Ychwanegu a thynnu effeithiau arbennig i newid edrychiad y perfformiwr

URN: SKSHWMP7
Sectorau Busnes (Suites): Gwallt, Wigiau, Colur a Phrostheteg ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn mesur eich gallu i ychwanegu colur effeithiau arbennig a chapiau moel i addasu edrychiad perfformwyr ar gyfer cynyrchiadau.

Mae'n ymwneud â chyflawni'r gwiriadau priodol i wirio am unrhyw adweithiau a allai niweidio croen y wyneb a'r pen a sicrhau bod y perfformwyr yn gyfforddus yn ystod y broses dodi'r colur ac ati. Mae'n ymwneud ag asesu a ydy gwahanol fathau o groen wyneb a phen yn addas ar gyfer deunyddiau colur effeithiau arbennig a'r capiau moel y byddwch chi'n eu defnyddio.

Mae'r safon hon hefyd yn ymdrin â gweithredu'n briodol pan fo colur effeithiau arbennig neu gapiau moel yn dirywio mewn amodau saethu ac ystyried y rheoliadau iechyd a diogelwch priodol. 

Mae'r safon hon yn berthnasol i'r holl rolau ond mae'n fwyaf perthnasol i gynorthwywyr gwallt a cholur neu dechnegwyr effeithiau arbennig.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​gosod perfformwyr ar gyfer ychwanegu'r effeithiau arbennig er mwyn sicrhau eu bod mor gyfforddus â phosib
  2. hysbysu'r perfformwyr o'r camau ychwanegu effeithiau arbennig a'u hannog i ofyn unrhyw gwestiynau
  3. gwirio'r colur effeithiau arbennig a'r capiau moel rydych yn bwriadu eu hychwanegu at groen a phen y perfformiwr am unrhyw adweithiau niweidiol
  4. paratoi croen y wyneb a'r pen ar gyfer y mathau o ddeunyddiau y byddwch chi'n eu defnyddio
  5. ychwanegu colur a'r capiau moel effeithiau arbennig mewn ffordd sy'n sicrhau y cân nhw eu cynnal o dan wahanol amodau saethu
  6. gweithredu pe bai'r deunyddiau effeithiau arbennig yn achosi adweithiau niweidiol i groen neu groen pen neu pan fo nhw'n malurio o dan wahanol amodau saethu
  7. gosod y capiau moel gan sicrhau bod y ffit, tyndra a gwead yn cydymffurfio â chyngor yr unigolyn perthnasol 
  8. chwistrellu paent ar gapiau croen a chroen mewn mannau eraill fel eu bod o'r lliw a'r arlliw gofynnol
  9. ychwanegu colur effeithiau arbennig penodol yn y drefn ofynnol gan ddefnyddio'r technegau y bu i'r unigolyn perthnasol eu hawgrymu
  10. ychwanegu neu beintio tatŵs yn ôl y cyfarwyddiadau a chadarnhau eu bod yn cyflawni'r effaith greadigol ofynnol
  11. tynnu tatŵs wedi'u gosod neu eu peintio yn unol â pholisïau neu ganllawiau'r cynhyrchiad
  12. cadarnhau bod yr effeithiau arbennig gorffenedig yn cydymffurfio gyda meini prawf y cynhyrchiad o ran y dyluniad
  13. tynnu'r colur effeithiau arbennig a'r capiau moel er mwyn sicrhau bod y perfformiwr mor gyfforddus â phosib

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y gofynion dylunio y bu ichi eu derbyn gan yr unigolyn perthnasol
  2. cyfyngiadau amserlen y cynhyrchiad o ran amser a chyllideb
  3. y gwahaniaeth rhwng gwallt a cholur effeithiau arbennig a cholur a
    gwallt cywirol sylfaenol
  4. sut i wirio am adweithiau niweidiol i groen a chroen y pen
  5. pa weithrediadau i'w cyflawni pan fo colur effeithiau arbennig neu gapiau moel yn dirywio neu'n achosi adweithiau niweidiol i'r croen
  6. dulliau paratoi'r croen a chroen y pen
  7. y gwahanol amodau saethu a sut gallai hyn effeithio ar golur a'r capiau moel effeithiau arbennig
  8. sut i osod capiau moel fel bod y ffit, y gwead a'r tyndra yn briodol
  9. y technegau chwistrellu paent a sut i'w chwistrellu ar groen a deunyddiau gwneud
  10. y technegau taenu colur
  11. gofynion y cynhyrchiad o ran y dyluniad
  12. y technegau i beintio tatŵs gyda llaw a'u taenu gyda stensiliau neu drosluniau
  13. sut i dynnu tatŵs gan defnyddio’r dulliau a'r deunyddiau priodol
  14. sut i dynnu colur effeithiau arbennig a chapiau moel gan achosi cyn lleied o niwed i'r perfformiwr â phosib
  15. y ddeddfwriaeth, y polisïau a'r canllawiau iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i daenu colur effeithiau arbennig a gosod capiau moel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSHM6

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

effeithiau arbennig, perfformiwr, edrychiad , capiau moel, technegydd effeithiau arbennig, gwallt, colur, gofynion y cynhyrchiad, iechyd a diogelwch