Cyfarwyddo defnyddwyr i brofi gemau ac allbynnau prosiectau cyfryngau rhyngweithiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â threfnu a chynnal profion defnyddwyr yn ymwneud â gemau neu allbynnau prosiectau cyfryngau rhyngweithiol. Mae hyn yn debygol o fod yn broses ailadroddol yn ystod y broses datblygu.
Gallai'r safon hon fod yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.
Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â phrofion defnyddwyr yn ymwneud â gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- trefnu amgylchedd priodol er mwyn cynnal profion defnyddwyr
- gofyn am eglurhad ynghylch y gofynion a'r cyfarwyddiadau gan y bobl berthnasol pan fo'n ofynnol
- recriwtio unigolion i brofi yn unol â'r manylebau profi pan fo'n ofynnol
- trefnu amgylcheddau profi yn unol â'r cyfarwyddiadau a ddarperir
- sicrhau bod y cyfarpar a'r deunyddiau priodol, ar gyfer cofnodi data profi, ar gael ac yn gweithio'n ddigonol
- rhoi cyfarwyddiadau i unigolion sy'n profi, yn unol â'r sgriptiau, y cynlluniau neu'r cyfarwyddiadau a ddarperir, cyn, yn ystod neu ar ôl y profion defnyddwyr
- sicrhau bod yr unigolion sy'n profi yn deall ac yn cwblhau eu tasgau yn unol â'r manylebau profi
- pennu ffyrdd o leddfu unrhyw ffactorau sy'n codi cyn neu'n ystod y profion defnyddwyr ac a allai effeithio ar y canlyniadau
- cofnodi canlyniadau'r profion yn unol â'r cyfarwyddiadau a ddarperir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gaffael gwybodaeth am ymarferoldeb a nodweddion gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol
- sut i gaffael gwybodaeth am brofion defnyddwyr gan gynnwys y diben, yr amcanion, y dulliau, y manylebau, y cyfarwyddiadau a'r dulliau cofnodi
- materion moeseg ynghlwm â phrofion defnyddwyr gan gynnwys preifatrwydd, cyfrinachedd, amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad
- sut a phwy ddylech chi eu holi am y gofynion neu godi materion mewn ymateb i'r cyfarwyddiadau gyda nhw
- sut ac o le y dylech chi recriwtio unigolion i gynnal profion
- sut i ddefnyddio'r labordy profion neu drefnu amgylchedd profi yn unol â'r cyfarwyddiadau a ddarperir
- y cyfarpar a'r deunyddiau sy'n angenrheidiol er mwyn cofnodi data'r profion gan gynnwys caledwedd, meddalwedd, holiaduron, ffurflenni, pennau ysgrifennu a phensiliau
- pa ffactorau allai effeithio ar ganlyniadau'r profion gan gynnwys y cyfarpar, yr amgylchedd, eglurder cyfarwyddiadau'r dasg, cwestiynau arweiniol ac ymwybyddiaeth o rywun yn eich arsylwi
- sut i ddilyn sgriptiau profi neu gynlluniau cyfweliadau
- sut i ddilyn gweithdrefnau profi penodol ar gyfer trefnu, cyfarwyddo'r defnyddwyr, yn ystod ac wedi cwblhau'r profion