Defnyddio ieithoedd sgriptio i ddatblygu ymarferoldeb cynnwys ar gyfer gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio iaith sgriptio i ddatblygu ymarferoldeb cynnwys ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol. Mae hyn yn ymwneud ag ysgrifennu, profi, cael gwared ar wallau a dogfennu cod ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.
Mae'r safon hon yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.
Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n defnyddio arwyddnodau i ddatblygu ymarferoldeb cynnwys ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- caffael manylebau, cyfarwyddiadau, paramedrau a chyfyngiadau cyfredol y prosiect
- gofyn am fwy o wybodaeth am y gofynion a chodi unrhyw broblemau gyda'r bobl briodol pan fo'n ofynnol
- defnyddio'r cyfarpar awduro priodol i fodloni gofynion y prosiect
- defnyddio'r cyfarpar awduro penodol yn unol â'r gofynion
- ysgrifennu cod effeithlon ac ailddefnyddiadwy sy'n hawdd i'w gynnal a chael gwared ar unrhyw wallau ohono
- codio sgriptiau i ddarparu'r ymarferoldeb penodol
- llunio cod modwlar i fodloni'r gofynion
- dogfennu'r cod fel bod modd i eraill ei ddeall
- profi'r cod i sicrhau ei fod yn gweithredu'n gywir yn unol â'r paramedrau penodol
- trwsio unrhyw wallau neu broblemau sydd wedi'u hadnabod yn sgil y profion
- cyfathrebu gyda chydweithwyr i sicrhau y caiff y dyluniadau a'r manylebau eu gweithredu'n gywir
- ymateb mewn ffordd gadarnhaol i geisiadau am newidiadau
- defnyddio'r cynnyrch wedi'u cwblhau ar ffurfiau priodol ar gyfer llwyfannau neu weinyddion priodol yn unol â'r manylebau a'r cyfarwyddiadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gaffael gwybodaeth ar, a dehongli manylebau, cyfarwyddiadau, paramedrau a chyfyngiadau'r prosiect gan gynnwys ffurfiau, llwyfannau targed a'u galluoedd ynghyd ag unrhyw broblemau'n ymwneud â chyflawni cynnwys ac asedau a goblygiadau cyfryngau wedi'i fewnosod
- eich safle yn y broses cynhyrchu cyffredinol a phwy i dderbyn mwy o wybodaeth ganddyn nhw, codi problemau gyda nhw ynghyd â gwirio priodoldeb y gwaith wedi'i gwblhau gyda nhw
- yr egwyddorion rhaglennu perthnasol a'r ymarfer gorau gan gynnwys rhaglennu gwrthrych cyfeiriedig a rhaglennu gweithredol
- ieithoedd sgriptio safon diwydiant a nodweddion a chystrawen yr iaith rydych chi'n ei defnyddio ynghyd â ffynonellau gwybodaeth am help ac awgrymiadau ar fanteisio i'r eithaf ar yr iaith sgriptio rydych chi'n codio gyda hi
- datblygiad tebygol ieithoedd sgriptio cyfredol yn y dyfodol, a chyfleoedd a galluoedd a allai ddatblygu wrth i'r ieithoedd esblygu
- y fframweithiau sydd ar gael ar gyfer yr iaith rydych chi'n ei defnyddio
- pam ei bod hi'n bwysig cynnig dogfennau a sylwadau eglur am godau fel bod modd i eraill ei ddeall
- sut i brofi cod a chael gwared ar unrhyw wallau ohono yn effeithlon, yn effeithiol ac yn drylwyr.
- goblygiadau ceisiadau hwyrach am newidiadau i ymarferoldeb neu agweddau eraill prosiectau
- sut i ddarllen a deall cod a sylwadau datblygwyr eraill er mwyn addasu, dadfygio neu ychwanegu at eu gwaith
- y goblygiadau ar gyfer dylunio a datblygu defnyddio data byw, cynnwys ar sail cronfa ddata, datblygu, cynnal, gweinyddion gwe byw ac animeiddiad amser real
- effaith amrywioldeb, cynhwysiant, moeseg, defnyddioldeb, hygyrchedd, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad ar brosiectau
- y safonau perthnasol a'r arferion rhyngweithredu
- materion perthnasol yn ymwneud ag amrywioldeb, cynhwysiant, moeseg, defnyddioldeb, hygyrchedd, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad ar ddyluniad y cynnyrch a'r prosiectau
- disgwyliadau eraill a allai fod ynghlwm â dadfygio, defnyddio neu addasu eich cod
- safonau caiff eu gweithredu gan y diwydiant a thueddiadau technegol eraill