Caffael asedau i’w defnyddio mewn gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chaffael asedau ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol. Gallai hyn ymwneud â chaffael asedau presennol neu gomisiynu rhai newydd. Mae'n ymwneud a derbyn unrhyw ganiatâd gofynnol i'w defnyddio a sicrhau bod yr asedau'n bodloni'r gemau neu'r prosiectau cyfryngau rhyngweithiol.
Mae'r safon hon yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.
Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n rheoli asedau ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod y mathau o asedau angenrheidiol ar gyfer y prosiectau
- cynnal ymchwil i adnabod y ffynonellau priodol a lleoliadau'r asedau
- cyfathrebu gyda'r bobl briodol mewn ffordd adeiladol er mwyn caffael asedau cyfredol neu greu rhai newydd
- caffael yr asedau gofynnol ac unrhyw ganiatâd angenrheidiol i'w defnyddio
- comisiynu unrhyw waith gwreiddiol gofynnol gan arbenigwyr yn unol â'r gweithdrefnau cyfundrefnol
- caffael asedau sy'n bodloni'r ffurf a'r maint gofynnol ynghyd ag unrhyw briodoleddau penodol eraill
- caffael asedau yn unol â chyllidebau, amserlenni a llinellau amser y prosiect
- trefnu'r asedau rydych chi'n eu caffael gan ddefnyddio arferion ffeilio ac enwi priodol er mwyn i eraill allu dod o hyd iddyn nhw'n rhwydd
- cynnal cofnodion manwl gywir o'r wybodaeth berthnasol am yr asedau rydych chi'n eu caffael
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
sut i ddadansoddi gwybodaeth y prosiect i adnabod yr asedau y mae angen ichi eu caffael, pryd mae eu hangen nhw ac unrhyw baramedrau a chyfyngiadau gan gynnwys llwyfannau targed a'u galluoedd ar gyfer cyflawni asedau
defnydd terfynol arfaethedig yr asedau ynghyd ag unrhyw ofynion gan gynnwys maint materol, eglurdeb, dyfnder lliw, cyfraddau samplo a chyfraddau'r fframiau
- y costau ynghlwm â'r gwahanol fathau o asedau a lle i ganfod gwybodaeth am gyllidebau'r prosiectau
- ffynonellau a lleoliadau'r asedau a sut i fanteisio arnyn nhw gan gynnwys llyfrgelloedd delweddau stoc ac archifau fideo
- pwy ddylech chi gyfathrebu gyda nhw i gaffael asedau gan gynnwys rheolwyr hawliau eiddo deallusol, dylunwyr, datblygwyr, cynhyrchwyr a rheolwyr prosiect
- sut i gomisiynu asedau gwreiddiol gan arbenigwyr mewnol ac allanol a phryd mae'n briodol ichi wneud hynny
- pryd byddai angen caniatâd hawliau i ddefnyddio asedau a sut i dderbyn y caniatâd
- arferion enwi, safonau, canllawiau, manylebau, systemau rheoli fersiwn, piblinellau asedau a'r ffurfiau ffeil perthnasol
- gofynion a disgwyliadau aelodau eraill o'r tîm a fyddai'n defnyddio'r asedau
- y manteision a'r anfanteision ynghlwm â defnyddio cynnwys wedi'i greu gan y defnyddiwr
- y datblygiadau cyfredol o ran rheoli hawliau digidol
- y wybodaeth i'w gofnodi am yr asedau rydych chi wedi'u caffael gan gynnwys eu ffynhonnell, perchnogaeth, unrhyw gyfyngiadau o ran eu defnydd, eu lleoliad ac enwau ffeiliau