Adnabod a chyflwyno cynigion ar gyfer gemau a gwaith cyfryngau rhyngweithiol newydd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynhyrchu busnes, un ai drwy gaffael, ymateb i wahoddiadau i gyflwyno tendr neu fanteisio ar gyfleoedd masnachol. Mae hyn yn ymwneud â chyflwyno cynigion un ai i gleientiaid neu randdeilaid mewnol i geisio sicrhau eich bod yn derbyn y gwaith. Gallai hyn ymwneud gyda phrosiectau newydd sbon neu wella neu fanteisio ar ddichonoldeb prosiectau presennol.
Mae'n ymwneud ag adnabod a gwerthuso cyfleoedd, pennu hyd a lled cyfleoedd, cyllidebau ac adnoddau a pharatoi a chyflwyno gwybodaeth am allu'r mudiadau i gyflawni'r prosiectau.
Mae'r safon hon yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.
Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n cyflawni gwaith yn ymwneud â gemau neu gyfryngau rhyngweithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflawni ymchwil marchnad i adnabod bylchau yn y farchnad a chyfleoedd i ddatblygu cynnyrch neu wasanaethau newydd neu fanteisio ar gyllid o gynnyrch neu wasanaethau presennol
- cyfathrebu gyda chleientiaid arfaethedig perthnasol i gaffael cyfleoedd i gyflwyno tendrau neu gyflwyno syniadau ar gyfer prosiectau
- gwerthuso cyfleoedd ar gyfer cynnyrch, gwasanaethau neu brosiectau sy'n cyd-fynd gyda model busnes eich mudiad
- defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i adnabod a deall gofynion y cleient a'r farchnad
- cynnal asesiadau manwl gywir a realistig am werth masnachol y cyfleoedd
- pennu hyd a lled amcanion, graddfeydd amser, cyllidebau ac adnoddau'r prosiect ynghyd â gofynion y defnyddiwr a fyddai'n cyflawni'r prosiectau arfaethedig
- cyfathrebu gyda'r staff creadigol, technegol, rheoli prosiect, busnes, marchnata a chymunedol perthnasol i sicrhau bod y cynigion yn realistig ac yn gyraeddadwy
- paratoi dogfennau i ategu holl agweddau gofynnol y prosiectau arfaethedig
- cynnig cyflwyniadau eglur a dengar gan gyflwyno gwybodaeth allweddol am gynigion ar ffurf a chyflymder sy'n briodol i'r gynulleidfa
- trefnu sesiwn dilynol wedi ichi gyflwyno'r wybodaeth i sicrhau bod y gynulleidfa wedi deall y cynigion
- cyflwyno unrhyw wybodaeth ychwanegol sy'n ofynnol er mwyn egluro'r cynigion i'r cleientiaid neu'r rhanddeiliaid mewnol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau, gwerthoedd, rheolaeth, blaenoriaethau a model busnes eich mudiad yn enwedig y cydbwysedd rhwng gwaith i'w hurio a datblygu cynnyrch hapfasnachol
- strwythur y diwydiant gan gynnwys yr hynny mae'r cystadleuwyr yn canolbwyntio arno a'u gweithgareddau
- galluoedd, cyfleoedd a chyfyngiadau'r dulliau a'r technolegau sydd ar gael gan gynnwys cymhwyster animeiddiad amser real
- effaith amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, moeseg, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad ar brosiectau
- y ffynonellau gwybodaeth am gystadlaethau a gwobrau a allai ddenu busnes neu grantiau newydd neu ffynonellau cyllid a allai gefnogi prosiectau
- y ffynonellau gwybodaeth am y farchnad sydd ar gael a sut i ddefnyddio technegau ymchwil i'r farchnad i adnabod marchnadoedd targed, gwahanol gynulleidfaoedd a gweithgareddau'r cystadleuwyr
- sut i bennu gwerth masnachol y cyfleoedd
- sut i bennu a fyddai cyflwyno cais am brosiectau'r cleientiaid arfaethedig yn briodol
- sut i lunio a chyflwyno achos busnes ar gyfer busnes, gan gynnwys sut i gynnal dadansoddiadau buddsoddi ac asesiadau risg
- pryd mae hi'n briodol i ystyried addasu, gwella a datblygu prosiectau presennol
- sut a phryd i ymateb i geisiadau ar gyfer tendrau a datblygu cynigion a chyflwyniadau effeithiol
- sut i adnabod a deall naws busnesau'r cleientiaid a'r cyd-destun priodol ar gyfer y prosiectau
- anghenion a disgwyliadau'r cleientiaid a chomisiynwyr arfaethedig a sut i reoli perthnasau gyda chleientiaid gan gynnwys peryglon gaddo gormod a thangyflawni
- sut i barhau i fod yn ymwybodol o gyfleoedd i rwydweithio a hyrwyddo'ch mudiad i gleientiaid neu bartneriaid arfaethedig
- y galluoedd, yr adnoddau a'r prosesau rheoli prosiectau a chytundebau eich mudiad
- anghenion a disgwyliadau staff dylunio a
chynhyrchu a chyflenwyr eich mudiad