Hunan-gyhoeddi gemau a chynnwys cyfryngau rhyngweithiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â hunan-gyhoeddi gemau neu gynnwys cyfryngau rhyngweithiol. Mae'n ymwneud â dewis llwyfannau cyhoeddi neu ddatrysiadau cynnal a fyddai'n cyrraedd defnyddwyr targed, yn sicrhau ymarferoldeb llawn ac yn bodloni'r modelau busnes. Mae'n ymwneud â phrofi gweithrediad cyn cyhoeddi, trefnu ar gyfer hysbysebu a chasglu a dadansoddi data wedi cyhoeddi'r cynnwys.
Mae'r safon hon yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.
Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n hunan-gyhoeddi gemau neu gynnwys cyfryngau rhyngweithiol yn hytrach na'r rheiny sy'n cynnal cwmnïau neu lwyfannau cyhoeddi.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod a datrys unrhyw wallau gyda'r cynnwys cyn ei gyhoeddi
- dewis llwyfannau cyhoeddi neu ddatrysiadau cynnal sy'n sicrhau y caiff y cynnwys ei rannu mor eang â phosib gyda'r defnyddwyr targed
- dewis llwyfannau cyhoeddi neu ddatrysiadau cynnal sy'n sicrhau'r effeithiau arddangos, perfformiad ac ymarferoldeb disgwyliedig
- sicrhau bod y gweithgareddau cyhoeddi yn unol â'r model busnes arfaethedig ac yn llwyddo i ennill y ffrydiau incwm disgwyliedig
- sicrhau gallai'r datrysiadau cyhoeddi gasglu a chyflenwi'r data perthnasol am y niferoedd sy'n manteisio ar y cynnyrch, yn ei ddefnyddio ac unrhyw broblemau, a hynny yn barhaus
- gwirio'r gweithrediad ar yr holl borwyr a'r llwyfannau perthnasol i adnabod a datrys unrhyw broblemau gyda'r darlun, y perfformiad a'r ymarferoldeb
- trefnu gydag eraill, neu weithredu strategaethau hysbysebu er mwyn sicrhau bod nifer briodol o ddefnyddwyr targed yn manteisio ar y cynnyrch
- sicrhau eich bod yn hysbysu'r bobl berthnasol am y cynnydd o ran cyhoeddi ac unrhyw broblemau a datblygiadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y nodau, yr amcanion a'r manylebau ynghylch y cynnwys gan gynnwys ymarferoldeb, nodweddion mordwyo, y darlun a'r gofynion o ran y perfformiad
- y buddion a'r anfanteision ynghlwm â gwahanol lwyfannau cyhoeddi a datrysiadau cynnal gan gynnwys ymarferoldeb, dosbarthiad a chyrhaeddiad y farchnad
- y modelau busnes, eu buddion a'u hanfanteision a phryd maen nhw'n briodol gan gynnwys talu ymlaen llaw, tanysgrifio, hysbysebu yn y rhaglen / y gêm ac adnoddau ychwanegol i'w prynu yn y rhaglen / y gêm
- y defnyddwyr targed, llwyfannau neu ddatrysiadau cynnal a fyddai'n eu cyrraedd nhw ynghyd â strategaethau hysbysebu a fyddai'n eu denu nhw
- y buddion a'r anfanteision ynghlwm â datrysiadau aml-lwyfannau
- pwy i'w hysbysu ynghylch cynnydd, unrhyw broblemau a datblygiadau ynghyd â phryd a sut i gysylltu gyda nhw
- y data y mae angen ichi ei gasglu i asesu'r perfformiad, y nifer sy'n manteisio, defnydd ac effeithiolrwydd llwyfannau a modelau busnes