Cynnal profion ymarferol ar gyfer gemau ac allbynnau prosiectau cyfryngau rhyngweithiol

URN: SKSIM27
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal profion ymarferol ar gyfer gemau ac allbynnau prosiectau cyfryngau rhyngweithiol i sicrhau eu bod yn gweithio'n briodol. Gallai hyn ymwneud â phrofi er uniondeb i sicrhau ei fod yn gweithio fel y disgwyl heb unrhyw wallau, profi er cysondeb ar draws llwyfannau terfyn penodol neu fanylebau system, neu brofi er cydymffurfiaeth gyda'r safonau neu'r rheoliadau gofynnol. Mae'n debyg y byddai hyn yn broses ailadroddol yn ystod y cam datblygu.

Gallai'r safon hon fod yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol, sy'n cynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.

Gallai prosiectau gemau a chyfryngau rhyngweithiol fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac fe allan nhw ymwneud â'r defnydd o dechnoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i, Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti Cymysg (MR).

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â phrofi ymarferoldeb gemau neu allbynnau prosiectau  cyfryngau rhyngweithiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​caffael y wybodaeth gyfredol am y nod dylunio cyffredinol a chyfarwyddiadau'r prosiectau
  2. adnabod y meini prawf, y cyfarwyddiadau prawf a'r senarios prawf priodol
  3. caffael eglurdeb ynghylch y gofynion a'r cyfarwyddiadau gan y bobl berthnasol pan fo'n ofynnol
  4. cynnal profion ymarferol sy'n briodol ar gyfer y cam datblygu dan sylw
  5. gweithredu dull cyfundrefnol wrth gynnal profion ymarferol yn unol â'r cyfarwyddiadau prawf neu gyfarwyddiadau eraill a ddarperir
  6. adnabod a rhoi gwybod am broblemau gydag agweddau penodol o'r prosiectau sy'n briodol ar gyfer y cam datblygu dan sylw
  7. llunio gwybodaeth drylwyr, eglur a chryno am unrhyw wallau'n ymwneud â'r feddalwedd fel bod modd i bobl eraill eu canfod
  8. cyflwyno canlyniadau'r profion ymarferol gan ddefnyddio'r dulliau a'r gweithdrefnau priodol
  9. ymateb mewn ffordd adeiladol i unrhyw gyfathrebiadau gan aelodau eraill o'r tîm am ganlyniadau'r profion ymarferol sydd wedi'u cyflwyno

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. lle i ganfod gwybodaeth am y nod dylunio cyffredinol a chyfarwyddiadau'r prosiectau
  2. y materion moesegol yn gysylltiedig gyda phrosiectau gan gynnwys amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad

  3. lle i ganfod gwybodaeth am y meini prawf asesu, y cyfarwyddiadau prawf a senarios prawf gan gynnwys sut i'w datblygu pan nad ydyn nhw wedi'u datblygu gan eraill

  4. diffiniadau eich cwmni o ran camau carreg filltir allweddol gan gynnwys Alffa, Beta, mynediad cynnar, profi agored a Chyflwyniad Meistr

  5. diben profi ymarferol, sut mae profi ymarferol yn wahanol i brofion defnyddwyr, yr angen i ail-wirio elfennau sydd wedi'u profi eisoes a'r wleidyddiaeth ynghlwm â phrofi gan gynnwys yr angen i wahanu'r gofynion profi rhag y gofynion rheoli

  6. y gwahanol fathau o brofi ymarferol a phryd mae hi'n briodol i'w cynnal gan gynnwys profi uniondeb, profi cysondeb a phrofi cydymffurfiaeth

  7. sut a phwy ddylech chi eu holi am y gofynion neu i godi problemau ynghylch y cyfarwyddiadau gyda nhw

  8. cylch oes gwall o'i ddarganfod hyd at derfynu, sut a phryd i ddefnyddio meddalwedd olrhain gwallau, safonau diwydiant ar gyfer graddio gwallau a phwysigrwydd atebolrwydd ar gyfer adroddiadau am wallau

  9. sut i ddiffinio a mynegi ansawdd profiad y defnyddiwr

  10. y safonau technegol a chyfreithiol neu'r safonau o ran llwyfannau neu gydymffurfiaeth berthnasol a sut gallai'r rhain amrywio rhwng tiriogaethau

  11. sut i gyflwyno adborth eglur ac adeiladol hyd yn oed pan mae'n bosib na chaiff broblemau neu adborth negyddol eu croesawu

  12. y person y dylech chi gyflwyno canlyniadau'r profion iddyn nhw


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIM26

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

cyfryngau rhyngweithiol; gemau; chwarae gemau; gwefannau, rhaglenni; marchnata ar-lein; AR/VR; 360; technoleg drochol; realiti cymysg; realiti estynedig; defnyddiwr terfynol; aml-lwyfan; aml-sianel; profi; electronig; ymarferol; profiad; chwaraewyr;