Paratoi asedau i’w defnyddio mewn gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi asedau i'w defnyddio mewn gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol. Gallai hyn fod yn berthnasol i'r holl asedau gofynnol ar wahân i'r asedau animeiddiedig oherwydd fe gaiff rheiny eu trafod o dan safon wahanol.
Mae'n ymwneud â digideiddio a thrin asedau ynghyd â chynhyrchu asedau ar gyfer holl gyflyrau'r rhyngwyneb defnyddiwr, cywasgu a chadw asedau a darparu asedau i bobl eraill eu defnyddio mewn gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.
Mae'r safon hon yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.
Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n rheoli asedau ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- caffael yr asedau gofynnol yn unol â graddfeydd amser ac amserlenni'r prosiect
- digideiddio asedau a sganio delweddau a'u cadw nhw ar ffurfiau priodol
- tocio, ailfeintio, golygu a newid eglurdeb delweddau a fideos i fodloni gofynion, paramedrau a chyfyngiadau'r prosiect
- adnabod y paramedrau a'r cyfyngiadau a fyddai'n dylanwadu ar eich dewisiadau o ran ffurfiau'r ffeiliau a'r technegau cywasgu
- dewis neu greu paletau lliw ar gyfer delweddau a fideos
- digideiddio sain a cherddoriaeth ar gyfraddau samplo priodol a dyfnderoedd did
- digideiddio fideos ar gyfraddau ffrâm priodol
- trin ffeiliau sain a fideo fel sy'n briodol fel eu bod y maint gofynnol, cael gwared ar unrhyw adrannau diangen ac ychwanegu trawsnewidiadau neu effeithiau eraill
- cywasgu asedau digidol, cydbwyso'r ansawdd o gymharu â maint y ffeil, cyfraddau trosglwyddo data a chyfyngiadau eraill
- dadansoddi gwybodaeth y prosiect i adnabod technolegau a dulliau i'w defnyddio i weithredu dyluniad y rhyngwyneb
- torri a pharatoi cydrannau rhyngwyneb i ofalu bod y broses weithredu dechnegol mor effeithiol â phosib a bod gweithrediad y rhyngwynebau defnyddiwr terfynol mor ddidrafferth a chyflym â phosib
- sicrhau y caiff asedau'r cydrannau ar gyfer holl gyflyrau gofynnol y rhyngwyneb defnyddiwr eu creu
- cadw ffeiliau ar biblinell ased neu systemau rheoli fersiwn priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- paramedrau a chyfyngiadau'r prosiect gan gynnwys llwyfannau targed a'u galluoedd ar gyfer cyflawni asedau
- sut i gyfathrebu gydag eraill i sicrhau eich bod yn caffael yr asedau angenrheidiol ar yr adeg briodol ac ar ffurfiau priodol
- y cyfarpar meddalwedd safon diwydiant a sut i'w defnyddio nhw gan gynnwys cyfarpar trin delweddau digidol a'r cyfarpar golygu fideos a sain
- effaith dyfnder lliw delweddau, eglurdeb a dimensiynau ar faint y ffeil
- effaith cyfraddau ffrâm fideo ac animeiddiad a dimensiynau'r ffrâm ar faint y ffeil a'r cyfraddau trosglwyddo data
- effaith cyfraddau samplo sain a'r dyfnder did ar faint y ffeil a'r cyfraddau trosglwyddo data
- y technegau cywasgu priodol a'r mathau o gywasgu
- sut i gyflawni meintiau ffeil bach a chyfraddau trosglwyddo data isel gan gynnal ansawdd yr asedau
- sut i dorri dyluniadau gweledol er mwyn creu asedau cydrannau ar gyfer holl gyflyrau gofynnol y rhyngwyneb defnyddiwr gan gynnwys botymau
- sut i sicrhau bod yr asedau'n addas i'r diben.
- sut caiff asedau eu defnyddio mewn prosiectau wedi'u cwblhau
- y ffurfiau ffeiliau priodol ar gyfer pob math o ased a sut mae modd eu hategu gan lwyfannau targed a'r cyfarpar awduro arfaethedig
- unrhyw arferion enwi, safonau, canllawiau neu fanylebau y mae gofyn ichi gydymffurfio gyda nhw, ac unrhyw systemau rheoli fersiwn neu biblinellau ased y mae gofyn ichi eu defnyddio
- gofynion a disgwyliadau aelodau eraill y tîm sydd ynghlwm gan gynnwys dylunwyr, datblygwyr, cynhyrchwyr a rheolwyr prosiect.
- sut mae modd ailddefnyddio cynnwys ar gyfer gwahanol lwyfannau