Modelu asedau 3D ar gyfer gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n creu ac yn modelu asedau 3D i'w defnyddio mewn gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.
Mae'r safon hon yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.
Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â modelu asedau 3D ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- modelu asedau 3D yn unol â gofynion y prosiect
- dylunio asedau amser real gan gydymffurfio gyda'r paramedrau a'r cyfyngiadau penodol ar gyfer y llwyfannau a'r cyfryngau targed
- modelu asedau sy'n ddeniadol, yn rhwydd i'w defnyddio ac sy'n addas i'r diben
- cyfathrebu gyda phobl eraill ar adegau priodol er mwyn sicrhau bod yr asedau'n briodol ac yn bodloni'r gofynion
- cadw'r asedau ar ffurfiau priodol fel bod modd eu hymgyfuno gyda'r prosiectau'n rhwydd
- cynnig dogfennau eglur i eraill allu ymgyfuno'r asedau gyda'r prosiectau
- trefnu'r asedau gan ddefnyddio arferion ffeilio ac enwi priodol fel bod modd i eraill ddod o hyd iddyn nhw'n rhwydd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr egwyddorion a'r technegau ynghlwm â chreu asedau amser real fel modelu eglurdeb uchel ac isel, plethu, lliwio a cherflunio digidol o animeiddiadau 3D
- lle i ganfod gwybodaeth am ofynion y prosiect
- sut caiff pob ased eu defnyddio yn y fersiwn derfynol a sut byddai'n cyfrannu at brofiad y defnyddiwr
- pwy ddylech chi gyfathrebu gyda nhw a phryd mae hi'n briodol gwneud hynny gan gynnwys cyfarwyddwyr, dylunwyr a datblygwyr
- sut i ddefnyddio meddalwedd a pheiriannau 3D safon diwydiant
- sut i gyflawni gwahanol effeithiau gydag asedau a gynhyrchir gan gyfrifiadur gan gynnwys disgleirdeb, adlewyrchedd a garwedd
- y safonau, arferion a'r canllawiau perthnasol sy'n ymwneud â modelu asedau gan gynnwys canllawiau ac ymarfer gorau o ran amrywioldeb, cynhwysiant, moeseg, deallusrwydd emosiynol, seicoleg ymddygiad, cyfforddusrwydd y defnyddiwr ac ansawdd y profiad
- yr egwyddorion dylunio rhyngweithiol yn enwedig gan ystyried defnyddioldeb a hygyrchedd
- effaith paramedrau technegol y llwyfannau targed ar y gwaith gan gynnwys pŵer prosesu, cof, lled band, maint sgrin, eglurdeb, dyfnder lliw a rhyngwyneb defnyddiwr materol