Creu asedau animeiddiedig ar gyfer gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu animeiddiadau ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol. Mae'n tybio eich bod chi'n meddu ar y sgiliau darlunio a sgiliau eraill priodol eisoes i greu animeiddiadau ac mae'n canolbwyntio ar ddefnyddio'r rhain mewn gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.
Gallai ymwneud â chreu cydrannau rhyngwyneb animeiddiedig (fel botymau), trawsnewidiadau wedi'u hanimeiddio rhwng rhyngwynebau, gwrthrychau sy'n animeiddio neu'n symud fel ymateb i ryngweithiad gan y defnyddiwr (fel dewislenni sy'n ehangu) neu asedau cynnwys animeiddiedig mewn prosiectau.
Gallai'r safon hon fod yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.
Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n creu asedau animeiddiedig i'w defnyddio mewn gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dylunio animeiddiadau gan gydymffurfio gyda'r canllawiau arddull penodol
- dylunio animeiddiadau gan gydymffurfio gyda'r paramedrau a'r cyfyngiadau penodol sy'n berthnasol i'r llwyfan targed a'r cyfrwng
- creu animeiddiadau sy'n ddeniadol, yn rhwydd i'w defnyddio ac sy'n addas i'r diben
- creu animeiddiadau mewn ffyrdd sy'n lleihau'r peryg o doriad cynamserol
- cyfathrebu gyda'r awdurdod perthnasol i gaffael cymeradwyaeth ar gyfer animeiddiadau
- cadw animeiddiadau ar ffurfiau priodol fel bod modd eu defnyddio ynghlwm â phrosiectau'n rhwydd
- cynnig dogfennaeth eglur sy'n fodd i eraill ddefnyddio'r animeiddiadau mewn prosiectau
- trefnu animeiddiadau'n defnyddio arferion ffeilio ac enwi priodol fel bod modd i eraill eu canfod yn rhwydd
- cyfathrebu gyda chydweithwyr fel dylunwyr a datblygwyr i sicrhau bod yr animeiddiadau'n briodol ac yn bodloni'r gofynion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
sut i ddehongli a dilyn manylebau neu gyfarwyddiadau eraill gan gynnwys diben y prosiect, defnyddwyr targed a sut caiff pob animeiddiad eu defnyddio mewn prosiectau gan gynnwys pennu a fyddai'n chwarae unwaith, yn chwarae sawl gwaith neu'n chwarae'n ddiderfyn
technegau ar gyfer adnabod disgwyliadau a gofynion y defnyddwyr targed
- galluoedd, cyfleoedd, cyfyngiadau a therfynau technolegau, cyfarpar a dulliau cyfredol gan gynnwys cymhwysedd animeiddio amser real
- effaith amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, moeseg, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad ar brosiectau
- y safonau ac arferion perthnasol yn ymwneud â dylunio rhyngwyneb defnyddiwr
- yr egwyddorion animeiddio traddodiadol a chyfrifiadurol
- yr egwyddorion rhyngweithio dylunio, yn enwedig gan ystyried defnyddioldeb a hygyrchedd
- y digwyddiadau neu'r rhyngweithiadau a fyddai'n sbarduno animeiddiadau a phryd a pam gallai rhai animeiddiadau gael eu hatal yn gynamserol. Hefyd, sut gallai hyn effeithio'n andwyol ar brofiad y defnyddiwr
- sut i ddogfennu animeiddiadau fel bod modd i eraill eu defnyddio'n rhwydd a manteisio ar fframiau neu olygfeydd penodol.
- effaith paramedrau technegol llwyfannau targed ar eich gwaith gan gynnwys pŵer prosesu, cof, lled band, maint sgrin, eglurdeb, dyfnder lliw, rhyngwyneb materol y defnyddiwr
- unrhyw arferion enwi, safonau, canllawiau neu fanylebau y mae angen ichi gydymffurfio gyda nhw ac unrhyw systemau rheoli fersiwn neu biblinellau asedau y mae angen ichi eu defnyddio
- gofynion a disgwyliadau aelodau eraill o'r tîm a fyddai'n defnyddio'r animeiddiadau