Cynnal a chadw gemau ac allbynnau prosiectau cyfryngau rhyngweithiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro ymarferoldeb, datrys problemau a gwneud gwaith cynnal a chadw parhaus ar gemau neu allbynnau prosiectau cyfryngau rhyngweithiol unwaith y byddan nhw wedi'u lansio.
Mae'r safon hon yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.
Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n cynnal a chadw gemau neu allbynnau prosiectau cyfryngau rhyngweithiol unwaith y byddan nhw wedi'u lansio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- monitro ymarferoldeb gemau neu gynnyrch a gwasanaethau cyfryngau rhyngweithiol o gymharu gyda manylebau'r prosiect ar adegau priodol
- defnyddio data priodol a dibynadwy i fonitro ymarferoldeb y gemau neu'r cynnyrch cyfryngau rhyngweithiol
- cynnal dadansoddiad manwl gywir o naws a graddau'r problemau o ran ymarferoldeb
- gweithredu ar unwaith er mwyn ymateb i a dadansoddi problemau
- gwerthuso'r holl ddatrysiadau realistig i ddatrys problemau gan adnabod y datrysiad mwyaf effeithiol
- trwsio problemau y mae modd ichi eu trwsio
- cysylltu gydag arbenigwyr technegol perthnasol pan nad oes modd ichi drwsio'r problemau
- adnabod pan na fyddai'r cyfarpar a'r meddalwedd yn bodloni gofynion y gemau neu'r cyfryngau rhyngweithiol bellach
- adnabod unrhyw ddiweddariadau a allai ymdrin â'r problemau
- adnabod cydnawsedd y meddalwedd ac unrhyw ganlyniadau eraill yn sgil diweddaru gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol ac unrhyw fan arall yn y system
- cyflawni diweddariadau a gwaith cynnal a chadw sydd wedi'i gynllunio ar adegau sy'n amharu cyn lleied â phosib ar y defnyddwyr
- cyflawni'r diweddariadau gan gydymffurfio gyda chyfarwyddiadau'r diweddariad
- cynnig amcan realistig o'r hyd y byddai'r cynnyrch yn segur a rhoi rhybudd ar unwaith os byddai'r broses yn debygol o gymryd mwy o amser
- gwirio bod y gwaith cynnal a chadw a datrys problemau'n gweithio fel y disgwyl
- hysbysu'r holl gydweithwyr perthnasol o'r newidiadau a beth sydd angen iddyn nhw ei wneud yn wahanol o ganlyniad i'r diweddariadau
- cofnodi ac adrodd data am y gwelliannau neu'r newidiadau i gylch gwaith a ffurf y gemau neu'r prosiectau cyfryngau rhyngweithiol yn unol â'r systemau cyfundrefnol.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae'r cyfarpar a'r meddalwedd ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol yn gweithio, ei wendidau a'r gwallau cyffredin a'r ffyrdd i'w datrys nhw
- sut i ddefnyddio ieithoedd sgriptio a rhaglennu i drwsio gwallau'n ymwneud ag ymarferoldeb
- sut i gyfathrebu'n effeithiol a chydweithio gyda chydweithwyr i ddatrys problemau
- sut i gysylltu gydag arbenigwyr technegol
- sut i adnabod buddion uwchraddio neu atgyweirio a gwerthuso'r costau a'r buddion a pham ei bod hi'n bwysig gwirio gwybodaeth y gwneuthurwyr ar effaith uwchraddio ac atgyweirio
- y broses ynghlwm â derbyn cymeradwyaeth am uwchraddio neu atgyweirio
- sut i wirio ymarferoldeb wedi gwaith cynnal a chadw a datrys problemau a hyd y broses
- pryd i wirio gwaith cynnal a chadw all-lein cyn ei ryddhau i'r amgylchedd byw
- lle i ganfod mwy am ddatblygiadau a chydnawsedd o ran meddalwedd a'r cyfarpar
- technolegau cyfredol sydd ar gael a'u galluoedd
- sut byddai'r gyllideb a'r ffactorau technegol a rhesymegol yn effeithio ar y datrysiadau
- pwy ddylech chi eu hysbysu am gyfnodau segur a newidiadau
- ffactorau iechyd a diogelwch yr holl gyfarpar
- y polisi cyfundrefnol yn ymwneud â gwelliannau a newidiadau i gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol