Datblygu manylebau technegol i greu gemau ac allbynnau prosiectau cyfryngau rhyngweithiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag amlinellu'r dull priodol y dylid ei weithredu i gyflawni allbynnau ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol. Gallai hyn fod yn berthnasol i brototeipiau neu gynnyrch terfynol ac mae'n ymdrin ag amlinellu dulliau, technolegau, gwasanaethau ar-lein, sgriptio, rhaglennu iaith a safonau ansawdd ynghyd â phrofi dulliau drwy ymchwil neu ddefnyddio prototeipiau.
Mae'r safon hon yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.
Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â datblygu manylebau technegol i greu gemau neu allbynnau prosiectau cyfryngau rhyngweithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- caffael gwybodaeth berthnasol am y cynnyrch a'r model busnes ynghyd â'r dyluniadau a'r manylebau gan ffynonellau dibynadwy
- trafod unrhyw wybodaeth amwys neu wybodaeth goll gyda'r bobl berthnasol
- amlinellu'r dulliau, technolegau a'r gwasanaethau ar-lein sy'n bodloni'r gofynion a'r paramedrau technegol ac yn ymwneud â'r ffrwd refeniw
- pennu'r cyfarpar awduro, arwyddnodi, sgriptio a rhaglennu ieithoedd sydd fwyaf priodol i'r gwaith
- amlinellu'r safonau ansawdd neu'r canllawiau sy'n briodol i'r gwaith
- cyflwyno manylebau technegol ar ffurfiau cyfundrefnol sydd wedi'u cymeradwyo
- profi'r syniadau, dulliau, technolegau a'r cyfarpar drwy ymchwil dilys a phrototeipiau
- gwirio gyda'r bobl berthnasol bod y manylebau technegol yn ymarferol
- caffael cymeradwyaeth am y manylebau a'r penderfyniadau gan y bobl berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y diben cyffredinol, y defnydd arfaethedig a'r gofynion, yn enwedig yn ymwneud ag integreiddio gyda systemau eraill a gwaith addasu a chynnal a chadw yn y dyfodol
- sut i ddehongli a dilyn y manylebau a'r cyfarwyddiadau
- pwy ddylech chi gyfathrebu gyda nhw, a sut, gan gynnwys wrth drafod gwybodaeth amwys neu wybodaeth goll, wrth sicrhau bod manylebau technegol yn ymarferol ac wrth gaffael cymeradwyaeth a phenderfyniadau
- y ffynonellau gwybodaeth ar brosiectau, dyluniadau a manylebau gan gynnwys paramedrau a chyfyngiadau'r prosiectau
- diben a strwythur prototeipiau yn gysylltiedig gyda'r dechnoleg sydd wedi'i phennu a'r gwahaniaethau gofynnol er mwyn datblygu prototeipiau a chynnyrch terfynol
- y safonau, yr arferion a'r canllawiau perthnasol gan gynnwys canllawiau a'r ymarfer gorau o ran amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, moeseg, deallusrwydd emosiynol, seicoleg ymddygiad, cyfforddusrwydd y defnyddiwr ac ansawdd y profiad
- y modelau busnes perthnasol a'r ffrydiau refeniw cysylltiedig gan gynnwys y gwerth, chwarae am ddim, pryniannau yn yr app, cynnwys gallwch ei lawr lwytho, hysbysebu gyda chymhellion, hysbysebu cynnyrch a thanysgrifio
- y technolegau, gwasanaethau, ieithoedd, cyfarpar a'r ymarfer gorau perthnasol a chyfredol gan gynnwys y rheiny sy'n ymwneud ag animeiddiad amser real
- arwyddnodi, sgriptio ac ieithoedd rhaglennu, cyfarpar awduro, peiriannau gemau, amgylcheddau datblygu a'r cyfarpar codio sy'n briodol i'ch gwaith
- llwyfannau targed, eu galluoedd a'u paramedrau technegol gan gynnwys pŵer prosesu, cof, lled band, maint sgrin, eglurdeb, dyfnder lliw a rhyngwyneb defnyddiwr materol
- sail technoleg gyfredol y mudiad rydych chi'n gweithio iddo
- yr adnoddau, y galluoedd a'r sgiliau sydd ar gael ar gyfer y prosiect
sut i optimeiddio a pharatoi cynnyrch i'w cyflawni ar wahanol lwyfannau a'r materion technegol a rhesymegol yn gysylltiedig gyda chyflawni rhwng aml-lwyfannau
ffurfiau wedi'u cymeradwyo ar gyfer manylebau