Creu asedau fideo panoramig ar gyfer gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol

URN: SKSIM18
Sectorau Busnes (Suites): Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu asedau fideo panoramig effeithiol ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol. Gallai'r asedau panoramig fod yn rhai unsain neu stereo, wedi'u ffilmio mewn stiwdios neu leoliadau neu wedi'u creu mewn peiriant gêm neu becyn modelu 3D.   

Mae hyn yn ymwneud â dewis a defnyddio'r cyfarpar cywir a chreu asedau panoramig o'r safon ofynnol ar gyfer prosiectau.

Gallai'r safon hon fod yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.

Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dewis cyfarpar sy'n addas ar gyfer recordio neu greu'r sain a'r lluniau gofynnol
  2. gwirio bod yr holl gyfarpar yn gweithio'n unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
  3. gwirio bod gosodiadau'r camera ar y graddnodiad cywir ar gyfer y saethiadau a'r amodau arfaethedig 
  4. sefydlogi camerâu'n defnyddio'r caledwedd gosod neu drybeddau priodol yn unol â chanllawiau'r gwneuthurwyr
  5. adnabod, a mynd i'r afael gyda chyfarpar yn methu neu'n torri heb unrhyw oedi
  6. asesu lleoliadau ar gyfer addasrwydd a diogelwch gan ddwyn i ystyriaeth gofynion y cynhyrchiad a'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch
  7. sicrhau y caiff yr amgylcheddau saethu eu paratoi ymlaen llaw er mwyn osgoi gorfod ail-saethu neu sicrhau nad oes yna unrhyw wrthrychau neu bobl ddiangen yn y saethiadau
  8. lleihau problemau'n ymwneud â sain ymwthiol neu annisgwyl neu ymyriadau gweledol ar unwaith
  9. defnyddio'r cyfarpar recordio yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch er mwyn osgoi anafiadau i chi'ch hun neu i eraill neu unrhyw niwed i eiddo neu gyfarpar
  10. cadw'r cyfarpar yn ddiogel bob amser
  11. cyfarwyddo'r bobl berthnasol ynghylch y gofynion i greu deunydd panoramig ar adegau priodol
  12. sicrhau y caiff deunydd digonol a pherthnasol ei recordio neu ei greu ar gyfer y diben arfaethedig gan ddwyn i ystyriaeth y cyfanswm o ddeunydd gwreiddiol gaiff ei ddefnyddio yn y cynnyrch terfynol 
  13. cynhyrchu deunydd ar eglurdeb priodol ac ar ffurfiau cydnaws
  14. defnyddio technegau cyfuno fideo sy'n briodol i'r caledwedd rydych chi'n ei ddefnyddio
  15. creu asedau panoramig terfynol heb unrhyw afluniad, arteffactau cyfuno neu namau gweledol eraill
  16. cydnabod a gofyn am gyngor ynghylch materion cyfreithiol neu sy'n ymwneud â chydymffurfio gan y bobl briodol
  17. enwi a labelu deunydd yn unol â'r protocolau y cytunwyd arnyn nhw
  18. storio deunydd yn unol â gofynion y cynhyrchiad gan ystyried y llwyfannau maen nhw'n berthnasol iddyn nhw
  19. cadw cofnodion digonol o ddeunydd, dilyniannau a ffeithiau er mwyn ategu'r gwaith golygu
  20. cynhyrchu cyfarwyddiadau golygu cywir i gyd-fynd gyda'r deunydd 
  21. cwblhau asedau panoramig yn brydlon cyn y dyddiadau cwblhau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​gofynion y cynhyrchiad gan gynnwys y cyfarwyddyd golygyddol, yr hyd a'r arddull penodol gofynnol
  2. ffurfiau fideo, safonau, eglurdeb, dewisiadau trosi a ffurf stereo gofynnol gan y sianel dosbarthu targed
  3. sut mae modd creu dilyniannau panoramig mewn peiriant gêm neu becyn CG arall a'r cyfyngiadau a'r gwahaniaethau pan fyddwch yn cyflawni gwaith ar y ffurf hon o gymharu â ffilmio go iawn
  4. yr egwyddorion sylfaenol ynghlwm â chreu ffilmiau a fideos o ran sut i gyfansoddi delweddau a chynnig amrywiaeth o saethiadau y gellir eu golygu at ei gilydd i adrodd stori
  5. y safonau, yr arferion a'r canllawiau perthnasol gan gynnwys y canllawiau a'r ymarfer gorau i sicrhau bod y defnyddwyr yn gyfforddus a bod y profiad yn un o safon
  6. effaith amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, moeseg, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad ar brosiectau
  7. y mathau taflunio panoramig, y gwahaniaethau rhwng lensys a'r maes gweld, cysyniadau cyfluniad aml-gamera, cysyniadau ffilmio stereo a'r problemau a'r cyfyngiadau ynghlwm â chyfuno fideos panoramig
  8. nodweddion, manteision a chyfyngiadau gweithredol penodol yr amrywiaeth o gamerâu panoramig a stereo panoramig gaiff eu defnyddio gan gynnwys systemau cludadwy ar gyfer rigiau stereo aml-gamera cymhleth 
  9. sut i ganiatáu ar gyfer nodweddion penodol gwahanol feicroffonau
  10. sut i greu, trosi a ffurfio dilyniannau fideo panoramig ar ffurf fono neu stereo ar gyfer gwahanol lwyfannau a gwahanol fecanweithiau cyflawni
  11. sut i ddefnyddio trybeddau, meicroffonau personol, meicroffonau radio, adlewyrchyddion a ffynonellau golau artiffisial
  12. y technegau goleuo sylfaenol
  13. y cyfyngiadau allweddol wrth recordio fideo digidol
  14. y technegau wrth olygu fideos digidol
  15. yr amrywiaeth o saethiadau a'r cyfanswm o ddeunydd sy'n ofynnol ar gyfer golygu
  16. y goblygiadau defnyddio gosodiadau rheoli awtomatig neu osodiadau llaw ar gyfer sain a lluniau, a beth ddylech chi ei ddwyn i ystyried wrth recordio mewn gwahanol sefyllfaoedd
  17. sut i brofi, gwirio, adnabod a chywiro problemau gyda'r cyfarpar

  18. sut i asesu effaith gweledol a nodweddion acwstig stiwdios a lleoliadau

  19. y problemau sy'n gysylltiedig gyda gwrthdyniadau gweledol a sŵn amgylchynol ar leoliad
  20. y gwahanol ystyriaethau ynghlwm â recordio fideo gan wahanol ffynonellau gan gynnwys cyfweliadau, perfformiadau byw, digwyddiadau ar y pryd neu awyrgylchoedd
  21. y protocolau perthnasol ar gyfer enwi, labelu a storio deunydd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIMT7

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

cyfryngau rhyngweithiol; gemau; chwarae gemau; gwefannau, rhaglenni; marchnata ar-lein; AR/VR; 360; technoleg drochol; realiti cymysg; realiti estynedig; defnyddiwr terfynol; aml-lwyfan; aml-sianel; panoramig; asedau fideo; cynnyrch; prototeip; creu;