Arddangos gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol trochol i gleientiaid a rhanddeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag arddangos gemau neu gynnyrch cyfryngau rhyngweithiol sy'n defnyddio technoleg drochol i gleientiaid a rhanddeiliaid. Gallai technoleg drochol gynnwys ond nid ydyw wedi'i gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Mae angen darpariaeth benodol ar allbynnau technoleg drochol yn ymwneud ag iechyd a diogelwch y defnyddwyr yn ystod y sesiwn arddangos. Gallai'r sesiwn arddangos fod yn ystod y cam prototeip, yn ystod camau allweddol yn y broses datblygu neu unwaith ichi gwblhau'r gwaith.
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwirio bod y trefniadau priodol ynglŷn â'r cyfarpar a'r lleoliad mewn lle cyn y sesiynau arddangos a sicrhau eich bod yn cynnal y sesiynau arddangos mewn ffordd sy'n bodloni gofynion y cleientiaid, eich cydweithwyr a'ch mudiad chi.
Gallai'r safon hon fod yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n arddangos gemau neu gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol sy'n ymwneud â thechnoleg drochol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio gwybodaeth gan ffynonellau dibynadwy i adnabod y disgwyliadau a'r gofynion ar gyfer y sesiynau arddangos
- gwirio bod y lleoliad a'r cyfarpar yn addas ar gyfer y dechnoleg drochol y byddwch chi'n ei harddangos a bod yr unigolion priodol yn mynychu
- rhannu gwybodaeth am y sesiynau arddangos cynnyrch trochol i'r bobl berthnasol ar adegau priodol
- cydweithio gyda'r bobl berthnasol i sicrhau bod y sesiynau arddangos yn llwyddiannus
- cyflwyno galluoedd a buddion yr allbynnau rydych yn eu harddangos mewn ffordd drefnus, eglur, hyderus a difyr
- cyflwyno gwybodaeth sy'n ffeithiol gywir ac ar y lefel dechnegol sy'n briodol i aelodau'r gynulleidfa, yn ystod y sesiynau arddangos
- cynnig cyfarwyddiadau eglur a chryno am brofi technolegau trochol i aelodau'r gynulleidfa ar adegau priodol, gan wirio eu bod nhw'n deall eu gofynion nhw
- sicrhau eich bod yn ystyried unrhyw ofynion arbennig, sy'n ymwneud â phrofi technolegau trochol, gan aelodau'r gynulleidfa
- sicrhau bod y sesiynau arddangos o fewn cyfyngiadau amser
- ymateb i gwestiynau, gan sicrhau eich bod chi'n cyflwyno'r wybodaeth y mae'r gynulleidfa'n gofyn amdani
- sicrhau bod y sesiynau arddangos yn bodloni'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau perthnasol bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ffynonellau gwybodaeth am y gofynion a'r disgwyliadau cyfundrefnol ynghyd â gofynion a disgwyliadau'r cleient a'r cydweithiwr yn ymwneud â'r sesiynau arddangos
- technolegau trochol a'u galluoedd sy'n cynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith Wirionedd (VR), Realiti cymysg (MR) a ffilmio panoramig
- y gwahaniaethau gofynnol i ddatblygu prototeipiau neu gynnyrch terfynol
- yr amgylchedd, gofod a'r cynllun gofynnol i arddangos gwahanol dechnolegau trochol
- y gofynion iechyd a diogelwch yn ymwneud ag arddangos cynnyrch technoleg drochol gan gynnwys glanhau cyfarpar wedi ichi ei ddefnyddio, sicrhau gofod clir i symud ac amgylchynu arddangoswyr
- defnyddioldeb, hygyrchedd a'r effeithiau ar ddefnyddwyr technolegau trochol
- effaith amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, moeseg, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad ar brosiectau
- y cyfarpar angenrheidiol i arddangos technolegau trochol a lle i'w ganfod
- pwy sydd angen y wybodaeth am y sesiynau arddangos a sut i'w chyflwyno
- sut i wirio bod y cyfarpar yn gweithio gan wirio oes y batri
- y deddfwriaethau, safonau, arferion a'r canllawiau perthnasol ar gyfer arddangos, gwylio a phrofi technolegau trochol gan gynnwys cyfforddusrwydd a phrofiad y defnyddiwr
- y cydweithwyr sydd ynghlwm â'r sesiynau arddangos gan gynnwys y rheiny sy'n ymwneud â gwaith marchnata, creadigol, datblygu a sicrhau ansawdd
- pwy allai gynorthwyo gyda gweithrediad technegol a chynnal a chadw'r cyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer y sesiynau arddangos
- sut i asesu deallusrwydd technegol pobl eraill
- effaith tôn, cyflymder ac uchder eich llais yn ogystal ag iaith eich corff ar eich cynulleidfa a'u dealltwriaeth o'ch pwyntiau allweddol