Cyfarwyddo cynhyrchu asedau ar gyfer gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud goruchwylio'r gwaith i gynhyrchu asedau i'w defnyddio mewn gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol. Mae'n ymwneud â chynllunio'r gwaith creu asedau, cydweithio gyda chynhyrchwyr asedau i sicrhau bod yr asedau'n addas i'w defnyddio ar gyfer camau'r prosiectau yn y dyfodol a sefydlu piblinellau asedau neu systemau rheoli fersiwn.
Mae'r safon hon yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.
Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â chyfarwyddo'r gwaith creu asedau ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- amlinellu ac egluro'r gofynion i gynhyrchwyr yr asedau fel eu bod yn deall y cyfyngiadau mae angen iddyn nhw gydymffurfio gyda nhw
- cynllunio'r gwaith cynhyrchu asedau fel caiff y gofynion penodol ar gyfer y technolegau rydych chi'n eu defnyddio eu hystyried o'r cychwyn cyntaf
- sicrhau bod yr asedau sydd wedi'u cynhyrchu'n bodloni gofynion y gemau/cyfryngau rhyngweithiol a phrosiectau eraill
- amlinellu'r newidiadau angenrheidiol yn fanwl i'r datblygwyr asedau allu deall pan na fyddai'r asedau'n ddigonol neu pan nad ydyn nhw'n briodol i'w defnyddio mewn gemau neu gynnyrch cyfryngau rhyngweithiol
- sicrhau bod yr asedau a'u ffeiliau ffynhonnell ar ffurfiau sy'n fodd ichi eu defnyddio'n rhwydd yn ystod camau hwyrach y prosiectau
- cynnig dogfennau eglur ar ffurfiau priodol i bobl eraill allu integreiddio asedau eraill i'r gemau neu'r prosiectau cyfryngau rhyngweithiol yn rhwydd ac yn effeithlon
- cyfathrebu gyda chynhyrchwyr yr asedau ac eraill sydd ynghlwm â'r cynnyrch ar adegau priodol yn ystod y broses creu asedau
- sicrhau bod piblinell asedau neu system rheoli fersiwn priodol ar waith a bod cynhyrchwyr yr asedau'n eu deall
- sicrhau bod yr amgylchedd gwaith ar gyfer cynhyrchwyr asedau'n bodloni'r gofynion iechyd a diogelwch
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion, paramedrau a chyfyngiadau'r prosiectau gan gynnwys y ffordd caiff asedau eu defnyddio yn y prosiectau
- galluoedd, cyfleoedd a chyfyngiadau'r technolegau a'r dulliau sydd ar gael gan gynnwys cymhwyster animeiddiad amser real
- y gwahaniaeth rhwng creu asedau ar gyfer cyfryngau traddodiadol a'u creu ar gyfer technoleg drochol a sut gallai dwyn i ystyriaeth anghenion technoleg drochol o'r cychwyn cyntaf leihau problemau yn nes ymlaen yn y broses
- y gwahaniaethau gofynnol ar gyfer datblygu prototeipiau neu'r cynnyrch terfynol
- y safonau, yr arferion a'r canllawiau perthnasol gan gynnwys y rheiny sy'n ymwneud â chyfforddusrwydd y defnyddiwr, ansawdd y profiad ac iechyd a diogelwch y cynhyrchwyr
- effaith amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, moeseg, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad ar brosiectau
- lefel dealltwriaeth pob cynhyrchydd asedau rydych yn cydweithio gyda nhw am y dechnoleg rydych yn ymdrin â hi a sut i gynnig adborth iddyn nhw mewn ffordd diplomataidd
- llwyfan(nau) caledwedd a meddalwedd targed, y ffurfiau ffeiliau y gallan nhw ymdrin â nhw, ac unrhyw gyfyngiadau technegol ynghlwm â nhw
- y technolegau, gwasanaethau, ieithoedd, cyfarpar a'r ymarfer gorau cyfredol sy'n berthnasol i ddatblygiad yr allbynnau
- y gofynion a'r disgwyliadau eraill sydd ynghlwm â'r cynnyrch a sut i baratoi asedau fel bod modd eu defnyddio
- y ffurfiau y gellir trosi'r asedau a'u ffeiliau ffynhonnell iddyn nhw ar gyfer gwahanol dechnolegau a phryd mae hynny'n briodol
- y dogfennau a'r nodiadau cymeradwy y mae'n bosib y bydd eu hangen i gyd-fynd gyda'r asedau a sut i'w paratoi
- effaith eglurdeb delweddau a dyfnder lliw, ynghyd a chyfraddau samplo sain neu fideo a dyfnder did ar faint y ffeil a'r cyfraddau trosglwyddo data
unrhyw arferion enwi, safonau, canllawiau neu fanylebau y mae gofyn ichi gydymffurfio gyda nhw ac unrhyw systemau rheoli fersiwn neu biblinellau asedau y mae angen ichi eu rhoi ar waith
y gofynion iechyd a diogelwch yn ymwneud â'r gweithle er mwyn creu asedau