Cynnal a chadw gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol yn barhaus

URN: SKSIM3
Sectorau Busnes (Suites): Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal a chadw gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol yn barhaus. Nod hyn ydy cynorthwyo prosiectau i oroesi unwaith caiff yr allbynnau eu lansio. Mae'n ymwneud â gosod systemau data, dogfennaeth a gweinyddu parhaus, monitro datblygiadau yn y farchnad, gwerthiannau a gofal cwsmer a gwerthuso gwybodaeth am gyllid, y nifer sy'n manteisio ar y cynnyrch a defnydd o'r adnoddau er mwyn addasu dulliau'r prosiectau i allu goroesi yn y tymor hirach. 

Mae'r safon hon yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.

Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n rheoli ac yn cynnal a chadw gemau neu fusnes  cyfryngau rhyngweithiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gosod a defnyddio systemau casglu data, dogfennaeth a gweinyddu sy'n ategu model busnes y prosiect ac anghenion y prosiect yn gyfredol ac yn y dyfodol 
  2. monitro'r ffactorau mewnol ac allanol, a allai effeithio ar oes y prosiectau, yn barhaus
  3. gosod systemau sy'n annog yr holl bobl sydd ynghlwm â'r prosiectau i gynnig adborth, sylwadau, syniadau newydd ac awgrymiadau ar gyfer gwella
  4. defnyddio gwybodaeth ariannol manwl gywir i asesu cyflwr ariannol y prosiectau
  5. gwerthuso data am ddiddordeb y cwsmer/defnyddiwr, faint sy'n manteisio ar y cynnyrch, a'u gofynion o ran cefnogaeth barhaus yn rheolaidd
  6. sicrhau bod adnoddau ar gael pan fo'u hangen ac wedi'u defnyddio'n effeithlon er mwyn ategu prosiectau parhaus
  7. cadw cofnodion ar y ffurfiau a'r systemau y cytunwyd arnyn nhw
  8. manteisio ar werthusiad o ffactorau'r farchnad, adborth a gwybodaeth ariannol i lywio datblygiadau yn y dyfodol
  9. cymryd camau cywiro priodol pan fo'n ofynnol i fynd i'r afael â phroblemau 
  10. cynhyrchu cynlluniau gweithredu ar gyfer y dyfodol sy'n cydbwyso'u costau, buddion a'u llwyddiant tebygol
  11. sicrhau bod pawb sydd ynghlwm â'r prosiectau'n meddu ar wybodaeth am flaenoriaethau a chynlluniau'r prosiectau sy'n angenrheidiol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y systemau data, dogfennaeth a gweinyddu gofynnol gan gynnwys y rheiny sy'n ymwneud â chyfathrebu, rheoli costau, Technoleg Gwybodaeth, gwybodaeth defnyddiwr a chefnogaeth defnyddiwr
  2. y ffactorau allanol a allai effeithio ar oes barhaus y prosiectau gan gynnwys galw'r cwsmeriaid, newidiadau yn y farchnad, cystadleuaeth, diffyg adnoddau, newidiadau o ran y staff, problemau gyda chefnogwyr neu newidiadau i gyfreithiau neu reoliadau anstatudol
  3. y ffactorau mewnol a allai effeithio ar oes barhaus y prosiectau gan gynnwys trefn y staff, agweddau, yr amgylchedd hyfforddi a gweithio, rheoli a threfnu busnes, model busnes y cynnyrch neu wasanaeth, dylunio, ansawdd, marchnata a gwerthiannau
  4. y bobl sydd ynghlwm â'r prosiectau gan gynnwys staff, cwsmeriaid, defnyddwyr a rhanddeiliaid
  5. y wybodaeth ariannol am brosiectau a'i diben gan gynnwys llif arian sylfaenol, datganiadau elw, rhagolygon elw a cholled uchel ac isel, pwynt lle mae'r costau'n cydbwyso a thaflenni gweddill sylfaenol
  6. anghenion y cwsmeriaid / defnyddwyr a sut allai strwythurau'r prosiectau gynorthwyo i'w bodloni ac i wella'r gofal cwsmer
  7. yr adnoddau angenrheidiol ar gyfer cyflawni'r prosiectau yn yr hirdymor gan gynnwys staff, isadeiledd Technoleg Gwybodaeth, adrannau eraill a gofynion hyfforddi
  8. y gofynion a'r systemau cadw cofnodion
  9. y mathau priodol o gamau cywiro i fynd i'r afael â materion a phroblemau gan gynnwys sut i gaffael adnoddau ychwanegol a phryd mae'n briodol i wneud hynny
  10. sut i rannu targedau sylweddol yn weithgareddau gyda graddfeydd amser a therfynau amser y gellir eu cyflawni a'u mesur
  11. sut i ddatblygu cynllun gweithredu gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau, graddfeydd amser, cyllidebau, cynlluniau wrth gefn a chynlluniau ar gyfer monitro cynnydd
  12. sut i sicrhau y caiff y weledigaeth a'r cynlluniau eu rhannu'n eglur gyda'r holl bobl briodol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIM3

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

cyfryngau rhyngweithiol; gemau; chwarae gemau; gwefannau, rhaglenni; marchnata ar-lein; AR/VR; 360; technoleg drochol; realiti cymysg; realiti estynedig; cynnyrch; prototeip; system gwybodaeth; system ddogfennaeth; system weinyddu;