Paratoi, ychwanegu, tynnu a chynnal a chadw blew wyneb er mwyn newid edrychiad y perfformiwr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i ddefnyddio blew wyneb i newid edrychiad perfformwyr ar gyfer cynyrchiadau.
Mae'n ymdrin ag ychwanegu, gosod a thrin blew wyneb i gyflawni'r dyluniad gofynnol a'r effaith ddymunol.
Mae'n ymwneud â dewis y blew wyneb y byddwch chi'n ei ddefnyddio gan ystyried y canlynol:
- math croen y perfformiwr
- yr angen am wydnwch
- effeithiau arfaethedig ar wallt wyneb yn sgil amodau yn ystod saethu
- y technegau trin gofynnol
- effeithiau nwyddau steilio a gorffennu ar blew wyneb
- yr edrychiad gofynnol
Mae'n ymwneud â sicrhau bod y perfformwyr yn gyfforddus a'u bod yn gwbl ymwybodol o'r broses ychwanegu a gosod y blew wyneb. Mae'n ymdrin â dewis gludion, sy'n gweddu i'r croen, paratoi'r croen a gweithredu pe bai adwaith niweidiol.
Mae'r safon hon yn berthnasol i'r holl rolau ond mae'n fwyaf perthnasol i gynorthwywyr gwallt a cholur.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- hysbysu'r perfformwyr o'r broses ychwanegu a gosod blew wyneb a chadarnhau eu bod yn eistedd yn gyfforddus ar gyfer y broses
- gwirio croen y perfformwyr am adweithiau niweidiol posib i ludion, tynwyr a blew wyneb
- gweithredu os ydy'r glud croen yn niweidio'r croen
- cofnodi ffitiadau cywir ar gyfer y blew wyneb a chofnodi'r deilliannau
- y blew wyneb sy fwyaf priodol ar gyfer math croen y perfformwyr ac anghenion y cynhyrchiad
- dewis y mathau o ludion i osod blew wyneb gan ystyried adweithiau niweidiol posib i'r croen a symudedd a sefydlogrwydd gofynnol y blew wyneb
- blocio a thrin blew wyneb i fodloni'r gofynion dylunio a'r math o wallt wyneb rydych chi'n ei ddefnyddio
- paratoi'r perfformiwr ar gyfer ychwanegu blew wyneb
paratoi darnau les a gwallt cyn eu gosod
ychwanegu gwallt wyneb a gwallt rhydd gan gydymffurfio gyda'r cyfarwyddyd dylunio
- cadarnhau bod y blew wyneb a gwallt rhydd yn cynhyrchu'r effaith ddymunol gyda'r unigolyn perthnasol
- tynnu, cadw, a chynnal blew wyneb a gwallt rhydd
- cynnal a chadw blew wyneb, offer a chyfarpar gan ddefnyddio'r dulliau a'r deunyddiau glanhau penodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion dylunio a gafodd eu rhoi i chi gan yr unigolyn perthnasol
- cyfyngiadau amserlen y cynhyrchiad o ran yr amser a'r gyllideb
- y ddeddfwriaeth, polisïau a'r canllawiau iechyd a diogelwch ar gyfer ychwanegu a thynnu blew wyneb
- sut i gymryd mesuriadau ar gyfer ffitiad wyneb ac addasu blew wyneb i'r perfformiwr unigol
- pwysigrwydd caffael a dewis blew wyneb ar gyfer math croen y perfformiwr a gofynion y cynhyrchiad
- sut i baratoi'r gwallt cyn ychwanegu blew wyneb
- sut i osod gwallt rhydd
- sut i ychwanegu estyniadau i farfau
- sut i gyflawni gwiriadau croen
- sut i weithredu pan fo adwaith niweidiol i'r croen
- y meini prawf i'w hystyried wrth ddewis blew wyneb, deunyddiau a gludion a lle i gaffael cyflenwyr
- gofynion dylunio'r cynhyrchiad
- sut i gynnal a chadw blew wyneb
- y gwahanol dechnegau trin ar gyfer y darnau les a gwallt dynol
- sut i flocio a thrin blew wyneb yn unol â’r
gofynion dylunio - sut i dynnu blew wyneb yn ddiogel
- lle a sut i gadw blew wyneb
- sut i gynnal a chadw'r offer a'r cyfarpar