Rheoli ymgysylltu ar-lein

URN: SKSIM31
Sectorau Busnes (Suites): Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chychwyn, cynnal, ymgysylltu a defnyddio cymunedau ar-lein. Mae'n ymwneud ag adeiladu a dal gafael ar nifer hanfodol o ddefnyddwyr i sicrhau bod cymunedau'n parhau i fod ar waith. Mae'n briodol ar gyfer unrhyw fath o gymunedau ar-lein gan gynnwys, ond sydd heb ei gyfyngu i, rwydweithiau cymdeithasol, bydoedd ac amgylcheddau ar-lein, fforymau trafod, grwpiau newyddion a rhestrau postio. 

Dydy hyn ddim yn swyddogaeth dechnegol ond bydd angen ichi feddu ar rywfaint o wybodaeth dechnegol.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â rheoli ymgysylltu ar-lein ar gyfer unrhyw fath o gêm neu gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys, ond sydd heb ei gyfyngu i, wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.

Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​adnabod yr amcanion busnes neu'r rhesymau eraill dros sefydlu cymunedau ar-lein neu dudalennau cyfryngau cymdeithasol
  2. adnabod gwybodaeth ddibynadwy am gynulleidfaoedd targed a sut i gysylltu gyda nhw
  3. llunio strategaethau a fyddai'n atynnu cynulleidfaoedd targed
  4. llunio polisïau golygyddol, technegol a diogelwch ynghyd â chanllawiau anfon sy'n cydymffurfio gyda'r gofynion cyfreithiol ac anghenion y cymunedau
  5. sefydlu cymunedau ar-lein neu dudalennau cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio cyfarpar, systemau neu rwydweithiau cymdeithasol priodol
  6. hyrwyddo'r cymunedau neu'r tudalennau cyfryngau cymdeithasol mewn ffyrdd a fyddai'n denu defnyddwyr newydd
  7. anfon negeseuon newydd a fydd yn ysgogi ymgysylltiad gan y defnyddwyr
  8. barnu pryd mae hi'n briodol ichi ymyrryd gyda chymunedau ar-lein
  9. ymateb i gwestiynau neu bostiadau eraill mewn ffordd ddiplomataidd heb oedi er mwyn cynnal y trafodaethau
  10. monitro i sicrhau bod pobl yn cydymffurfio gyda'r polisïau a'r canllawiau golygyddol a chymryd camau priodol pan fo pobl yn torri'r rheolau
  11. rheoli postiadau yn unol â pholisïau eich mudiad, gan sicrhau bod modd ichi ategu'ch penderfyniadau gyda rhesymeg glir
  12. gweithredu fel canolwr rhwng unigolion pan fo'n briodol i herio neu atal unrhyw wrthdaro
  13. uwchgyfeirio materion i'r awdurdodau priodol pan gaiff rheol gyfreithiol neu reoleiddiol ei dorri
  14. cofnodi ac adrodd data am welliannau neu newidiadau i orchwyl neu ffurf cymunedau ar-lein yn unol â'r systemau cyfundrefol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod a phennu'ch rhesymau dros gynnal cymuned ar-lein neu dudalennau cyfryngau cymdeithasol
  2. y technegau ar gyfer dosbarthu, nodweddu a gwahanu cynulleidfaoedd
  3. lle i ganfod gwybodaeth yn ymwneud â rhwydweithiau cymdeithasol a chymunedau ar-lein newydd, poblogaidd neu sy'n dirywio, neu dueddiadau eraill
  4. sut i adnabod rhwydweithiau cymdeithasol, cymunedau ar-lein, amgylcheddau, systemau, meddalwedd neu gyfarpar eraill a allai fod yn berthnasol ichi
  5. lle i ganfod canllawiau i ddefnyddwyr, cwestiynau cyffredin, neu ffynonellau help eraill yn ymwneud â rhwydweithiau cymdeithasol, amgylcheddau neu gyfarpar eraill rydych chi'n eu defnyddio
  6. effaith amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, moeseg, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad ar gymunedau ar-lein
  7. sut i ddefnyddio, ffurfweddu a chynnal a chadw meddalwedd cymunedol neu dudalennau cyfryngau cymdeithasol, o safbwynt technegol
  8. y technegau ar gyfer denu defnyddwyr i gymunedau a denu nifer hanfodol o unigolion gweithredol i fod yn rhan ohonyn nhw
  9. sut i annog teimlad o ymberthyn ac ymrwymiad at gymunedau ymysg y defnyddwyr
  10. sut i ddenu arweinwyr gwirfoddol a fyddai'n helpu i gynnal a phlismona'r cymunedau
  11. sut i ymdrin ag agwedd amhriodol neu wrthgymdeithasol fel bwlio neu ymosodiadau personol, a allai niweidio cymunedau, yn effeithiol
  12. y problemau cyffredin a allai effeithio ar gynaladwyedd y cymunedau ar-lein, yn enwedig yn ymwneud â maint, cyfansoddiad, ffocws neu orchwyl a pholisi golygyddol
  13. cyfrifoldebau cyfreithiol a moesegol cyhoeddwr, gan gynnwys enllib, difenwi, arddull a gwedduster, annog casineb neu wahaniaethu
  14. y materion moesegol fel preifatrwydd a rhyddid barn
  15. y polisi cyfundrefnol yn ymwneud â gwelliannau a newidiadau i gymunedau ar-lein a sut i ddefnyddio data i'w hadnabod

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIM29

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

cyfryngau rhyngweithiol; gemau; gwefan, application; marchnata ar-lein; trochol; realiti cymysg; realiti estynedig; cymunedau ar-lein; cymuned; cymunedau; rhwydwaith cymdeithasol; fforwm;