Defnyddio cyfarpar awduro i ddatblygu cynnwys ar gyfer gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio cyfarpar awduro i drefnu a datblygu cynnwys ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol. Gallai'r cyfarpar awduro fod o unrhyw fath a fyddai'n cysylltu cydrannau unigol i greu rhaglenni terfynol.
Mae hyn yn ymwneud â chydosod cynnwys neu asedau, pennu mordwyaeth, datblygu ymarferoldeb a thrwsio unrhyw wallau mewn gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.
Mae'r safon hon yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.
Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n defnyddio cyfarpar awduro i drefnu a datblygu cynnwys ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a defnyddio'r cyfarpar awduro priodol i fodloni gofynion y prosiect
- cydosod, trefnu a gwirio'r cynnwys a'r asedau priodol
- defnyddio cyfarpar awduro i ddatblygu'r ymarferoldeb gofynnol yn unol â manylebau a pharamedrau'r prosiect
- gofyn am eglurhad o'r gofynion a chodi unrhyw broblemau gyda'r bobl briodol pan fo'n ofynnol
- strwythuro'r cynnwys mewn ffordd resymegol a chyson sy'n briodol ar gyfer y defnyddwyr targed
- pennu mordwyaeth sy'n eglur ac yn rhwydd i'w ddefnyddio
- profi cynnyrch i sicrhau eu bod nhw'n gweithio'n ddigonol yn unol â'r paramedrau penodol
- trwsio unrhyw wallau neu broblemau sy'n dod i'r amlwg yn sgil y profion
- ymateb mewn ffordd gadarnhaol i geisiadau am newidiadau yn sgil profion y defnyddwyr
- cyfathrebu gyda chyd-weithwyr i sicrhau y caiff dyluniadau a'r manylebau eu gweithredu'n gywir
- defnyddio cynnyrch wedi'u cwblhau ar ffurfiau priodol yn unol â'r manylebau a'r cyfarwyddiadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gaffael gwybodaeth ar, a dehongli manylebau, cyfarwyddiadau, paramedrau a chyfyngiadau'r prosiectau gan gynnwys ffurfiau, llwyfannau targed a'u galluoedd
- eich safle o ran y broses cynhyrchu cyffredinol a phwy i dderbyn eglurder ganddyn nhw, codi problemau gyda nhw a gwirio priodoldeb gwaith sydd wedi'i gwblhau gyda nhw
- y cyfarpar awduro sydd ar gael, eu buddion, anfanteision ac unrhyw gyfyngiadau a allai effeithio ar weithredu allbynnau'r prosiect yn rhwydd, eu defnyddioldeb a gwaredu unrhyw wallau
- sut i ddefnyddio cyfarpar awduro a manteisio ar awgrymiadau ar gyfer eu defnyddio nhw gan gynnwys unrhyw feddalwedd cynorthwyo cysylltiedig
- lle i gaffael a sut i drefnu cynnwys ac asedau
- lle a sut i gaffael unrhyw wybodaeth ychwanegol ofynnol i ddefnyddio cynnyrch sydd wedi'u cwblhau
- yr egwyddorion dylunio rhyngweithiol gan gynnwys problemau'n ymwneud â defnyddioldeb a hygyrchedd
- effaith amrywioldeb, cynhwysiant, moeseg, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad ar brosiectau
- piblinellau asedau prosiect, systemau rheoli fersiwn ac arferion enwi ar gyfer cynnwys ac asedau
- goblygiadau ceisiadau hwyr am newidiadau i ymarferoldeb neu agweddau eraill y prosiectau
- y goblygiadau ar gyfer dylunio a datblygu'r defnydd o ddata byw, cynnwys ar sail cronfa ddata ac animeiddiad amser real
- safonau perthnasol ac arferion rhyngweithredu
- sut i ddefnyddio cynnyrch wedi'u cwblhau ar wahanol ffurfiau gan gynnwys uwch lwytho tudalennau gwe ac asedau i weinyddion gwe, neu allforio rhaglenni gweithredadwy i'w cynnal ar y llwyfannau gofynnol
- pwy ddylech chi gyfathrebu gyda nhw a phryd mae hi'n briodol ichi wneud hynny gan gynnwys gofyn am eglurder ynghylch y gofynion, codi problemau, ymateb i geisiadau am newidiadau a sicrhau gweithredu cywir