Creu rhannau prostheteg bach a chapiau moel
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu capiau moel a rhannau prostheteg bach fel nodweddion y wyneb a chreithiau i'w defnyddio mewn cynyrchiadau.
Gan fod angen cynhyrchu castiau ar gyfer rhannau i greu rhai rhannau prostheteg bach bydd angen ichi ddangos eich bod chi'n gallu castio rhannau.
Mae modd creu rhai rhannau heb orfod creu cast a bydd angen ichi ddangos eich bod chi'n gallu creu'r rheiny hefyd. Bydd gofyn ichi greu patrwm i ffitio siâp pen y perfformiwr unigol er mwyn cynhyrchu cap moel. Yn olaf, bydd gofyn ichi drin y perfformiwr gyda gofal a sicrhau eu bod nhw mor gyfforddus â phosib yn ystod y broses.
Mae'r safon hon yn berthnasol i sawl rôl ond mae'n fwyaf perthnasol i artistiaid colur neu artistiaid prostheteg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau a oes gan y perfformiwr unrhyw gyflyrau meddygol a allai eu hatal rhag derbyn cast
- caffael cyngor meddygol a chaniatâd y perfformiwr lle'n briodol
- cynnal gwiriadau ar y croen a gweithredu pan fo adwaith niweidiol ar y croen
- sicrhau eich bod yn paratoi a gorchuddio croen, gwallt, gwallt yr wyneb a dillad y perfformiwr
- gosod y perfformiwr gan sicrhau eu bod nhw mor gyfforddus â phosib
- egluro'r technegau paratoi, castio a thynnu'r brostheteg i'r perfformiwr a chynnig cyfle iddyn nhw ofyn unrhyw gwestiynau
- sicrhau bod y perfformiwr yn ymwybodol o'r protocol pe bai argyfwng yn ystod y broses gosod a gwisgo'r rhannau prostheteg
- caffael atgynhyrchiad o nodweddion y perfformiwr heb ddiffygio neu ystumio'r cast
- tynnu'r cast yn ddiogel ac adfer croen a gwallt y perfformiwr i'w gyflwr gwreiddiol
- creu cerfluniau a mowldiau gan ddefnyddio'r technegau, deunyddiau a'r dulliau priodol
- creu rhannau prostheteg bach y gallwch eu gosod ar y perfformiwr yn uniongyrchol gan ddefnyddio'r dechneg, deunyddiau a'r dulliau priodol
- sicrhau bod y cerflun a'r mowld yn bodloni'r holl ofynion technegol er mwyn gallu cynhyrchu'r rhan prostheteg orffenedig
- creu patrwm ar gyfer y rhannau prostheteg a/neu'r capiau moel sy'n ffitio siâp pen unigryw'r perfformiwr
- trosglwyddo'r patrwm i flocyn siâp pen
- creu capiau moel gan ddefnyddio'r technegau, deunyddiau a'r dulliau priodol
- gorffen, cadw a thynnu mowldiau a phrostheteg i osgoi dirywiad, ystumiad a difrod
- cadw cofnodion yn ymwneud â defnyddio mowldiau a phrostheteg
- cyfathrebu gyda darparwyr trydydd parti i gaffael rhannau prostheteg a chapiau moel fel sy'n ofynnol
- cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth, y polisïau a'r canllawiau iechyd a diogelwch wrth greu a gosod rhannau prostheteg a chapiau moel
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion y cyfarwyddyd dylunio a chyfyngiadau'r adran
- yr amserlen a'r gyllideb ar gyfer y cynhyrchiad
- sut i adnabod a chyfathrebu gyda darparwyr trydydd parti ar gyfer gwaith prostheteg
- y ddeddfwriaeth, y polisïau a'r canllawiau iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i gastio rhannau a chreu rhannau prostheteg bach a chapiau moel
- pwysigrwydd gwirio oes gan y perfformiwr hanes o alergeddau a sensitifeddau eraill
- pa wiriadau i'w cynnal i wirio ydy'r croen yn addas ac am adweithiau niweidiol
- sut i weithredu pan fo adwaith niweidiol
- symudoldeb a sefydlogrwydd gofynnol y rhannau prostheteg
- y gwahanol dechnegau, deunyddiau a'r dulliau i'w rhoi ar waith i greu'r mowldiau a'r rhannau prostheteg
- y prosesau ar gyfer creu rhannau prostheteg bach gan gynnwys; y technegau paratoi, gweithdrefnau castio a thynnu, gweithdrefnau mewn argyfwng, gosod ac uno adrannau a thrimio a marcio'r argraffiad cadarnhaol
- sut i atgynhyrchu nodweddion y perfformiwr heb ddiffygio neu ystumio'r cast
- y technegau, deunyddiau a'r dulliau priodol i greu cerfluniau a mowldiau
- oes angen cyflawni gweithdrefnau castio, cerflunio neu fowldio cyn gosod y rhannau prostheteg
- sut i sicrhau bod y cerflun a'r mowld yn bodloni'r holl ofynion technegol i gynhyrchu rhan prostheteg terfynol a boddhaol
- sut i dynnu'r cast yn ddiogel ac adfer croen a gwallt y perfformiwr i'w gyflwr gwreiddiol
- sut i lunio patrwm i ffitio siâp pen unigryw'r perfformiwr a sut i drosglwyddo'r patrwm i flocyn siâp pren
- y technegau, deunyddiau a'r dulliau priodol i greu'r capiau moel