Ysgrifennu a golygu testun ar gyfer gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag ysgrifennu a golygu deunydd testun ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol. Mae hyn yn ymwneud â thestun y byddai'r defnyddwyr yn ei weld, yn hytrach na'r naratif sylfaenol. Gallai amrywio o fod yn gyfarwyddiadau byr i'r defnyddiwr, awgrymiadau neu negeseuon rhyngwyneb i dudalennau gwe cyflawn. Gallai ymwneud ag ymateb i gyfarwyddyd manwl, cyfarwyddyd bras neu lunio syniad gwreiddiol ar gyfer gêm neu brosiect cyfryngau rhyngweithiol.
Mae'r safon hon yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.
Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n ysgrifennu neu'n golygu testun ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau bod cynnwys ac arddull y deunydd testun yn unol â gofynion y prosiect
- ysgrifennu gan ddefnyddio arddull sy'n addas i'r gynulleidfa targed, diben y cyfathrebu a'r cyfrwng cyflawni
- cynnal arddull gyson yn y testunau a rhwng testunau cysylltiedig
- defnyddio'r gramadeg cywir, atalnodi priodol a'r sillafiadau cywir ar gyfer yr iaith rydych chi'n ei defnyddio
- strwythuro cynnwys testun fel ei fod yn rhwydd i'w ddarllen a'i ddefnyddio
- strwythuro cynnwys testun mewn ffordd briodol ar gyfer y cyfrwng (cyfryngau) cyflawni
- cydymffurfio gyda'r arferion ysgrifennu, canllawiau arddull a'r polisïau perthnasol
- llunio geiriadau neu ddisgrifiadau priodol i gyd-fynd gydag unrhyw asedau rydych chi'n eu defnyddio
- cadw rheolaeth ar gyfeiriad ac ansawdd cynnwys testun
- gofyn am gyngor gan y bobl briodol ynghylch cywirdeb, cyfreithlondeb, defnyddioldeb ac addasrwydd i ddiben y testun
- cynnig geiriad eglur, cyson a hygyrch ar gyfer unrhyw hyperddolenni ac amlinellu targedau dolenni'n eglur
- amlinellu'r metaddata priodol pan fo'n ofynnol
- prawfddarllen eich testun i wirio am unrhyw wallau sillafu, gramadegol, teipograffyddol neu wallau eraill
- gwirio bod y ffeithiau a'r ffigyrau, sydd wedi'u dyfynnu, yn gywir
- cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â chynnwys y testun
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i egluro diben y testun a'i gynulleidfa targed
- yr egwyddorion gramadeg, atalnodi a sillafu ar gyfer yr iaith rydych chi'n ei defnyddio a'r adnoddau a'r dulliau ar gyfer eu gwirio
- y gwahanol arddulliau ysgrifennu a sut mae'r rhain yn effeithio ar wahanol gynulleidfaoedd
- effaith amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, moeseg, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad ar brosiectau a sut i lunio testun sy'n briodol ar gyfer y gynulleidfa targed ac sy'n rhwydd iddyn nhw fanteisio arno
- effaith animeiddiad amser real ar ofynion y testun
- y problemau a allai godi yn sgil lleoleiddio a rhyngwladoli cynnwys ar y gwahanol ddiwylliannau sydd ynghlwm
- y cyfyngiadau, y posibiliadau a'r cyfleoedd perthnasol a gynigir gan y cyfrwng neu lwyfan targed ar gyfer cyfathrebu gyda thestun
- sut i wirio dibynadwyedd y ffynonellau gwybodaeth ac a ydyn nhw'n gyfredol
- pryd a phwy ddylech chi ofyn iddyn nhw am gyngor ar gywirdeb, cyfreithlondeb, defnyddioldeb ac addasrwydd i ddiben y testun
- perthnasedd meta data ac unrhyw gynllun meta data neu system dosbarthu y dylech chi eu defnyddio ar y cyd â'r deunydd rydych chi'n ei gynhyrchu gan gynnwys geiriau allweddol a disgrifiadau
- sut i ysgrifennu testun sy'n ystyried technegau optimeiddio peiriannau chwilio gan barhau i fod yn ddeniadol ac yn ddarllenadwy i bobl
- sut i ysgrifennu testun ar gyfer cyfrwng aflinol
- unrhyw arferion perthnasol, tôn llais, canllawiau arddulliau neu bolisïau mae angen ichi gydymffurfio gyda nhw
- y ddeddfwriaeth berthnasol yn ymwneud ag eiddo deallusol, hawlfraint, enllib ac anweddustra
- materion defnyddioldeb a'r safonau a'r canllawiau hygyrchedd perthnasol
- unrhyw gyfyngiadau neu ystyriaethau sy'n codi yn sgil defnyddio system rheoli cynnwys ar-lein neu gronfa ddata cynnwys