Defnyddio ieithoedd rhaglennu i ddatblygu ymarferoldeb cynnwys ar gyfer gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol

URN: SKSIM24
Sectorau Busnes (Suites): Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio iaith rhaglennu i ddatblygu ymarferoldeb cynnwys mewn gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol. Gallai'r rhaglennu fod yn gyffredinol neu ar gyfer maes arbenigol, gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i ffiseg, graffeg, rhwydweithio, deallusrwydd artiffisial, rhyngwyneb defnyddiwr neu sain. Yn nodweddiadol, mae hon yn broses ailadroddol yn ymwneud ag adborth ac adolygu cyson felly mae gofyn ichi fod yn amyneddgar ac yn barod i fod yn wrthrychol am eich gwaith.  

Mae'r safon hon yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.

Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n defnyddio ieithoedd rhaglennu i ddatblygu ymarferoldeb cynnwys ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​caffael manylebau, cyfarwyddiadau, paramedrau a chyfyngiadau cyfredol y prosiect
  2. gwneud defnydd effeithiol o amgylcheddau datblygu penodol neu gyfarpar codio
  3. rhaglenni codio neu gydrannau rhaglenni i ddarparu ymarferoldeb penodol
  4. creu cod effeithlon sy'n rhwydd i'w ddarllen a'i gynnal
  5. cynhyrchu cod modwlar i fodloni'r gofynion
  6. cynnig dogfennaeth a sylwadau eglur am y cod sydd wedi'i gynhyrchu er mwyn i eraill allu ei ddeall
  7. cynnal profion trylwyr ar y cod er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu'n gywir yn unol â'r paramedrau penodol
  8. trwsio unrhyw wallau neu broblemau sydd wedi'u hadnabod yn sgil y profion
  9. dehongli codau a sylwadau pobl eraill gan addasu eu cod, cael gwared ar wallau ac ychwanegu at eu cod yn unol â'r gofynion
  10. llunio neu ddefnyddio cod ar ffurfiau priodol
  11. cyfathrebu gyda chydweithwyr i sicrhau y caiff y dyluniadau a'r manylebau eu gweithredu'n gywir
  12. ymateb mewn ffordd gadarnhaol i aml-geisiadau am newidiadau i amserlenni gwaith, graddfeydd amser a nodweddion y cynnyrch wrth i'r prosiectau ddatblygu dros amser
  13. defnyddio systemau rheoli fersiwn a rheoli asedau i sicrhau bod copi wrth gefn cyflawn o'r gwaith

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i gaffael gwybodaeth ar, a dehongli manylebau, cyfarwyddiadau, paramedrau a chyfyngiadau'r prosiect gan gynnwys y strwythur cyffredinol, ffurfiau, llwyfannau targed a'u galluoedd
  2. y gwahanol bobl sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, ysgrifennu manylebau'r prosiect a dylunio gwahanol rannau o allbynnau'r prosiect ynghyd â phwy ddylech chi eu holi am ragor o wybodaeth a chodi problemau gyda nhw
  3. yr egwyddorion rhaglennu perthnasol a'r ymarfer gorau gan gynnwys rhaglennu gwrthrych cyfeiriedig a rhaglennu gweithredol  
  4. yr ieithoedd rhaglennu o safon diwydiant a'r nodweddion, cystrawen a'r fframweithiau sydd ar gael ar gyfer yr iaith rhaglennu rydych chi'n ei defnyddio
  5. sut i brofi a chael gwared ar wallau mewn codau gan gynnwys sut i lunio cod gwaredu gwallau cyfaddas a phryd i'w ddefnyddio 
  6. pam ei bod hi'n bwysig parhau i fod yn amyneddgar ac yn wrthrychol pan fyddwch chi'n gweithio ar broses ailadroddol sy'n ymwneud ag adborth a gwaith adolygu cyson
  7. natur sail-cod sy'n amodol ar adolygiad cyson a datblygiad parhaus
  8. sut i ddefnyddio meddalwedd priodol i reoli asedau, rheoli fersiwn codau ac olrhain gwallau
  9. y ffynonellau gwybodaeth ar gyfer help ac awgrymiadau ynghylch manteisio i'r eithaf ar yr iaith rhaglennu a'r amgylchedd datblygu rydych chi'n ymwneud gyda nhw
  10. effaith amrywioldeb, cynhwysiant, moeseg, defnyddioldeb, hygyrchedd, deallusrwydd emosiynol, seicoleg ymddygiad ac animeiddiad amser real ar brosiectau
  11. goblygiadau ceisiadau hwyrach am newidiadau i ymarferoldeb neu agweddau eraill
  12. y materion technegol a rhesymegol ynghlwm â datblygu ar gyfer cyflawni traws-lwyfan
  13. y disgwyliadau eraill a allai fod ynghlwm â'r gwaith cael gwared ar wallau, defnyddio neu addasu eich cod
  14. gwerth masnachol cod meddalwedd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIM23

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

cyfryngau rhyngweithiol; gemau; chwarae gemau; gwefannau, rhaglenni; marchnata ar-lein; AR/VR; 360; technoleg drochol; realiti cymysg; realiti estynedig; defnyddiwr terfynol; aml-lwyfan; aml-sianel; rhaglennu; ieithoedd; cyfryngau rhyngweithiol; cynnyrch;