill ei ddehongli
- rheoli dangosfyrddau neu systemau eraill er mwyn caffael y safbwyntiau gofynnol o'r data
- dadansoddi'r data rydych chi wedi'i gasglu i lunio'r metrigau
- dehongli'r data o ran cyd-destun y cynnyrch neu'r gwasanaeth rydych chi'n ymwneud gydag o, er mwyn echdynnu'r ystyr
- penderfynu pa weithrediadau y gallwch chi neu y dylech chi eu cyflawni ar sail eich dadansoddiad o'r data
- defnyddio'r data rydych chi wedi'i gasglu, a'ch dadansoddiad o'r data, i ddadlau o blaid neu yn erbyn gweithrediad arfaethedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y cyd-destun rydych chi'n ymwneud ag o a'r diben y mae angen dadansoddi data ar ei gyfer
- y cyd-destun, y cynnyrch neu'r gwasanaeth yr ydych chi'n casglu data yn ei gylch
- effaith amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, moeseg, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad ar brosiectau
- sut y gellir defnyddio data i lywio newidiadau i'r dyluniad, cynnwys a gosodiad cynnwys, strategaethau prisio a hysbysebu, mordwyaeth a rhyngwyneb defnyddiwr
- sut gellir defnyddio dolen adborth parhaus i lywio datblygiadau a gwelliannau mewn gemau neu gynnyrch a gwasanaethau cyfryngau rhyngweithiol yn barhaus
- sut i addasu'r cynnwys, y cynnyrch neu'r gwasanaeth neu ei god i alluogi caffael data
- y systemau gaiff eu defnyddio i gasglu a storio data a sut i'w gweithredu
- defnyddiau a chyfyngiadau'r metrigau rydych yn eu casglu a beth allan nhw ac na allan nhw eu datgan
- mathemateg sylfaenol, technegau dadansoddi ystadegol a'r economeg sy'n berthnasol i'ch rôl
- y technegau dyrannu cynulleidfaoedd a dadansoddi
- y technegau ar gyfer casglu data arbrofol gan gynnwys A/B neu brofi aml-amrywiad
- sut i ddefnyddio taenlenni ar gyfer storio ac astudio data
- sut i ymholi cronfa ddata gan gynnwys defnyddio Iaith Ymholi Strwythuredig
- ffyrdd y gallwch chi ddarlunio a chyflwyno data
- pryd mae hi'n briodol i osod systemau eich hunain a phryd i gyfathrebu gydag arbenigwyr i wneud hynny
- y gofynion cyfundrefnol a chyfreithiol yn ymwneud â chaffael, storio a defnyddio data