Meddwl am syniadau ar gyfer gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol arfaethedig
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â meddwl am syniadau gwreiddiol a'u datblygu ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol arfaethedig. Gallai'r syniadau fod ar gyfer prosiectau newydd sbon neu syniadau i wella neu fanteisio ar ddichonoldeb gemau neu gyfryngau presennol. Mae'r safon yn ymwneud â meddwl am a datblygu syniadau dichonol a'u paratoi ar gyfer rhanddeiliaid. Gallwch un ai weithio ar eich liwt eich hun neu gydweithio gydag eraill.
Mae'r safon hon yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.
Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n cyflawni gwaith yn ymwneud â gemau neu gyfryngau rhyngweithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymchwilio a dadansoddi data a gwybodaeth gan ffynonellau dibynadwy er mwyn llywio syniadau
- datblygu syniadau sydd â'r dichonoldeb a'r sylwedd i fodloni gofynion cynhyrchu, modelau busnes, cynhyrchu refeniw a'r farchnad/defnyddwyr
- cynnig gwybodaeth eglur i ddangos sut byddai'r ffurf ac arddull yn cydymffurfio gyda'r gyllideb, y gynulleidfa a'r gofynion allweddol eraill
- defnyddio gwybodaeth gan ffynonellau dibynadwy i amlinellu gwahaniaethau i unrhyw allbynnau tebyg
- llunio cynigion amlinellol a thriniaethau manwl gywir gan ddefnyddio iaith eglur a darbwyllol
- sicrhau bod unrhyw ddeunyddiau blasu rydych chi'n eu creu yn portreadu gwybodaeth ddigonol sy'n fodd i bobl ddeall y syniadau
- addasu triniaethau i fodloni'r gofynion newidiol o ran yr amserlen a'r gyllideb ynghyd ag amodau a chyfleoedd y farchnad
- defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i gadarnhau bod ffactorau risg isel i'r prosiectau a'r cwmnïau sydd ynghlwm
- meddwl am syniadau sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau a'r codau ymarfer perthnasol
- cyflwyno syniadau i'r bobl berthnasol mewn ffordd sy'n sicrhau cyllid, buddsoddiad neu ddosbarthiad
- pennu cynlluniau cynhyrchu a dosbarthu aml-lwyfan gorau posib y gellir eu datblygu ar y cyd â'r syniadau arfaethedig
- annog sesiynau trin a thrafod adeiladol gyda'r bobl berthnasol er mwyn rheoli'r broses datblygu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y strategaethau i ddatblygu syniadau, ffynonellau gwybodaeth am syniadau a phennu hyd a lled cynulleidfaoedd a sut i fanteisio arnyn nhw
- y buddion ynghlwm ag addasu, gwella a datblygu prosiectau presennol a lle i ganfod y wybodaeth i wneud hynny
- pwysigrwydd canolbwyntio ar syniadau a fyddai'n bodloni'r gofynion cyn adnabod y dechnoleg neu'r llwyfannau priodol
- y technolegau cyfredol a'u galluoedd
- sut i ddwyn i ystyriaeth y tueddiadau a'r datblygiadau cyfredol, ynghyd ag anghenion newidiol y diwydiant
- gwahanol genres a disgwyliadau'r masnachwr / defnyddiwr ynghylch pob un
- y gofynion creadigol a chyllidebol a sut byddai'r gyllideb a'r ffactorau technegol a rhesymegol yn effeithio ar syniadau ac amserlenni gwreiddiol
- sut i gadarnhau bod y syniadau'n wreiddiol a ddim yn gwrth-ddweud y rheoliadau neu'r polisïau
- sut i greu deunyddiau blasu effeithiol
- effaith gofynion y noddwyr a'r gynulleidfa / defnyddwyr arfaethedig ar lwyddiant y syniadau
- y safonau, yr arferion a'r canllawiau perthnasol gan gynnwys canllawiau a'r ymarfer gorau i sicrhau bod y defnyddwyr yn gyfforddus a bod y profiad yn un o safon
- effaith amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, moeseg, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad ar brosiectau
- y prif ystyriaethau cyfreithiol a moesegol a fyddai'n effeithio ar ddefnydd y wybodaeth
- sut i leihau ffactorau risg i brosiectau a'r mudiadau sydd ynghlwm
- sut i allanoli gwybodaeth am ddatblygiad ac ymwybyddiaeth o'r farchnad i gyrff trydydd parti sy'n fwy profiadol
- sut byddai'r cynlluniau dosbarthu ac aml-lwyfan gorau posib yn ymarferol ar gyfer y syniadau arfaethedig
- sut i gydweithio gydag eraill mewn modd calonogol ac adeiladol yn ystod y broses datblygu