Cynllunio i greu cynnwys ar gyfer gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phennu a chynllunio sut caiff cynnwys gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol eu creu. Mae hyn yn ymwneud ag adnabod negeseuon, themâu a'r bersonoliaeth ar gyfer cynnwys, pennu'r asedau gofynnol, llunio cynllun metadata a datblygu canllawiau, arddulliau penodol a pholisïau ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.
Mae'r safon hon yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.
Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â chynllunio i greu cynnwys ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dadansoddi gwybodaeth berthnasol am y cynnyrch er mwyn adnabod negeseuon, themâu, personoliaeth ac unrhyw agweddau priodol eraill ar gyfer prosiectau
- cyfathrebu gyda noddwyr y prosiect pan fo'n ofynnol er mwyn adnabod y ffactorau sy'n effeithio ar y cynnwys
- pennu lle mae modd defnyddio neu addasu asedau presennol i gyflawni prosiectau, gan ddwyn i ystyriaeth yr hawliau eiddo deallusol
- pennu pa asedau newydd sydd angen eu datblygu i gyflawni prosiectau gan ddwyn i ystyriaeth y sgiliau gofynnol i drin â'r dechnoleg sydd ynghlwm
- cynhyrchu manylebau'r asedau gofynnol ar ffurfiau cyfundrefnol sydd wedi'u cymeradwyo
- pennu cynlluniau metadata i ddosbarthu cynnwys sy'n bodloni gofynion y cynnyrch a'r gofynion technegol
- pennu cyfarwyddiadau ar ffurfiau cyfundrefnol wedi'u cymeradwyo i gynnwys metadata neu wybodaeth ategol arall gyda'r cynnwys
- llunio canllaw, arddulliau penodol a pholisïau sy'n bodloni safonau'r diwydiant ar gyfer profi, defnyddioldeb a hygyrchedd
- cofnodi canllawiau, arddulliau penodol a'r polisïau ar gyfer cyfranwyr cynnwys sy'n eglur, yn realistig, yn berthnasol ac sy'n hawdd manteisio arno
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gaffael gwybodaeth am y cynnyrch sy'n berthnasol i adnabod negeseuon, themâu a'r bersonoliaeth, a'r mathau o asedau y mae'n bosib y bydd angen eu datblygu
- y cyfyngiadau neu'r ystyriaethau yn sgil defnyddio llwyfannau technegol gan gynnwys galluoedd o ran y darlun, pŵer prosesu, y cyfanswm lle storio a'r cyfraddau trosglwyddo data ynghyd â'r sail dechnoleg gyfredol o ran y mudiad rydych yn gweithio iddo
- galluoedd, cyfleoedd a chyfyngiadau'r technolegau a'r dulliau sydd ar gael gan gynnwys cymhwyster animeiddiad amser real
- sut a phryd i gyfathrebu gyda noddwyr y prosiect
- y prosesau cyfundrefnol, problemau gydag adnoddau neu ffactorau eraill a allai effeithio ar allu parhaus noddwr y prosiect i greu, diweddaru a rheoli'r cynnwys
- y cydberthynas rhwng cynnwys, dylunio a thechnoleg gan gynnwys unrhyw gofynion ar gyfer lleoleiddio
- y gwahaniaethau gofynnol ar gyfer datblygu prototeipiau a chynnyrch terfynol
- yr adnoddau, y galluoedd a'r sgiliau sydd ar gael i brosiectau allu manteisio arnyn nhw
- safonau a chanllawiau'r diwydiant o ran amrywioldeb, cynhwysiant, defnyddioldeb, hygyrchedd a moeseg gan gynnwys y rheiny sy'n ymwneud â chyfforddusrwydd y defnyddiwr, ansawdd y profiad, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad
- defnydd testun cyfarwyddol, pan fo'n briodol, materion hygyrchedd yn ymwneud â'r darlun a sut gellir ei addasu gan ddefnyddio asedau eraill
- y technegau er mwyn profi'r cynnwys yn ystod y broses datblygu
- y safonau metadata a'r gallu i ryngweithredu a sut i ddewis neu greu cynlluniau metadata i ddosbarthu cynnwys
y goblygiadau cyfreithiol a chytundebol ynghlwm â defnyddio deunydd lle mae eraill yn berchen ar yr hawliau eiddo deallusol a phryd a lle i ofyn am ganiatâd i ddefnyddio'r deunydd hwnnw
y cyfyngiadau neu'r ystyriaethau sy'n codi yn sgil defnyddio system rheoli cynnwys neu gronfa ddata cynnwys