Trefnu cyfleusterau i arddangos gemau ac allbynnau prosiectau cyfryngau rhyngweithiol

URN: SKSIM28
Sectorau Busnes (Suites): Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â threfnu cyfleusterau i arddangos gemau neu allbynnau prosiectau cyfryngau rhyngweithiol. Mae hyn yn ymwneud â dewis y lleoliadau a'r cyfarpar priodol, sicrhau bod yna ddigon o gyfarpar ar gyfer y mynychwyr a sicrhau ei fod yn gweithio'n ddigonol. Gellir cynnal y sesiwn arddangos yn ystod y cam datblygu prototeip, yn ystod y camau allweddol yn ystod y broses datblygu neu unwaith caiff y gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol eu cwblhau.

Gallai'r safon hon fod yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol, sy'n cynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.

Gallai prosiectau gemau a chyfryngau rhyngweithiol fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac fe allan nhw ymwneud â'r defnydd o dechnoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i, Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti Cymysg (MR).


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​defnyddio gwybodaeth gan ffynonellau dibynadwy er mwyn adnabod y disgwyliadau a'r gofynion ar gyfer sesiynau arddangos
  2. trefnu lleoliadau sy'n briodol o ran maint, cynllun a'r amgylchedd ar gyfer y gêm neu'r cyfryngau rhyngweithiol gaiff ei arddangos
  3. trefnu ar gyfer cyfarpar sy'n briodol ar gyfer y gêm neu'r cyfryngau rhyngweithiol gaiff ei arddangos
  4. sicrhau bod cyfarpar digonol er mwyn i bob aelod o'r gynulleidfa allu manteisio ar allbynnau'r prosiectau pan fo'n ofynnol
  5. sicrhau eich bod yn ystyried unrhyw ofynion arbennig gan aelodau'r gynulleidfa yn ymwneud â phrofi allbynnau'r prosiectau
  6. gwirio gyda'r cydweithwyr priodol bod yr amgylchedd, y cyfarpar a'r trefniadau eraill yn addas ar gyfer allbynnau'r prosiectau gaiff eu harddangos
  7. sicrhau y caiff yr holl gyfleusterau eu trefnu gan gydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth berthnasol
  8. sicrhau bod yr holl bobl allweddol, a ddylai fynychu'r sesiynau arddangos, ar gael
  9. rhannu gwybodaeth am y sesiynau arddangos gyda'r bobl berthnasol ar amseroedd priodol
  10. sicrhau y byddai'r holl gyfarpar yn gweithio drwy gydol y sesiynau arddangos

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y ffynonellau gwybodaeth am ofynion y cleientiaid a'ch cydweithwyr ynghyd â'r disgwyliadau o ran y sesiynau arddangos
  2. y gwahaniaethau gofynnol ar gyfer arddangos prototeipiau neu gynnyrch terfynol
  3. y gofynion arddangos ar gyfer gemau neu allbynnau prosiectau cyfryngau rhyngweithiol
  4. yr amgylchedd, y gofod a'r cynllun gofynnol er mwyn arddangos gwahanol dechnolegau trochol
  5. y safonau, y cytundebau a'r canllawiau perthnasol gan gynnwys canllawiau ac ymarfer gorau i sicrhau bod y defnyddwyr yn gyfforddus a bod y profiad yn un o safon
  6. defnyddioldeb, hygyrchedd a'r effeithiau ar ddefnyddwyr
  7. y cyfarpar priodol ar gyfer arddangosiadau a lle i ddod o hyd iddo
  8. sut i wirio bod y cyfarpar yn gweithio gan gynnwys gwirio oes batris
  9. y deddfwriaethau, safonau, cytundebau a'r canllawiau perthnasol ar gyfer arddangos, gwylio, a phrofi allbynnau prosiectau yn ymwneud â thechnoleg trochol gan gynnwys glanhau cyfarpar yn dilyn pob defnydd, sicrhau gofod gwag ar gyfer symud ac amgylchynu arddangoswyr
  10. y cleientiaid ac aelodau eraill o'r gynulleidfa sydd ynghlwm â'r sesiynau arddangos a sut i gysylltu gyda nhw
  11. y cydweithwyr sydd ynghlwm â'r prosesau marchnata, creadigol, datblygu a sicrhau ansawdd a sut a phryd mae angen iddyn nhw fod ynghlwm â'r sesiynau arddangos
  12. pwy allai gynorthwyo gyda'r prosesau gosod technegol, gweithredu a chynnal a chadw'r cyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer y sesiynau arddangos

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIMT9

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

cyfryngau rhyngweithiol; gemau; chwarae gemau; gwefannau, rhaglenni; marchnata ar-lein; AR/VR; 360; technoleg drochol; realiti cymysg; realiti estynedig; defnyddiwr terfynol; aml-lwyfan; aml-sianel; cynnyrch; prototeipiau