Llunio a gwerthuso profion defnyddwyr ar gyfer y gemau â’r allbynnau prosiectau cyfryngau rhyngweithiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â llunio profion i ddefnyddwyr a dadansoddi, gwerthuso a chofnodi'r data yn sgil y profion hynny. Mae'n debyg y byddai hyn yn broses ailadroddus yn ystod y cam datblygu.
Mae'r safon hon yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.
Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â phrofion defnyddwyr ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- caffael gwybodaeth gyfredol am y prosiect sy'n ofynnol ar gyfer y profion i ddefnyddwyr
- cyflawni dadansoddiad trylwyr am wybodaeth y prosiect er mwyn adnabod pa agweddau o'r prosiectau sydd angen eu profi
- amlinellu'r meini prawf asesu a fyddai'n bodloni gofynion y prosiect
- dewis dulliau, tasgau a gweithgareddau profi a allai gynhyrchu data dilys ac sy'n bodloni paramedrau'r prosiect
- penderfynu sut fyddwch chi'n casglu data'r profion a dylunio adnoddau casglu data priodol
- llunio ffyrdd o liniaru ffactorau a allai effeithio ar ganlyniadau'r profion
- amlinellu samplau defnyddiwr terfynol sy'n cynrychioli'r cynulleidfaoedd targed ac a fyddai'n cynnig data profi dilys a digonol
- dewis a recriwtio arsylwyr neu hwyluswyr profi priodol i fodloni gofynion y profion
- paratoi cyfarwyddiadau eglur gyda'r wybodaeth berthnasol ar gyfer yr holl bobl sydd ynghlwm
- coladu canlyniadau'r profion
- dadansoddi a gwerthuso canlyniadau'r profion gan gymharu gyda'r meini prawf asesu i adnabod materion a phroblemau
- pennu difrifoldeb materion a phroblemau, pa mor rhwydd ydy hi i'w trwsio a'u heffaith ar brosiectau
- cofnodi eich canfyddiadau ar ffurf briodol i'w ddosbarthu gyda'r cydweithwyr perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr ystod o ddata y gellir ei brofi gan gynnwys defnyddioldeb, ansawdd, addasrwydd ar gyfer diben, dyluniad cyffredinol, integreiddiad elfennau dylunio
- sut i gaffael gwybodaeth am brosiectau a'r paramedrau gan gynnwys amcanion dylunio, gofynion y cleientiaid, y cyfyngiadau dylunio, manylebau gweithredol, ymarferoldeb, nodweddion a'r gynulleidfa targed
- yr egwyddorion dylunio rhyngweithio a'r materion yn ymwneud â defnyddioldeb a hygyrchedd gan gynnwys animeiddiad amser real
- sut i gaffael a dadansoddi gwybodaeth am y prosiectau er mwyn adnabod nodweddion, gofynion, disgwyliadau, tasgau a nodau'r defnyddiwr terfynol
- y materion moesegol yn ymwneud â'r profion defnyddwyr gan gynnwys preifatrwydd, cyfrinachedd, amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad
- nodweddion, buddion ac anfanteision technegau technoleg isel ar gyfer cynnal profion defnyddioldeb gan gynnwys holiaduron, cyfweliadau, grwpiau ffocws, arolygon ac arsylwi defnyddwyr
- sut i baratoi sgriptiau prawf, cwestiynau ar gyfer cyfweliadau a ffurflenni'r arolygon
- nodweddion, buddion ac anfanteision technegau awtomataidd uwch-dechnoleg ar gyfer cynnal profion defnyddioldeb gan gynnwys olrhain y llygaid, cofnodion gweinyddion, dadansoddeg a phrosesau eraill wedi'u sgriptio
- rôl arsylwyr a hwyluswyr y profion a phryd mae hi'n briodol ichi eu defnyddio
- y wybodaeth ofynnol ar gyfer arsylwyr a hwyluswyr y profion gan gynnwys amcanion y profion, meini prawf asesu a'u rôl ynghlwm â'r broses a pham ei fod yn bwysig ichi eu cyfarwyddo nhw
- sut i lunio cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddwyr terfynol sy'n cynnwys gwybodaeth ddigonol iddyn nhw allu cynnal profion heb ddylanwadu ar y canlyniadau'n ddiangen
- pa ffactorau allai effeithio ar ganlyniadau'r profion gan gynnwys y cyfarpar, yr amgylchedd, eglurder cyfarwyddiadau'r dasg, cwestiynau arweiniol neu ymwybyddiaeth o gael eu harsylwi
- technegau coladu, dadansoddi a gwerthuso ar gyfer data ansoddol a mesurol
- ffurfiau'r cofnodion am y prosiect a phwy sydd angen eu derbyn
- sut i ysgrifennu adroddiad sydd wedi'i ymchwilio'n dda ac wedi'i eirio'n eglur