Creu cerddoriaeth ar gyfer gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol

URN: SKSIM20
Sectorau Busnes (Suites): Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfansoddi cerddoriaeth i'w ddefnyddio mewn gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol. Mae'n ymwneud â rhoi sgiliau cyfansoddi cerddoriaeth ar waith mewn gêm neu mewn cyd-destun cyfryngau rhyngweithiol y mae'n bosib fyddai angen cerddoriaeth sgorio ar gyfer cynyrchiadau aflinol lle gallai'r golygfeydd a'r naws amrywio o ran hyd sy'n anhysbys a lle na chaiff digwyddiadau ac amseriadau pwyntiau drama allweddol eu  pennu ymlaen llaw. Mae'r safon yn ymdrin â chyfansoddi, recordio, cymysgu, golygu a chadw asedau cerddoriaeth i'w defnyddio mewn gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.

Gallai'r safon hon fod yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.

Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​creu cerddoriaeth yn unol â manylebau a pharamedrau'r prosiectau
  2. gofyn i'r bobl briodol am egluro'r gofynion a chodi unrhyw faterion gyda nhw pan fo'n ofynnol
  3. cyfansoddi cerddoriaeth sy'n addas i ddiben a naws y prosiectau
  4. creu cerddoriaeth sy'n gweithio'n unol â'r effeithiau sain a dialog gofynnol
  5. defnyddio'r feddalwedd briodol i recordio, dilyniannu a chymysgu sain
  6. recordio, cymysgu, golygu a chyflawni cerddoriaeth wedi'i chyfansoddi ar ffurfiau y mae modd eu hatgynhyrchu gyda'r llwyfannau targed
  7. creu asedau cerddoriaeth a allai ymateb i ddigwyddiadau gofynnol a rhyngweithiadau'r defnyddwyr
  8. cadw asedau cerddoriaeth ar ffurfiau ffeil priodol ar gyfer prosiectau
  9. trefnu gwaith gan ddefnyddio'r arferion ffeilio ac enwi priodol er mwyn i eraill allu eu canfod yn rhwydd
  10. llunio dogfennau eglur fel sy'n briodol i eraill allu defnyddio'r gwaith cerddoriaeth wedi'i gyfansoddi mewn prosiectau
  11. cyfathrebu gyda chydweithwyr er mwyn sicrhau bod eich gwaith yn briodol ac yn bodloni'r gofynion
  12. cyfathrebu gyda'r awdurdodau perthnasol i dderbyn cymeradwyaeth am gerddoriaeth wedi'i chyfansoddi

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i gaffael gwybodaeth ar fanylebau neu gyfarwyddiadau'r  prosiect gan gynnwys diben a naws y gerddoriaeth, rhyngweithio gydag effeithiau sain a dialog a'r paramedrau a'r cyfyngiadau gan gynnwys llwyfannau targed a'u galluoedd, yn enwedig gan ymwneud gyda chyfraddau chwarae sain a throsglwyddo data 
  2. pwy ddylech chi dderbyn eglurhad ganddyn nhw, codi unrhyw faterion gyda nhw a gwirio priodoldeb yr allbynnau gyda nhw
  3. sut i arwain y broses o bennu'r gofynion o ran cerddoriaeth ac asesu sut cafodd y gerddoriaeth ei defnyddio i wella prosiectau tebyg gan gynnwys rhai'r cystadleuwyr
  4. y strategaethau a'r technegau ar gyfer cyfansoddi, recordio a chyflawni cerddoriaeth sy'n mynd i'r afael gydag ac yn lliniaru'r heriau o sgorio ar gyfer prosiectau aflinol gan gynnwys rhannau canghennog a haenau cerddoriaeth cydamserol sydd wedi'u cymysgu'n ddeinamig 
  5. y technolegau cerddoriaeth cyfrifiadurol sydd ar gael ynghyd â'r feddalwedd safon diwydiant a sut i'w defnyddio nhw gan gynnwys samplwyr, dilynianwyr, dyfeisiau MIDI, caledwedd stiwdio recordio 'allanol' a desgiau cymysgu
  6. y gwahanol ddulliau i'w gweithredu pan gaiff y gerddoriaeth ei chwarae fel y mae wedi'i recordio neu wedi'i chynhyrchu'n weithdrefnol gan ddefnyddio cod meddalwedd
  7. y technegau ar gyfer newid cerddoriaeth er mwyn ymateb i ddigwyddiadau neu ryngweithiadau'r defnyddwyr gan gynnwys newid cywair neu dempo neu drwy arwain at ddarn arall o gerddoriaeth
  8. sut i samplu sain gan ffynonellau cyfreithlon a defnyddio samplau sain
  9. effaith cyfraddau samplu sain a'r dyfnder did ar faint y ffeil a'r cyfraddau trosglwyddo data
  10. yr egwyddorion eiddo deallusol a pherchnogaeth, y cyfyngiadau cyfreithiol ynghlwm â deunyddiau wedi'i greu gan eraill, pryd y byddai angen caniatâd arnoch chi i samplo neu ddefnyddio deunydd pobl eraill a sut i gaffael y caniatâd
  11. y gwahanol ffurfiau ar gyfer cyflawni cerddoriaeth a phryd y byddai'n briodol ichi eu defnyddio
  12. yr arferion enwi'r prosiectau, safonau, canllawiau, manylebau, systemau rheoli fersiwn neu'r piblinellau asedau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIM17

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol, Dirprwy Bennaeth Cerbyd

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Cyfryngau rhyngweithiol; gemau; chwarae gemau; gwefannau, rhaglenni; marchnata ar-lein; AR/VR; 360; technoleg drochol; realiti cymysg; realiti estynedig; defnyddiwr terfynol; aml-lwyfan; aml-sianel; cerddoriaeth; cyfansoddi; recordio; meddalwedd;